Neidio i'r cynnwys

Cyfieithiadau i'r Gymraeg

Oddi ar Wicipedia

Mae hanes hir i gyfieithu o ieithoedd y byd i'r Gymraeg. Y Beibl, a droswyd o'r testunau Groeg a Hebraeg gwreiddiol gan yr Esgob William Morgan, yw sylfaen yr iaith lenyddol heddiw.[1] O'r Saesneg mae tarddiad Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne er mai addasiad gwreiddiol ydyw yn hytrach na chyfieithiad, ac roedd y testun Saesneg yn ei dro yn seiliedig ar waith Sbaeneg, sef Los Suenos.

Mae cyfresi "Dramâu'r Byd" gan Wasg Prifysgol Cymru, "Dramâu Aberystwyth", "Chyfres yr Academi" a Storïau Tramor gan yr Academi Gymreig yn rhan o ymgyrch i ddod â llenyddiaeth orau'r byd i'r darllenydd Cymraeg.

Rhestr o ieithoedd a llyfrau a droswyd i'r Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Casgliadau

[golygu | golygu cod]
  • Yr Awen Almaeneg: blodeugerdd o farddoniaeth Almaeneg o'r dechreuadau hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf detholwyd, cyfieithwyd a golygwyd gan Pennar Davies (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983)
  • Sarah Kirsch, golygwyd gan Mererid Hopwood, David Basker a Rhys W. Williams, Contemporary German Writers Series (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997)
  • Dafydd Andrews, Rhagair helaeth i'r Ymwelwyr Annisgwyl (Caerdydd: Academi Gymreig, 1980)
  • Glyn Tegai Hughes, erthygl ar Franz Kafka yn Y Llenor yn Ewrop, golygwyd gan Gareth Alban Davies a W. Gareth Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
  • T. Pugh Williams, erthygl ar Rainer Maria Rilke yn Y Llenor yn Ewrop, gweler uchod.
  • Idris Parry, erthygl ar Bertolt Brecht yn Y Llenor yn Ewrop, gweler uchod.
  • J Henry Jones, Rhagair helaeth i Barddoniaeth Rilke, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V (1984)
  • H.M. Waidson, The Modern German Novel (OUP a Prifysgol Hull, 1959)
  • Paul West, The Modern German Novel (Llundain: Hutchinson, 1963)
  • Christopher Middleton (gol.), German Writing Today (Penguin, 1967)
  • Beth sy'n Ailgynnau, cerdd gan Hanna Abu-Hanna, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007)
  • America, America, cerdd gan Saadi Youssef, troswyd drwy'r Saesneg, gan Khaled Mattawa a Dafydd Iwan, Taliesin 130 (Gwanwyn 2007)
Yn y Babell Lên yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2007 bu beirdd ifanc o Gymru'n darllen eu cyfieithiadau Cymraeg o waith beirdd adnabyddus o Wlad y Basg

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
  • Pwy sydd Angen Barddoniaeth?, sef addasiad Aneirin Karadog o gerdd gan Jurgen Rooste, Taliesin135 (Gaeaf 2008)
  • Gwraig o Flodau, sef cyfieithiad Elin ap Hywel o gerdd Kuldnainegan Kristiina Ehin, Taliesin 135 (Gaeaf 2008)
  • Drymiau Tawelwch, cyfieithiad Alan Llwyd o waith Kristiina Ehin (2009)
  • Storïau o'r Ffinneg, golygydd a chyfieithydd Niclas L. Walker (Gwasg Gomer, 1979)
Clawr - Y Dieithryn gan Albert Camus, Trosiad Bruce Griffiths, 1972
Prif erthygl: Cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg.

Mae Cyfieithiadau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg yn adlewyrchu y traddodiad hir o drosi o'r prif ieithoedd ewropeaidd i'r Gymraeg gan osgoi fersiynau Saesneg. Roedd Ffrainc Addoliaeth Saunders Lewis yn enwog. Ffrangeg oedd prif iaith athroniaeth, gwleidyddiaeth a ffasiwn am ganrifoedd, tan i Saesneg ei disodli yn ail haner yr 20g. Yn y brif erthygl ceir rhestr o'r deunydd sydd ar gael yn y Gymraeg.

  • Un gerdd yn y gasgliad Y ffynnon sy'n ffrydio: blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
  • Storïau o'r Gaeleg …, torïau byrion "Burn is Aran" gan Iain Mac a'Ghobhainn cyfieithwyd gan Donald Gwyon Howells (Gwasg John Penri, 1970)
  • Awen y Gael, blodeugerdd & farddoniaeth Aeleg o'r 15g hyd at drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf, cyfieithwyd gan John Stoddart. Caernarfon: Cyhoeddiadau Barddas, 1987)
  • Cerddi Gaeleg Cyfoes (1937–82), cyfieithwyd gan John Stoddart, Cyfres Barddoniaeth y Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984)
  • "Ein Hiaith a'n Brethyn", cerdd "Ar Cànan 's ar Clò" gan Anna Frater. Cyfieithiad gan Cennard Davies, Taliesin 128 (Haf 2006)
  • "Murchadh …" stori fer gan Iain Mac a'Ghobhainn cyfieithwyd gan Mary Scammell, Taliesin 104 (Ionawr 1999)

Groeg (Groeg Diweddar)

[golygu | golygu cod]
  • Monotonia (Μονοτονία) cerdd o 1908 gan Constantinos Cafaffi (Κωνσταντίνος Π. Καβάφης) a gyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin cyf. 37 (Rhagfyr 1978)
  • Erthygl helaeth a cherddi gan Constantinos Cafaffi (Κωνσταντίνος Π. Καβάφης) a gyfieithwyd gan J. Henry Jones, Taliesin 32 (Gorffennaf 1978)

Groeg (Groeg Clasurol)

[golygu | golygu cod]
  • Gemau Hwngari (straeon gan deg awdur Hwngareg cyfieithwyd gan Tamas Kabdebo a Glyn M. Ashton (Gwasg Gee, tua 1965 [dim dyddiad ar y llyfr]). Mae rhagair helaeth ar hanes Lên Fagyareg (Hwngareg)
  • Ust! Gwylia!, cerdd gan Endre Gyárfás o'r Hwngareg cyfieithwyd gan Harri Pritchard Jones, Taliesin 51 (Ebrill 1985)
  • Tân mewn Tai (Eldur i Husum), cerdd gan Sigurður Pálsson wedi ei chyfieithu gan Mererid Puw Davies, Taliesin 126 (Gaeaf 2005)
  • Y Brodyr (Adelphi, tua 170CC) drama gan P. Terentius Afer cyfieithiad gan Arthur O. Morris, Cyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1974)
  • Bugeilgerddi Fyrsil cyfieithiad gan Euros Bowen (Gwasg Prifysgol Cymru)

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Norn neu Shetlandeg

[golygu | golygu cod]
  • Atlantis. cerdd gan Robert Alan Jamieson, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin 131 (Haf 2007). Eithaf tebyg bod Shetlandeg "Sgoteg" yw hyn yn lle'r Norn go iawn.
  • Hedda Gabler (drama o 1890) gan Henrik Ibsen. cyfieithwyd gan Tom Parry ac R. H. Jones (Bangor, Cymdeithas Ddrama Gymraeg, 1930)
  • Rhywun wrth y Drws (Bygmaster Solness), drama gan Henrik Ibsen. Cyfieithiad gan John Lasarus Williams (hefyd y cyhoeddwr) 2004
  • Y Ffaith nad yw'r Adar yn Canu (At Fyglene Ikke Singer), cerdd gan Jan Erik Vold wedi ei chyfieithu gan Mererid Puw Davies, Taliesin 126 (Gaeaf 2005)
  • Po gyflymaf y cerddaf, lleiaf yr af gan Kjersti Annesdatter Skomsvold, cyfieithiad o'r Norwyeg gan Mererid Puw Davies, Taliesin 141 (Haf 2010)
  • "Merch fy Nhad" gan Mareike Krügel, cyfieithiad o'r Norwyeg gan Mererid Puw Davies, Taliesin 140 (Haf 2010)
  • Bannau Llên Pwyl (casgliad o gerddi a rhyddiaeth), cyfieithwyd gan T Hudson Williams (Gwasg Aberystwyth, 1953)
  • Storïau Byr o'r Bwyleg, trosiad gan John Elwyn Jones (Llyfrau'r Faner, 1974), yn cynnwys storïau Gwyliwr y Goleudy (Latarnik) a Ianco'r Cerddor (Janko Muzykant) gan Henryk Sienkiewicz (camenwyd a chamsillafwyd "Bolestaw Pruss" fel awdur Gwyliwr y Goleudy yn y gyfrol) ac Y Wasgod (Kamizelka) a Y Dychweledig Don (Powracająca fala) gan Bolesław Prus.
  • Lludw a Diemwnt (Popiół i diament) gan Jerzy Andrzejewski, addasiad gan John Elwyn Jones (Gwasg Gomer Press, 1976)
  • Beirniadaeth ar Lludw a Diemwnt gan John Rowlands, Taliesin cyf. 32 (Gorffennaf 1976)
  • Detholiad o'i Gerddi gan Zbigniew Herbert, trosiad gan John Elwyn Jones, Gwyn Thomas, Nesta Wyn Jones, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau'r Academi Gymreig - Cyfrol V (1985)
  • Nostra Vita, cerdd gan Tadeusz Pióro, troswyd drwy'r Saesneg, gan Chris Meredith, Taliesin cyf. 131 (Haf 2007)
  • Oenig (Miorista) hen faled draddodiadol. Cyfieithiad gan Gerald Morgan, Taliesin cyf. 76 (Mawrth 1992), tud. 25–29
  • Y blaidd hud a chwedlau er aill; wedi eu trosi o'r Rwmaneg.

gan Geraint Dyfnallt Owen [Aberystwyth] Gwasg Aberystwyth, 1949

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Prif erthygl: Cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Mae cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg yn draddodiad hen gan y Cymry. Taith y Pererin hyd at nofelau Harry Potter mae'r Saesneg yn sicr yw prif iaith 'trosi' i'r Gymraeg. Yn y blynyddau diwethaf mae Gweithdai cyfieithu barddoniaith o un iaith leiafrifol i'r llall yn digwydd drwy un o'r ieithoedd dominyddol ond y Saesneg yn bennaf.

  • Anturiaethau Don Cwicsot [llyfr a lluniau] gan Miguel de Cervantes Saavedra, 1547–1616, wedi eu trosi ac addasu gan J. T. Jones (Llandybie: Llyfrau'r Dryw, 1954) (yn ôl ei ragair)
  • "Y Gosb Ddiddial" (drama) gan Lope de Vega, chyfieithwyd gan Gareth Miles, Barn cyf. 359 (Rhagfyr 1992)
  • Lazarillo de Tormes: ei helyntion a'i brofedigaethau. Nofel wedi'i chyfieithu o'r Sbaeneg gan P. A. L. Jones (Gwasg Gomer, 1970)
  • Trafalgar gan Galdos, Benito Perez. Troswyd gan Cyril P. Cule (Caerdydd: Yr Academi Gymreig, 1980)
  • Priodas waed (Bodas de sangre) gan Federico García Lorca, 1898–1936, cyfieithiad gan R. Bryn Williams a John Rowlands.
  • Y ffynnon sy'n ffrydio: blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
  • Walimai gan Isabel Allende, troswyd gan Dewi Wyn Evans, Taliesin cyf. 121 (Gwanwyn 2004)
  • Bannau Macchu Picchu, 1944, (Alturas de Macchu Picchu) gan Pablo Neruda, cyfieithiad gan Harri Webb, Barn cyf. 230 (Mawrth 1982)
  • Platero a minnau (Platero y Yo – 1914) gan J. R. Jiménez, trosiad Cymraeg gan T. Ifor Rees gydag E. T. Griffiths, 1961
  • Tomatos. Cerdd gan Pablo Neruda, y cyfieithu gan Ifor ap Glyn, Tu Chwith, cyf. 2 (Haf 1994)

Yr Ariannin

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth Fer

[golygu | golygu cod]
  • Cymro Cyfandir y De; adolygiad gan Robyn Lewis ar El Riflero de Ffos Halen (Y Gaucho o Ffos Halen), Taliesin cyf. 124 (Gwanwyn 2005)
  • Croesi Ffiniau Diwylliannol Walter A. Brooks a Geraldine Lublin adroddiad ar gynhadledd cyntaf ar Gymry Patagonia Primer Foro Internacional sobre los Galeses en la Patagonia, Taliesin cyf. 125 (Haf 2005)
  • Erthygl am Federico García Lorca yn Y Llenor yn Ewrop gol. Gareth Alban Davies a W. Gareth Jones (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976)
  • Cyril P. Cule, "Sbaen adeg ei Rhyfel Gartref", yn Cymro ar Grwydr (Gwasg Gomer, 1941)
  • Gareth Miles, Pablo Neruda; Prifardd De America, Taliesin cyf. 132 (Gaeaf 2007)
  • Cyril P. Cule, "Barddoniaeth werinol Sbaen", Y Fflam rhifyn cyf. 1, rh. 1 (Nadolig 1946), tud. 24–28
  • Rhagair helaeth i 'Y ffynnon sy'n ffrydio': blodeugerdd o farddoniaeth Sbaeneg, detholwyd a chyfieithwyd gan Gareth Alban Davies (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1990)
  • Tair Cerdd gan Ranka Kuic, cyfieithiad gan Gwyn Thomas, Taliesin cyf. 69 (Mawrth 1990)

Y Cocatŵ Coch (blodeugerdd 500cc – 1981) cyfieithwyd gan Cedric Maby, Yr Academi Gymreig (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987)

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]