Llygoden

Oddi ar Wicipedia
Llygoden fach
Amrediad amseryddol: Mïosen hwyr - heddiw
Llygoden y tŷ, Mus musculus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mamalia
Urdd: cnofilod
Uwchdeulu: Muroidea
Teulu: Muridae
Is-deulu: Murinae
Genws: Mus
Linnaeus, 1758
Rhywogaeth

30 rhywogaeth

Cnofil bychan hollysol o deuluoedd y Muridae a'r Cricetidae yw llygoden (enw benywaidd; lluosog: llygod), sy'n hawdd ei hadnabod ar ei thrwyn pigfain, llygaid treiddgar, clustiau crwm a chynffon fain ddi-flew neu bron heb flew. Y mwyaf cyffredin yw llygoden y tŷ (Mus musculus) a chaiff ei magu fel anifail anwes. Mewn rhai cynefinoedd mae llygoden y coed (Apodemus sylvaticus) hefyd yn gyffredin iawn. Mae'n ysglyfaeth i rai adar mawr eu maint megis y cudyll, y dylluan a'r eryr a mamaliaid eraill megis y gath a'r neidr. Ar adegau maent yn dod i fewn i dai pobl a gallant lochesu oddi fewn i hen waliau.

Gallant ar adegau fod yn bla, gan fwyta a difetha cnyda'r amaethwr[1] gan achosi cryn golled a lledaenu afiechydon drwy'r parasitiaid sy'n byw arnynt a thrwy eu hysgarthiad.[2] Yng Ngogledd America, mae anadlu llwch sy'n cynnwys eu hysgarthiad wedi'i gysylltu gyda hantavirus, a all, yn ei dro, achosi Hantavirus Pulmonary Syndrome (HPS).

Anifail nosol ydynt yn bennaf sy'n dibynnu ar eu clyw yn hytrach na'u golwg.[3][4] Mae eu synnwyr arogli hefyd wedi'i fireinio'n arbennig iawn, yn enwedig er mwyn canfod bwyd a lleoli helwyr fel cathod.[5]

Mewn llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Rhyddhau 100 o lygod pengron y dŵr ym Mro Morgannwg
  • Crogi llygoden: Yn nhrydedd gainc y Mabinogi (sef chwedl Manawydan fab Llŷr) mae Manawydan, brawd Branwen a Brân Fendigaid a Phryderi yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio mewn caer hud, ac yna mae Rhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r lygoden. Datgelir mai gwraig feichiog Llwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaill Gwawl fab Clud ei gamdrin gan Pwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.
  • 'Crogi Llygoden' - cân gan Geraint Jarman.[6]
  • Ceir hen bennill enwog am ddwy lygoden:
Mi welais ddwy lygoden
Yn cario Pont Llangollen,
Rownd-abowt o gylch y ddôl
Ac yn eu hôl drachefen!

Rhywogaethau o ‘lygod’ yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Dwy gneuen wedi'u cafnu gan llygoden y coed a llygoden goch yn eu tro

Llygod bach[golygu | golygu cod]

Llygod mawr[golygu | golygu cod]

Llygod pencrwn[golygu | golygu cod]

Llygon (chwistlod)[golygu | golygu cod]

(dim wir yn llygod o gwbl)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meerburg BG, Singleton GR, Leirs H (2009). "The Year of the Rat ends: time to fight hunger!". Pest Manag Sci 65 (4): 351–2. doi:10.1002/tud.1718. PMID 19206089. http://www3.interscience.wiley.com/journal/121686000/abstract. Adalwyd 2012-12-24.
  2. Meerburg BG, Singleton GR, Kijlstra A (2009). "Rodent-borne diseases and their risks for public health". Crit Rev Microbiol 35 (3): 221–70. doi:10.1080/10408410902989837. PMID 19548807. http://www.informahealthcare.com/doi/pdf/10.1080/10408410902989837.
  3. Behney - Explorations of Deer-Mouse
  4. The Field Mouse
  5. "The Humane society of the United States". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-01-22. Cyrchwyd 2012-12-24.
  6. Gwefan Last FM; adalwyd 24/12/2012

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am llygoden
yn Wiciadur.