Y Lapdir

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lleoliad y Lapdir yn Ewrop.

Rhanbarth daearyddol yng ngogledd Llychlyn sy'n bennaf o fewn Cylch yr Arctig yw'r Lapdir[1] (Norwyeg a Swedeg: Sameland, Ffinneg: Lappi). Mae'n ymestyn o Fôr Norwy i'r Môr Gwyn, ar draws gogledd Norwy, gogledd Sweden, gogledd y Ffindir, a Gorynys Kola yn Rwsia, efo Môr Barents i'r gogledd. Mae'n gartref i'r Lapiaid neu'r Sámi.

Y Lapdir ydy cwr mwyaf gogleddol tir mawr Ewrop. Gorweddai'n gyffredinol rhwng Cylch yr Arctig a lledred 71° i'r gogledd, a rhwng hydred 15° a 43° i'r dwyrain. Mae gan y rhanbarth arwynebedd o 100,000 km², gan gynnwys bron 8,000 km² o ddŵr, hynny yw y llynnoedd sydd yn niferus yng ngogledd Llychlyn.

Nodweddir tirwedd y Lapdir gan fynyddoedd geirwon, ac ychydig o wastatir sydd yn naill ai coedydd tywyll, diffeithfaoedd caregog, neu wastadoedd corsog, heb braidd ddim ohonno yn werth ei drin. Tarddai'r nifer fwyaf o afonydd y Lapdir o fynyddoedd Norwy ac yn llifo i Wlff Bothnia yn y Môr Baltig, rhwng Sweden a'r Ffindir. Ymhlith y coed lluosog yn yr ardal mae ffawydd, bedw, aethwydd, helyg, ac ysgo.

Yr anifeiliaid mwyaf eu maint yn y Lapdir yw carw Llychlyn, yr elc, yr arth frown, a'r blaidd. Ymhlith y mamaliaid eraill mae'r bele, y carlwm, y gewai, y llwynog, a'r afanc. Mae'r adar sydd i'w gweld yn aml yn y Lapdir yn cynnwys y gïach a'r gwyach, ac ymhlith pysgod yr ardal mae'r eog a'r brithyll.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 43.