John FitzGerald
Gwedd
John FitzGerald | |
---|---|
Ganwyd | 1927 ![]() |
Bu farw | 2007 ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | athronydd, bardd, offeiriad ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/4/46/Grawn_Gwirionedd_John_FitzGerald_%28llyfr%29.jpg/220px-Grawn_Gwirionedd_John_FitzGerald_%28llyfr%29.jpg)
Offeiriad Catholig a bardd oedd Y Tad John FitzGerald (3 Chwefror 1927 - 28 Tachwedd 2007). Un o ardal Llwydlo cafodd ei fedyddio yn Michael FitzGerald ond dewisodd yr enw John wrth ymuno ag Urdd y Carmeliaid yn 1942. Dysgodd Gymraeg yn Aberystwyth, dan law Saunders Lewis i ddechrau. Bu'n gaplan i fyfyrwyr Catholig ac yn offeiriad tref Aberystwyth am ddeugain mlynedd. Gorchmynodd yr Urdd iddo symud o Aberystwyth i Lanelli yn 2004.