Carlwm

Oddi ar Wicipedia
Carlwm
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Genws: Mustela
Rhywogaeth: M. erminia
Enw deuenwol
Mustela erminia
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad daearyddol

Mamal cigysol bach o deulu'r Mustelidae yw'r carlwm (Mustela erminia). Mae'n debyg i'r gwenci ond yn fwy, ac mae ganddo gynffon hirach â blaen du. Mae corff a phen y carlwm gwrywaidd tua 28–31 cm (10–12 modfedd) o hyd; mae rhai'r fenyw yn 24–29 (9½–11½ modfedd); mae'r gynffon tua 9.5–14 cm (3¾–5½ modfedd).[1]

Mae'n byw mewn ffermdir, glaswelltir a choetir yn rhanbarthau gogleddol yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Mae'n gallu byw hyd at oddeutu 5 mlynedd, neu 6-8 oed yn eithriadol, ond fel arfer nid yw'n goroesi mwy nag 1–2 oed.

Mae carlymod yn bwyta mamaliaid bychain yn bennaf, yn enwedig cwningod a llygod dŵr lle mae'r rhain yn doreithiog. Byddant hefyd yn bwyta adar, wyau, ffrwythau a hyd yn oed pryfed genwair pan fydd bwyd yn brin.

Carlwm yn ei gôt ffwr gwyn gaeafol

Yn yr haf, mae blew ei gefn a'i ben yn gochfrown ac mae ei fol yn liw hufen neu yn wyn. Yn y hydref mae'n bwrw ei flew tywyll gyda'r canlyniad bod ganddo gôt welw yn y gaeaf. Yn y rhanbarthau mwyaf gogleddol, gall ei ffwr fod yn hollol wyn ar draws ei gorff cyfan, heblaw am y gynffon â blaen du. Yn y gwanwyn mae'n bwrw ei flew gwelw ac yn adennill ei gôt frown.

Gelwir côt wen aeafol y carlwm yn "ermin", ac yn draddodiadol mae masnach grwyn wedi ei gwerthfawrogi, yn enwedig i ddarparu'r deunydd ar gyfer gwisg seremonïol brenhinoedd, breninesau ac uchelwyr. Mae'r ermyn[2] yn symbol mewn herodraeth a banereg fel gwelir ar faner Llydaw.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Stoat", Gwefan The Mammal Society; adalwyd 19 Chwefror 2021
  2. "Ermin Ermyn". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 25 Awst 2023.
Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.