Siamanaeth

Oddi ar Wicipedia
Siaman ymysg y Sami gyda'i ddrwm.

Siamanaeth yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio credoau ac arferion traddodiadol sy'n gysylltiedig â chyfathrebu ag ysbrydion a'r byd anweledig. Daw'r gair "siaman" yn wreiddiol o Dwrceg gogledd Asia, yn enwedig Siberia a Mongolia, ond erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o anthropolegwyr yn ei ddefnyddio i ddisgrifio arferion tebyg mewn rhannau eraill o'r byd, ymysg brodorion Gogledd a De America, er enghraifft.

Valentin Hagdaev - prif shaman Olkhon. Llyn Baikal, Buryatia, Siberia.

Nodweddion cyffredinol siamanaeth yw:

  • Cred fod ysbrydion â rhan bwysig ym mywyd pobl.
  • Cred fod y siaman yn medru rheoli'r ysbrydion neu sicrhau eu cydweithrediad.
  • Gall yr ysbrydion fod yn dda neu'n ddrwg.
  • Defnyddir gwahanol dechnegau gan y siaman i fynd i lewyg; er enghraifft canu, dawnsio, synfyfyrio, ac eraill.
  • Mae gan anifeiliaid ran bwysig, fel negeseuwyr neu gynrychiolwyr yr ysbrydion.
  • Credir fod ysbryd y siaman yn gadael ei gorff i fynd i fyd yr ysbrydion.
  • Cred fod y siaman yn medru iacháu.