Gwenci
Gwedd
| Gwenci | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carnivora |
| Teulu: | Mustelidae |
| Genws: | Mustela |
| Rhywogaeth: | M. nivalis |
| Enw deuenwol | |
| Mustela nivalis Linnaeus, 1766 | |
Mamal cigysol bach o deulu'r Mustelidae yw'r Wenci neu Fronwen (Mustela nivalis). Mae'n byw mewn ffermdir, glaswelltir a choetir yn Ewrop, Asia a Gogledd America. Mae'n bwydo ar famaliaid bychain megis llygod ac ar adar a'u hwyau. Mae'r corff a phen yn 13–23 cm o hyd ac mae'r gynffon yn 3–6 cm. Mae ei ffwr yn gochfrown ar y cefn ac yn wyn ar y bol. Mae'n debyg i'r Carlwm ond yn llai ac mae ganddi gynffon fyrrach heb flaen du.