Rainer Maria Rilke
Rainer Maria Rilke | |
---|---|
Ganwyd | René Karl Wilhelm Johann Josef Maria Rilke 4 Rhagfyr 1875 Prag |
Bu farw | 29 Rhagfyr 1926 Montreux |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Awstria, Awstria-Hwngari |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, dramodydd, cyfieithydd, nofelydd |
Adnabyddus am | Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge, Duino Elegies, Sonnets to Orpheus, Worpswede, The carousel |
Arddull | Dinggedicht, rhyddiaith |
Mudiad | Symbolaeth (celf) |
Priod | Clara Westhoff |
Partner | Claire Goll, Baladine Klossowska, Lou Andreas-Salomé, Nimet Eloui |
Plant | Ruth Sieber-Rilke |
Perthnasau | Jaroslav von Rilke |
Gwefan | https://rilke.de |
llofnod | |
Roedd Rainer Maria Rilke (4 Rhagfyr 1875 – 29 Rhagfyr 1926) yn fardd Bohemiaidd Awstriaidd ac yn feirniad. Mae Rilke yn un o feirdd pwysicaf yr Almaeneg. Un o'i weithiau enwocaf yw'r Marwnadau Duino. Ar ben ei gynnyrch Almaeneg mae wedi ysgrifennu rhyw 400 cerdd yn y Ffrangeg am ei fod wedi setlo yn Valais, canton Ffrengig ei hiaith yn y Swistir.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ei enw llawn oedd René Karl Wilhelm Johann Josef Maria Rilke . Swyddog Rheilffordd oedd ei dad, Josef Rilke (1838-1906), roedd ei fam , Sophie ("Phia") Entz (1851-1931), o deulu cefnog. Bu i'r teulu byw yn Herrengasse (Panská) 8. Prâg. Ysgarwyd ei rieni ym 1884.
Aeth Rilke i Goleg Milwrol o 1886 tan 1891, ac o 1892 i 1895 cafodd diwtor i'w helpu i gyrraedd y Brifysgol yn 1895. Astudiodd Llên a Hanes ym Mhrâg a München.
Yn 1897 ym München, cwrddodd Rainer Maria Rilke a'i gariad cyntaf sef Lou Andreas-Salomé (1861-1937). Ond roedd hi'n briod; parodd y perthynas tan 1900. Yn 1899, aeth efo Lou a'i gŵr, Friedrich Andreas, i Moscow lle cwrddon nhw â Leo Tolstoy. Y flwyddyn wedyn aeth y tri i Saint Petersburg, lle cwrddon nhw â theulu Boris Pasternak .
Tra yn Worpswede ym 1900, cwrddodd Rilke a'r gerflunydd Clara Westhoff (1878-1954), priodon nhw y flwyddyn nesaf a ganwyd merch iddynt, sef Ruth (1901-1972) yn Rhagfyr 1901. Dianc oedd ymateb Rilke, ac yn 1902 aeth i Paris i ysgrifennu llyfr am Auguste Rodin (1840-1917). Cadwodd Clara Westhoff yn ffyddlon iddo am ei hoes er gwaethaf hyn.
Ym Mharis daeth yn gyfaill i Rodin ac o'i gyfnod Paris y mae Neue Gedichte (Cerddi Newydd) (1907), Der Neuen Gedichte Anderer Teil (Rhagor o Gerddi Newydd) (1908), a'r cerddi "Requiem" (1909), ynglŷn â'i nofel Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge (1910).
Dros gaeaf a gwanwyn 1912, arhosodd Rilke yng Nghastell Duino, ger Trieste, yn westai i Dduges Thurn a Taxis. Yno y cyfansoddodd ei Marwnadau Duino. Arhosodd yn München drwy'r rhyfel byd cyntaf ac o 1914 i 1916 cafodd affêr efo'r arlunydd Lou Albert-Lasard.
Yn 1919, ar ddiwedd y rhyfel aeth Rilke i'r Swistir er mwyn gorffen ei Marwnadau Duino a'i Sonedau i Orpheus: rhyw 55 o sonedau. Roedd e'n wael erbyn 1923 ac aeth i ysbyty ger Montreux, ar Lyn Genefa. Bu farw o leukemia ar 29 Rhagfyr 1926 ac fe'i gladdwyd 2 Ionawr 1927 yn Raron gerllaw.
Ysgrifennodd ei Feddargraff ei hun;
Rose, oh reiner Widerspruch, Lust,
Niemandes Schlaf zu sein unter soviel
Lidern.
Cyfieithiad Cymraeg:
- 'Croesddywediad yw'r rhosyn:'
- 'y diddanwch o fod yn gwsg-neb dan'
- 'cymaint o amrannau.'
Cyfieithiad saesneg:
'Rose, oh pure contradiction, delight' 'of being no one's sleep under so' 'many lids'.
- Sefydwyd y Sefydliad Rainer Maria Rilke yn Sierre yn 1986. Erbyn heddiw mae lawer iawn o'i gerddi wedi eu defnyddio fel geiriau i ganeuon o bop i glasurol.
Mae'r Prifardd Alan Llwyd wedi cyfieithu peth o'i waith i'r Gymraeg. Roedd Rilke yn gyfaill agos i'r arlunydd Cymraeg Gwen John[1]
Gwaith
[golygu | golygu cod]- Rainer Maria Rilke, Sämtliche Werke in 12 Bänden gan Ruth Sieber-Rilke, golygydd Ernst Zinn. Frankfurt am Main (1976)
- Rainer Maria Rilke, Werke ('Gwaith). Frankfurt am Main a Leipzig (1996 a 2003)
- Leben und Lieder (Bywyd a Cherddi) (1894)
- Larenopfer (Lares' Aberthu) (1895)
- Traumgekrönt (Coronwyd â Breuddwyd) (1897)
- Advent (Grawys) (1898)
- Mir zur Feier (Dathliad i mi) (1909)
- Das Stunden-Buch (Llyfr Oriau)
- Das Buch vom mönchischen Leben (Llyfr Bywyd y Mynach) (1899)
- Das Buch von der Pilgerschaft (Llyfr pererindod) (1901)
- Das Buch von der Armut und vom Tode (Llyfr Tlodi a Marwolaeth) (1903)
- Das Buch der Bilder (Llyfr Delweddau) (4 Rhan, 1902-1906)
- Neue Gedichte (Cerddi Newydd) (1907)
- Duineser Elegien (Marwnadau Duino) (1922)
- Sonette an Orpheus (Sonedau i Orpheus) (1922)
Rhyddiaith
[golygu | golygu cod]- Geschichten vom Lieben Gott (Straeon Duw') 1900
- Auguste Rodin (1903)
- Die Weise von Liebe und Tod des Cornets Christoph Rilke (Cerdd byw a marw y Cornet Christoph Rilke) 1906
- Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge (Nod-llyfrau Malte Laurids Brigge) nofel, 1910
Llythyrau
[golygu | golygu cod]- Gesammelte Briefe in sechs Bänden gan Ruth Sieber-Rilke a Carl Sieber. Leipzig (1936-1939)
- Briefe gan y Rilke Archive, Weimar. Wiesbaden 1950
- Briefe in Zwei Bänden Horst Nalewski, Frankfurt and Leipzig, 1991
- Briefe an Auguste Rodin (Insel Verlag, 1928)
- Briefwechsel mit Marie von Thurn und Taxis, golygydd Ernst Zinn (Editions Max Niehans, 1954)
- Briefwechsel mit Thankmar von Münchhausen 1913 bis 1925 (Suhrkamp Insel Verlag, 2004)
- Briefwechsel mit Rolf von Ungern-Sternberg und weitere Dokumente zur Übertragung der Stances von Jean Moréas (Suhrkamp Insel Verlag, 2002)
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Ralph Freedman, Life of a Poet: Rainer Maria Rilke, New York 1996.
- Donald Prater, A Ringing Glass: The Life of Rainer Maria Rilke, Oxford University Press, 1994
- Paul Torgersen, Dear Friend: Rainer Maria Rilke and Paula Modersohn-Becker, Northwestern University Press, 1998.
- A Companion to the Works of Rainer Maria Rilke, ed. Erika A and Michael M. Metzger, Rochester 2001.
- Rilke Handbuch: Leben - Werk - Wirkung, ed. Manfred Engel and Dorothea Lauterbach, Stuttgart and Weimar 2004.
- Goldsmith, Ulrich, ed. (1980). Rainer Maria Rilke, a verse concordance to his complete lyrical poetry. Leeds: W.S. Maney.
- Mood, John J. L. Rilke on Love and Other Difficulties. (New York: W. W. Norton 1975, reissue 2004) ISBN 0-393-31098-1.
- Mood, John. Rilke on Death and Other Oddities. Philadelphia: Xlibris, 2006. ISBN 1-4257-2818-9.
- Schwarz, Egon. Poetry and politics in the works of Rainer Maria Rilke. Frederick Ungar, 1981. ISBN 978-0-8044-2811-8.
Mood, John. 'A New Reading of Rilke's "Elegies": Affirming the Unity of "life-AND-death"'. Lewiston, NY: Edwin Mellen Press, 2009 ISBN 978-0-7734-3864-4.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Foster, Alicia, & John, Gwen. (1999). Gwen John. British artists. Princeton, NJ: Princeton University Press. ISBN 0-691-02944-X
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Poems from the Book of Hours," complete text
- Biography in English
- Quotations
- English translations of Rilke's Autumn Day, Love Song, and The Panther
- English translations of Geschichten vom lieben Gott (Stories of God) W.W.Norton & Company, Shambhala Publications, Inc. Archifwyd 2009-09-10 yn y Peiriant Wayback, and Aventure Works, Inc. Archifwyd 2010-02-07 yn y Peiriant Wayback
- Gwaith gan Rainer Maria Rilke yn Project Gutenberg
- Poems, drama and prose writing by Rilke (in German)
- International Rilke Association (in German)
- Rilke site (in German)
- https://portal.d-nb.de/opac.htm?query=Woe%3D118601024&method=simpleSearch Archifwyd 2011-09-27 yn y Peiriant Wayback
- All Poems and Books of R. M. Rilke Archifwyd 2015-10-02 yn y Peiriant Wayback in German with titles index, word dictionary, and text search
- Die Gedichte von Rainer Maria Rilke
- Duineser Elegien
- Rilke's German language sonnets
- Audio discussion of seven of the "New Poems"
- The Big Three: Rilke's correspondence with Tsvetayeva and Pasternak
- Rilke's Buddha in der Glorie in German with a translation by Ana Elsner
- Rainer Maria Rilke ar Find a Grave
- Angels to Radios: On Rainer Maria Rilke, By Ange Mlinko Archifwyd 2010-01-31 yn y Peiriant Wayback
- Some of his poems in English