Con Colbert

Oddi ar Wicipedia
Con Colbert
Ganwyd19 Hydref 1888 Edit this on Wikidata
Swydd Limerick Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Carchar Kilmainham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata

Roedd Cornelius "Con" Colbert (Gwyddeleg: Conchúir Ó Colbáird; 19 Hydref 18888 Mai 1916) yn rebel Gwyddelig ac yn un o arweinwyr Fianna Éireann (mudiad sgowtio cenedlaetholgar Iwerddon). Cafodd ei ddienyddio gan sgwad saethu am ei ran yng Ngwrthryfel y Pasg 1916.[1][2]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod]

Yn enedigol o Moanleana, Castlemahon, Swydd Limerick roedd Colbert y pedwerydd ieuengaf o dri ar ddeg o blant i Michael Colbert, ffermwr a Nora née MacDermott ei wraig[3]. Symudodd y teulu i bentref Athea pan oedd Con yn dair oed. Cafodd ei addysg yn yr ysgol genedlaethol leol. Gadawodd Athea yn un ar bymtheg oed ac aeth i fyw at ei chwaer Catherine yn Ranelagh Swydd Dulyn. Parhaodd ei addysg mewn ysgol y Brodyr Cristnogol yng Ngogledd Richmond Street. Wedi ymadael a'r ysgol cafodd swydd fel clerc yng nghwmni popty Kennedy Roedd Colbert yn aelod o'r Eglwys Gatholig ac yn ŵr crefyddol iawn.

Fianna Éireann[golygu | golygu cod]

Cyngor Fianna Éireann tua 1915, Colbert yw'r gŵr yn y cilt

Ymunodd côn a Fianna Éireann fel capten yng Nghangen Inchicore, gan godi trwy'r rhengoedd i ddyfod yn Brif Sgowt Iwerddon. Roedd yn rhugl yn y Gwyddelig. Roedd yn credu bod gwrthryfeloedd cenedlaetholgar blaenorol wedi methu yn unig oherwydd "yfed ... diffyg disgyblaeth a sgwrs rydd", gan hynny roedd yn llwyr ymwrthodwr o'r ddiod gadarn. Cafodd gwersi preifat ar ddriliau milwrol gan hyfforddwr yn y fyddin Brydeinig. Er yn fach mewn statws ac yn dawel ei leferydd, profodd Colbert hyfforddwr dril effeithiol ac erbyn 1910 fe'i cyflogwyd yn rhan-amser fel hyfforddwr dril yn Ysgol Pádraig Pearse, St Enda.

Ar ôl ymuno â'r Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol ym 1912 a'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig ym 1913 bu'n gyfrifol am gynorthwyo drilio a hyfforddiant milwrol cyfrinachol aelodau'r frawdoliaeth o 1913. Fel capten Cwmni F, Pedwerydd Bataliwn, Brigâd Dulyn, bu'n gyfrifol am ddewis a hyfforddi'r rhai a fyddai'n gwasanaethu fel swyddogion ar wirfoddolwr yn ystod Gwrthryfel y Pasg.[4]

Gwrthryfel y Pasg[golygu | golygu cod]

Yn ystod yr wythnosau yn arwain at y gwrthryfel, bu Con yn gweithredu fel gwarchodwr i Tom Clarke. Gan ei fod yn ddirwestwr, ac yn annhebygol o gael ei demtio gan eu nwyddau, fe fu'n ymladd i geisio meddiannu Bragdy Watkin a Distyllfa Jamesons, Marrowbone Lane, yn ystod y gwrthryfel.

Wedi dal eu tir yn llwyddiannus, hyd dderbyn yr orchymyn i ildio gan Pearse, honnir i Colbert wylo'n agored pan gafodd yr orchymyn ei throsglwyddo iddo gan Thomas MacDonagh.

Dienyddiad[golygu | golygu cod]

Bedd y rhai a dienyddwyd ym 1916 - Carchar Arbour Hill

Wedi ildio hebryngwyd y gwrthryfelwyr i Farics Richmond lle fuont yn sefyll eu prawf o flaen llys milwrol, cafodd Colbert ei ddarfarnu'n euog a'i ddedfrydu i'w saethu'n farw a'i drosglwyddo i Garchar Kilmainha i'w dienyddio.

Roedd Colbert yn swyddog cymharol isel ac mae cryn drafodaeth wedi bod parthed pam y dienyddwyd ef tra fo cadlywyddion o safle uwch nag ef wedi eu harbed. Y traddodiad yw bod Con wedi ffugio mae ef oedd y prif swyddog yn y distyllfa, er mwyn gwarchod y gwir arweinydd, Seamus Murphy a oedd yn ŵr a thad[5]. Yn ôl Christopher Byrne un o'r gwirfoddolwyr a oedd yn Marrowbone Lane ac yn llygad dyst i'r hyn a ddigwyddodd mai'r stori heb sail. Roedd o'n awgrymu bod Colbert wedi ei ddienyddio oherwydd y ffordd y fu'n arddangos ei gredoau cenedlaetholgar yn agored i'r awdurdodau cyn y gwrthryfel a bod hynny wedi ei wneud o'n hysbys i'r awdurdodau [6].

Cafodd ei ddienyddio ar fore'r 8fed Mai 1916 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyffredin Carchar Arbour Hill[7]

Coffa[golygu | golygu cod]

Mae'r llefydd hyn wedi eu henwi er cof ac anrhydedd iddo:

  • Gorsaf Reilffordd Colbert yn Limerick.
  • Ffordd Con Colbert, Dulyn.
  • Cumann Fianna Fail ym Mhrifysgol Limerick.
  • Stryd Colbert, Athea, Swydd Limerick
  • Neuadd gymuned Con Colbert, Athea, Swydd Limerick

Dadorchuddiwyd cofeb i Colbert yn Athea gan Gerry Adams TD, Llywydd Sinn Féin ym mis Hydref 2015 fel rhan o gofio canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Tystiolaeth gan ei chwaer i Swyddfa Hanes Milwrol Iwerddon adalwyd 22Mawrth 2016 Archifwyd 2016-03-22 yn y Peiriant Wayback.
  2. Arweinlyfr i arddangosfa 1916 Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon adalwyd 22 Mawrth 2016
  3. Halla Mór 1916 SERIES-1888-BIRTH OF CONN COLBERTadalwyd 22 Mawrth 2016 Archifwyd 2015-10-05 yn y Peiriant Wayback.
  4. Independent Ie 07/01/2016 Cornelius 'Con' Colbert From a boy scout to rebel leader with a cause adalwyd 22 Mawrth 2016
  5. Con Colbert, Forgotten Hero of 1916 adalwyd 22 Mawrth 2016
  6. Ireland calling Con Colbert – executed for defiance before the Easter Rising? adalwyd 22 Mawrth 2016
  7. Lawrence William White Colbert, Cornelius (‘Con’) allan o Dictionary of Irish Biography Online © 2015 Cambridge University Press & Royal Irish Academy, copi heb tanysgrifiad: adalwyd 22Mawrth 2016
  8. Limerik Post 30 Hydref 2015 Adams unveils Con Colbert monument in County Limerick adalwyd 22 Mawrth 2016