Abraham Ortelius
Gwedd
| Abraham Ortelius | |
|---|---|
| Ganwyd | 14 Ebrill 1527, 14 Ebrill 1527, 4 Ebrill 1527 Antwerp, Antwerp |
| Bu farw | 28 Mehefin 1598, 29 Mehefin 1598 Antwerp |
| Dinasyddiaeth | yr Iseldiroedd Sbaenaidd |
| Galwedigaeth | mapiwr, hanesydd, engrafwr, daearyddwr, archeolegydd, afsetter, cyhoeddwr, map drawer |
| Adnabyddus am | Theatrum Orbis Terrarum |
| Arddull | map |
| llofnod | |
![]() | |
Cartograffydd a hynafiaethydd o Fflandrys oedd Abraham Ortelius (14 Ebrill 1527 - 28/29 Mehefin 1598). Ei waith enwocaf yw'r Theatrum Orbis Terrarum, atlas o'r byd cyfan (fel y'i adnabuwyd ar y pryd) a gydnabuwyd fel y casgliad safonol o fapiau ar ddiwedd yr 16g a dechrau'r ganrif olynol.[1]
Teithiodd Ortelius yn eang i gasglu gwybodaeth a hynafiaethau. Cafodd swydd fel daearyddwr yn llys Felipe II, brenin Sbaen, yn 1575.
Roedd yn adnabod yr hynafiaethydd Cymreig Humphrey Lhuyd, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i Theatrum orbis terrarum Ortelius yn 1573, un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rebecca Stefoff (1995). The British Library Companion to Maps and Mapmaking (yn Saesneg). British Library. t. 209. ISBN 978-0-7123-0650-8.
