Annaig Renault
Annaig Renault | |
---|---|
Ganwyd | Annick Marie Renée Renault 4 Awst 1946 Neuilly-sur-Seine |
Bu farw | 8 Ionawr 2012 Roazhon |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, ysgrifennwr, telynor, canwr, awdur storiau byrion, bardd, cyfarwyddwr |
Awdures ac academydd Llydaweg yw Annaig Renault, a anwyd yn Neuilly-sur-Seine (Hauts-de-Seine) ger Paris ym 1946. Bu'n byw ym Mharis tan 1967 cyn symud i Lydaw a pherfformio gyda'r grwp Telennoù Bleimor. Aeth ymlaen i redeg canolfan ddiwylliannol yn La Briantais, ger Sant-Maloù, ac i fod yn gyfrifol am Skol-Uhel ar Vro, corff diwylliannol mawr yn Llydaw. Mae hi wedi cyfrannu nifer o erthyglau i'r cylchgrawn llenyddol Llydaweg Skrid ac eraill. Hi oedd y wraig gyntaf i ysgrifennu nofel lawn yn y Llydaweg. Cwblhaodd ei PhD dan y llenor Yann-Bêr Pirioù ar destun Gwaith Maodez Glanndour.
Gwaith
[golygu | golygu cod]- Dremm ar vamm, Keit Vimp Bev, Priz ar Yaouankiz 2006
- Ar Rannoù, yn : Al Liamm, n° 260-261, 1990. Stori fer
- Planedennoù. yn : Skrid, 1989. Straeon byrion
- Dec'h a oa re bell dija. Mouladurioù Hor Yezh, 1995. Nofel
- Barzhonegoù (Barddoniaeth), Mouladurioù Hor Yezh, 1985.
- V. S. Naipaul, beirniadaeth ar y llenor Saesneg, yn : Al Liamm, n° 239, 1986
- Carnet de voyage = Karnedig beaj. - Emb. Coop Breizh. 2004
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
[golygu | golygu cod]- Alltud - (stori fer) gan Annaig Renault, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin cyf 86, t78 -104., Academi Gymreig Haf 1994.
- Lila - (stori fer) gan Annaig Renault, cyfieithwyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin cyf 91, t29 -38., Academi Gymreig Hydref 1995.
- Blaenau Ffestiniog 1993–1997 gan Annaig Renault, rhan o Dyddiadur Taith- Karnedig beaj, a droswyd gan Rhisiart Hincks, Taliesin 124 (Gwanwyn 2005)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Cyfweliad teledu 9m yn Ffrangeg efo Annaig yn adroddAr Men Du gan Per-Jakez Helias a chanu An Hini a Garan https://www.youtube.com/watch?time_continue=167&v=TGb9OovxPHQ
Obituary saesneg ac erthyglau eraill https://abp.bzh/death-of-annaig-renault-a-writer-in-breton-language-24516