Humphrey Lhuyd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Humphrey Lhuyd
Humphrey.Llwyd.png
Ganwyd 1527 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw 1568 Edit this on Wikidata
Alma mater Coleg y Trwyn Pres, Rhydychen Edit this on Wikidata
Gwaith Mapiwr edit this on wikidata
Cartre'r Llwydiaid yn Foxhall, Dinbych
Yr Eglwys Wen (neu 'Llanfarchell'), Dinbych, lle'i claddwyd
Cofeb neu feddrod Llwyd, gyda glôb ar ei ben i nodi'i gyfraniad i gartograffeg; Yr Eglwys Wen.

Meddyg, cartograffydd, hynafiaethydd ac awdur Cymreig oedd Humphrey Lhuyd, weithiau Humphrey Llwyd (152731 Awst 1568).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed ef yn Foxhall yn Ninbych yn fab i Robert Llwyd (a oedd yn ddisgynydd i Harry Rossendale, un o swyddogion 3ydd Iarll Lincoln). Symudodd Foulk Rosindale o Loegr i Gymru a phriododd un o deulu Llwydiaid Aston, o ble daeth y cyfenw gan roi enw'r Foulkes ar y plasdy newydd 'Foulkes Hall' - Foxhall bellach, sy'n dal i sefyll.

Fe'i addysgwyd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen ac roedd yn gyfoeswr i Thomas Salisbury a William Morgan. Bu'n feddyg preifat i Henry FitzAlan, 19eg Iarll Arundel am gyfnod, cyn dychwelyd i Ddinbych ym 1563. Ynghyd â llyfrgell Arundel, ei lyfrgell personol ef oedd craidd y Casgliad Brenhinol - a gedwir heddiw yn y Llyfrgell Brydeinig.[1] Bu'n Aelod Seneddol dros East Grinstead yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, Brenhines Lloegr (1559).

Ei arwyddair oedd: Hwy pery klod na golyd.[1] Cedwir ar glawr marwnad iddo gan Lewis ab Edward. Priododd Barbara, aeres yr Arglwydd Lumley, a bu iddynt bedwar o blant. Bu farw yn Ninbych, a chladdwyd ef yn yr Eglwys Wen yno.

Ei waith[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal a'r cyhoeddiadau a nodir isod, cyhoeddodd Lhuyd The Description of Cambria, fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr John Prise, Aberhonddu. Defnyddiodd David Powel y gwaith hwn fel sylfaen i'w lyfr The Historie of Cambria (1584).

Roedd yn adnabod Abraham Ortelius, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i Theatrum Orbis Terrarum Ortelius yn 1573, un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr. Rhain oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd hyn i'w hargraffu ar wahan.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • An Almanack and Kalender containing the Day, Hour, and Minute of the Change of the Moon for ever
  • Cronica Walliae (1559)
  • De Mona Druidium Insulâ (sef 'Ynglŷn â Derwyddon Ynys Môn')
  • Commentarioli Descriptionis Britannicae Fragmentum (Cwlen, 1572) - cyfieithwyd i'r Saesneg gan Thomas Twyne fel The Breviary of Britayne (1573)
  • The Treasury of Health (1585)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 R. Brinley Jones, ‘Llwyd, Humphrey (1527–1568)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2004

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]