Gwen John

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gwen John
Gwen John - Self-Portrait.jpg
Ganwyd 22 Mehefin 1876 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Medi 1939 Edit this on Wikidata (63 oed)
Dieppe Edit this on Wikidata
Alma mater Ysgol Gelfyddyd Gain Slade Edit this on Wikidata
Gwaith Arlunydd, arlunydd, model edit this on wikidata

Arlunydd Gymreig oedd Gwen John (22 Mehefin 187618 Medi 1939). Ganed Gwendolen Mary John yn Hwlffordd, Sir Benfro a roedd yn chwaer i'r arlunydd Augustus John (4 Ionawr 1878 - 31 Hydref 1961).

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1884, yn ferch ifanc, symudodd y teulu i Ddinbych-y-pysgod. Hi oedd yr ail o bedwar plentyn Edwin William John ac Augusta (née Smith). Brawd hynaf Gwen oedd Thornton John a'i chwaer ieuengaf oedd Winifred.[1] Bu ei mham, a oedd yn mwynhau peintio dyfrlliw, yn wael am flynyddoedd a bu farw pan oedd Gwen yn wyth oed.[2] Yn aml, byddai'r pedwar plentyn yn mynd i'r traeth i ymarfer sgetsio, ond nid oes gwaith wedi goroesi o'r cyfnod cynnar; y gwaith cyntaf yw llun a beintiodd pan oedd yn 19 oed.[3]

Coleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1896 dilynodd ei brawd iau i Ysgol y Slade, Llundain i astudio celf, ac fel yntau arbenigodd mewn portreadau o bobl. Y Slade oedd yr unig goleg yng ngwledydd Prydain i ganiatau merched.[4] ac i gynilo, rhannodd fflat gyda'i brawd Augustus, gan fwyta ffrwythau a chnau, fel arfer.

Ffrainc a phaentio[golygu | golygu cod y dudalen]

Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn Ffrainc a rhoddwyd mwy o sylw tan y 2000au i'w brawd Augustus, ond bellach mae wedi ennill ei phlwyf fel un o arlunwyr mwyaf sensitif Cymru. Symudodd i Ffrainc yn 1903 ac ni ddychwelodd i Gymru. I Baris y symudodd i ddechrau, gan fyw ar ei phen ei hun, gan astudio yn Académie Carmen dan James McNeill Whistler ac yna i faestref Meudon. Dychwelodd i Lundain yn 1899, ac arddangosodd ei gwaith am y tro cyntaf yn 1900, yn y New English Art Club (NEAC).]].[5][6] Oherwydd prinder o arian, ychydig iawn o ddeunydd peintio oedd ganddi a bu'n byw fel sgwatwraig rhwng 1900–01.[7]

Cafodd berthynas am gyfnod o ddeg mlynedd gyda'r cerflunydd a pheintiwr enwocaf ei ddydd, Auguste Rodin, a bu'n modelu iddo hefyd. Ceir llawer o lythyrau rhwng y ddau sy'n dangos fod Gwen yn berson cryf iawn, a bod gan Gwen deimladau cryf at ferched yn ogystal â dynion. Wedi deg mlynedd, roedd ffordd newydd o feddwl Gwen yn dychryn Rodin a chadwodd hi led braich i ffwrdd, a daeth y berthynas i ben. Cyfarfu Gwen a nifer o beintwyr a meddylwyr mawr y dydd gan gynnwys Matisse, Picasso, Brâncuși, a'r bardd Rainer Maria Rilke, ond ni ddilynodd ffasiwn y dydd, ac felly ni ddaeth yn enwog a gweithiodd fel meudwy am lawer o'r amser.

Roedd Gwen yn gymeriad tawel, teimladwy ac roedd ei gwaith yn adlewyrchu hynny: yn gynnil ei phaent, yn llawn teimlad, yn fyfyrgar eu naws, a gellir disgrifio ei genre artistig fel 'mewnoliaeth', gydag un person fel arfer yn y llun, a'r gweddill yn adlewyrchu teimladau a hanes y person hwnnw.

Erbyn y 2010au roedd llawer yn rhoi mwy o werth parhaol i'w gwaith nag i waith ei brawd Augustus.

Rhai gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Langdale 1987
  2. Langdale 1987, t. 4.
  3. Langdale 1987, t. 7.
  4. Langdale 1987, t. 7,
  5. Tamboukou, t. 5.
  6. Foster 1999, t. 77.
  7. Langdale 1987, t. 21 a t. 125.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.