Herodraeth
Gwyddor a chelfyddyd arfau ac arwyddion yw herodraeth.[1] Defnyddir symbolau herodrol i gynrychioli unigolion a theuluoedd, lluoedd milwrol, sefydliadau, corfforaethau a gwledydd. Tarddodd y fath arwyddion fel modd o adnabod unigolion ar faes y gad. Rhoddid yr arfbeisiau gwreiddiol yn arwyddnod milwrol ar darian y marchog a'i ryfelwyr. Ffynodd ddyluniadau herodrol yn yr Oesoedd Canol er mwyn dynodi teuluoedd brenhinol, tai'r bonedd, teitlau pendefigaidd, urddau crefyddol ac eglwysi, a byddinoedd. Dros amser daeth y dyluniadau'n hynod o gymhleth a herodraeth yn faes arbenigol. Datblygodd system ffurfiol iawn o dynnu arfbeisiau ac iaith dechnegol i ddisgrifio nodweddion a motiffau'r arwyddion. Rhoddir arwyddluniau ac arfbeisiau ar fathodynnau, baneri a seliau.
Hen enw arni yw arwyddfarddoniaeth.[2]
Pwysigrwydd y beirdd
[golygu | golygu cod]Daw llawer o'n gwybodaeth am herodraeth Cymru a'r termau Cymraeg am y grefft gan waith ein beirdd. Ymysg y pwysicaf i gofnodi dyluniad arfau brenhinol neu uchelwyr oedd Guto'r Glyn, Lewis Glyn Cothi, a Gutun Owain a gyfeiria at y grefft yn eu gwaith barddonol a llawysgrifol.[3] Gelwir y traethawd herodrol cynharaf yn y Gymraeg yn ‘Llyfr Dysgread Arfau’ neu ‘Llyfr Arfau’ ac, yn ôl un o’i gopïwyr diweddarach, fe’i cyfieithwyd o Ffrangeg neu Ladin gan Siôn Trefor (nis gwyddir pa un, gan fod dau Siôn Trefor o'r un cyfnod). Ceir y copi cynharaf o’r ‘Llyfr Arfau’ yn llawysgrif Coleg yr Iesu, Rhydychen 141, a ysgrifennwyd gan y bardd Gutun Owain rhwng 1471 a c.1500.[3]
Rheol Tintur
[golygu | golygu cod]Ceir rheolau neu canllawiau ar gyfer y defnydd o liw mewn herodraeth a luniwyd gan y Cymro, Humphrey Lhuyd. Yr enw ar y rheol yw Rheol Tintur a'i byrdwn sylfaenol, syml yw, "dim metal ar fetal, na lliw ar liw", hynny yw, er enghraifft, ni ddilyn rhoi delwedd melyn ar gefndir gwyn neu ddelwedd goch ar gefndir las.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ herodraeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
- ↑ arwyddfarddoniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2019.
- 1 2 "Cymru Guto - Arfbeisiau". Gwefan Guto'r Glyn. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2026-07-02. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2026.