Neidio i'r cynnwys

Pádraig Pearse

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Padraig Pearse)
Pádraig Pearse
GanwydPatrick Henry Pearse Edit this on Wikidata
10 Tachwedd 1879 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Alma mater
  • Coleg Brenhinol Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, llenor, newyddiadurwr, person milwrol, gwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
MudiadCenedlaetholdeb Gwyddelig Edit this on Wikidata
TadJames Pearse Edit this on Wikidata
MamMargaret Pearse Edit this on Wikidata
Gwobr/auGorsedd y Beirdd Edit this on Wikidata
Cerflun ym Mharc Padraig Pearse, Tralee, Swydd Kerry

Roedd Pádraig Pearse neu Patrick Henry Pearse, Gwyddeleg: Pádraig Anraí Mac Piarais, 10 Tachwedd, 1879 - 3 Mai, 1916) yn athro ysgol, bardd a chenedlaetholwr Gwyddelig, sy'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916.

Roedd Pearse yn rhoi pwyslais mawr ar yr iaith Wyddeleg, ac ymunodd â Conradh na Gaeilge ("Cynghrair yr Wyddeleg") yn 16 oed. Daeth yn olygydd papur newydd cyntaf y Cynghrair, An Claidheamh Soluis ("Cleddyf y Goleuni") ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Teimlai mai'r ffordd i achub yr iaith oedd trwy addysg. Dechreuodd ei ysgol ddwyieithog ei hun, Ysgol Sant Enda (Scoil Éanna) yn Ranelagh, Swydd Dulyn, yn 1908, gyda chymorth Thomas MacDonagh a'i frawd Willie Pearse.

Yn 1913 gwahoddwyd ef i gyfarfod cyntaf y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Irish Volunteers), ac yn 1914 daeth yn aelod o'r Irish Republican Brotherhood, mudiad tanddaearol oedd yn anelu ar weriniaeth annibynnol yn Iwerddon. Ar 1 Awst, 1915, traddododd Pearse anerchiad enwog yng nghynhebrwng y Ffeniad Jeremiah O'Donovan Rossa. Gorffennodd yr araith gyda'r geiriau enwog:

The Defenders of this Realm have worked well in secret and in the open. They think that
they have pacified Ireland. They think that they have purchased half of us and intimidated
the other half. They think that they have foreseen everything, think that they have
provided against everything; but, the fools, the fools, the fools! — They have left us
our Fenian dead, and while Ireland holds these graves, Ireland unfree shall never be at peace.

Dechreuodd Gwrthryfel y Pasg ar 24 Ebrill, 1916, gyda Pearse yn un o'r prif arweinyddion. Ef a ddarllenodd y ddogfen oedd yn cyhoeddi ffurfio gweriniaeth Iwerddon Rydd ar risiau Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr gael ei gorfodi i ildio ar ôl dyddiau o frwydro, rhoddwyd ef ar ei brawf gan y fyddin Brydeinig a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham ar 3 Mai gyda Thomas Clarke a Thomas MacDonagh, y cyntaf o'r gwrthryfelwyr i'w dienyddio. Saethwyd ei frawd Willie ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.

Mae ei hen ysgol, Ysgol Sant Enda yn Rathfarnham, yn awr yn amgueddfa. Mae Pearse yn un o arwyr Taoiseach presennol Iwerddon, Bertie Ahern, ac mae ganddo ddarlun o Pearse uwchben y ddesg yn ei swyddfa.

Y bardd

[golygu | golygu cod]

Urddwyd 'Areithiwr', ei enw barddol, yn aelod o Orsedd y Beirdd yng Nghaerdydd yn 1899. Mewn araith yn Nhŷ Brunel ar 26 Tachwedd 1999, ag yntau'n ddim ond ugain oed, dywedodd: Many centuries have rolled by since the Gael and the Cymry separated from each other; yet it is not true for those who assert that there exists no bond either of relationship or of friendship between us, we are still when all is said and done, two branches of the same race.[1]

Roedd Pádraig Pearse yn fardd dawnus yn yr iaith Wyddeleg. Mae ei gerdd 'Y Dynged' (neu 'Y Delfryd') yn un o'r enwocaf yn llenyddiaeth ddiweddar yr iaith honno. Yn y gerdd mae'r bardd yn disgrifio ei weledigaeth o Iwerddon yn ei holl ogoniant, fel morwyn ifanc anhraethol hardd, ond mae'n rhaid iddo droi ei gefn arni, er ei mwyn hi, a wynebu'r dynged anorfod a ddaw. Dyma gyfieithiad T. Gwynn Jones o'r bennill gyntaf a'r ddwy olaf:

'Lendid pob glendid,
yn noeth y'th welais di,
a chau fy llygaid
rhag ofn a wneuthum.'
'Fy nghefn a droais
ar fy mreuddwyd gynt,
o'm blaen y syllais
ar yr union hynt.
Gosod fy ngolwg
ar yr yrfa draw,
y gwaith a welwn,
ac yntau'r angeu a ddaw.'
(Awen y Gwyddyl, 1922)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ballinagree.freeservers.com; Gweler hefyd cofnodion yr Orsedd. Adalwyd 29 Mawrth 2016.