Anna Frater
Gwedd
Anna Frater | |
---|---|
Ganwyd | 5 Gorffennaf 1967, 1967 ![]() Steòrnabhagh ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd ![]() |
Arddull | barddoniaeth ![]() |
Bardd yn yr iaith Aeleg yw Anna Frater. Erbyn heddiw mae hi'n ddarlithwraig ym Mhrifysgol yr Ucheldiroedd yn yr Alban.
Ganwyd hi yn Stornoway, Ynys Lewis (Ynysoedd Heledd) ym 1967. Gaeleg yw ei phrif iaith ac iaith ei barddoniaeth. Mae hi wedi cyhoeddi yn y cylchgrawn Gairm ers 1986. Graddiod mewn Ffrangeg a Cheltaidd ym 1990. Cwblhaodd PhD ym Mhrifysgol Glasgow yn 1995 ar farddoniaeth Aeleg gan ferched hyd at 1750.
Cyhoeddwyd gasgliad o'i gwaith, Fon t-Slige ('Dan y Gragen') gan Gairm yn 1995.
Prif themau gwaith Anna Frater yw cariad, iaith a gwleidyddiaeth. Ceir un cyfieithiad yn y Gymraeg;
- Ein Hiaith a'n Brethyn cerdd Ar Cànan 's ar Clò gan Anna Frater. Cyfieithiad gan Cennard Davies. Taliesin, cyf 128, Haf 2006.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Bywgraffiad Archifwyd 2007-10-19 yn y Peiriant Wayback