Baner Llydaw

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Baner Llydaw

Mae Baner Llydaw, y Gwyn a Du (yn Llydaweg: Gwenn-ha-du) yn cynnwys naw stribedyn llorweddol gwyn a du, a smotiau ermin yn y gornel chwith uchaf. Fe'i crewyd ym 1923 gan Morvan Marchal, gan ddefnyddio fel ysbrydoliaeth arfbais dinas Roazhon a baneri'r Unol Daleithiau a Gwlad Groeg. Mae'r stribedi llorweddol yn cynrychioli'r naw esgobaeth draddodiadol yn Llydaw, y stribedi du yn cynrychioli'r rhai Ffrangeg eu hiaith (Dol, Naoned, Roazhon, Sant-Maloù a Sant-Brieg a'r pedwar gwyn yn cynrychioli'r pedair esgobaeth Lydaweg eu hiaith (Leon, Treger, Kernev a Gwened). Cafodd ei derbyn yn eang fel symbol Llydaw yn ystod y 1960au.

Mae Gwenn ha Du hefyd yn enw ar gasgliad o farddoniaeth Lydaweg a droswyd i'r Gymraeg.

Emoji Baner Llydaw[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner Llydaw mewn gorymdaith wleidyddol, 2017
Arfbais Roazhon

Yn 2020 cafwyd ymgyrch i ennill statws i'r Gwenn ha Du fel emoji i'w defnyddio ar y Cyfryngau cymdeithasol. Llwyddodd ymgyrch #emojibzh i ennill llawer o sylw a chefnogaeth yn Llydaw a thu hwnt gyda dros 400,000 yn arwyddo deiseb i'w gefnogi.[1][2] Arweiniwyd yr ymgyrch gan grŵp EmojiBZH[3] - sef cnewyllyn yr ymgyrch i ennill Parth Lefel Uchaf ar gyfer Llydaw - pikBZH.[4] Y bwriad, maess o law, yw y bydd modd defnyddio baner Llydaw - fel un Cymru a'r Alban - fel eicon wrth ddefnyddio rhwydweithiau fel Twitter a Facebook. Sefydlwyd ymgyrch tebyg ar gyfer ennill statws tebyg i faner Corsica hefyd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]