Toirdhealbhach Mac Suibhne

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Toirdhealbhach Mac Suibhne
Terrence mac swiney.jpg
Cerflun o Mac Suibhne yn Neuadd y ddinas, Corc
Ganwyd Terence Joseph MacSwiney Edit this on Wikidata
28 Mawrth 1879 Edit this on Wikidata
Corc Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Hydref 1920 Edit this on Wikidata (41 oed)
Achos: newynu Edit this on Wikidata
carchar Brixton Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Gweriniaeth Iwerddon, Irish Republic, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Prifysgol Cork Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, Ysgrifennwr, Bardd Edit this on Wikidata
Swydd Arglwydd Maer Corc, Aelod o'r 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Teachta Dála Edit this on Wikidata
Arddull Theatr, Barddoniaeth Edit this on Wikidata
Priod Muriel MacSwiney Edit this on Wikidata

Roedd Toirdhealbhach Mac Suibhne en:James Terence MacSwiney (28 Mawrth 187925 Hydref 1920) yn ddramodydd, awdur a gwleidydd Gwyddelig. Cafodd ei ethol fel Arglwydd Maer Corc yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ym 1920 a'i arestio gan awdurdodau Prydain ar gyhuddiad o derfysg a'i garcharu yng Ngharchar Brixton. Bu ei farwolaeth yno ym mis Hydref 1920 wedi 74 diwrnod o streic newyn yn fodd i ddod a'i achos ef ac achos annibyniaeth yr Iwerddon i sylw rhyngwladol.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Mac Suibhne yn un o wyth o blant. Bu ei Dad, John MacSwiney, o Corc yn wirfoddolwr ym myddin y Pab a fu'n ymladd yn erbyn lluoedd Garibaldi ym 1868; wedi bod yn athro ysgol yn Llundain am gyfnod sefydlodd ffatri tybaco yn Corc. Yn dilyn methiant y busnes hwnnw ymfudodd i Awstralia ym 1885 gan adael ei blant yn yr Iwerddon yng ngofal eu mam. Roedd mam Mac Suibhne, Mary Wilkinson, yn Saesnes o dras Gatholig oedd yn gefnogwr triw i achos cenedlaethol yr Iwerddon.

Ganwyd Mac Suibhne yn 23 North Main Street, Corc. Cafodd ei addysg gan y Brodyr Cristnogol yn ysgol Mynachdy'r Gogledd yn Ninas Corc, ond gadawodd yn bymtheg mlwydd oed i helpu i gefnogi'r teulu. Daeth yn glerc mewn swyddfa cyfrifydd gan barhau ei astudiaethau fel efrydydd allanol ym Mhrifysgol Brenhinol Corc (Coleg Prifysgol Corc, bellach), gan raddio gyda gradd mewn Gwyddoniaeth Meddyliol a Moesol ym 1907[2].

Ym 1901 bu'n un o sylfaenwyr y Gymdeithas Lenyddol Geltaidd, ac ym 1908 sefydlodd Gymdeithas Ddrama Corc ar y cyd â Daniel Corkery gan ysgrifennu nifer o ddramâu ar eu cyfer. Wrth ennill ei damaid fel cyfrifydd roedd hefyd yn ddramodydd, bardd ac awdur nifer o bamffledi ar hanes Gwyddelig. Ei ddrama gyntaf oedd The Last Warriors of Coole a gynhyrchwyd ym 1910. Roedd ei bumed ddrama The Revolutionist (1915) yn trafod safiad gwleidyddol gwrthryfelwyr Gwyddelig.

Er iddo gael magwraeth Saesneg daeth Mac Suibhne i sylweddoli pwysigrwydd yr iaith Wyddeleg i'r achos cenedlaethol, trwy fynychu gwersi a drefnwyd gan y Gynghrair Gaeleg daeth yn siaradwr rhugl.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgrifennodd Mac Suibhne gerddi a ddisgrifiwyd fel rhai sensitif a deallusol[3] yn y papur newyddion Irish Freedom a daeth hyn ag ef i sylw'r Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol. Roedd yn un o sylfaenwyr Brigâd dinas Corc o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig ym 1913, a gwasanaethodd fel Llywydd Cangen Corc o Sinn Féin. Sefydlodd bapur newydd o'r enw Fianna Fáil ym 1914, ond cafodd y papur ei atal gan yr awdurdodau ar ôl cyhoeddi dim ond 11 rhifyn. Ym mis Ebrill 1916 y bwriad oedd iddo fod yn ddirprwy arweinydd gweithgareddau Gwrthryfel y Pasg yn Swyddi Corc a Kerry, ond safodd ei luoedd i lawr ar orchymyn Eoin MacNeill. Yn dilyn y gwrthryfel, cafodd ei gaethiwo (dan Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas) yng ngharchardai Reading a Wakefield hyd fis Rhagfyr 1916. Ym mis Chwefror 1917 cafodd ei alltudio o'r Iwerddon a'i gaethiwo yn yr Amwythig a Bromyard gan gael ei ryddhau ym mis Mehefin 1917. Tra'n alltud yn Bromyard priododd Muriel Murphy un o deulu distyllfa Murphy's[4], bu iddynt un ferch[5]. Ym mis Tachwedd 1917, cafodd ei arestio am wisgo lifrau Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA).

Yn Etholiad cyffredinol 1918 cafodd Mac Suibhne ei ethol yn ddiwrthwynebiad i Dŷ'r Cyffredin fel AS gan wrthod ei sedd yn San Steffan er mwyn eistedd yn Dáil Éireann fel cynrychiolydd Sinn Féin ar gyfer etholaeth Canolbarth Corc. Wedi llofruddiaeth ei gyfaill Tomás Mac Curtain, Arglwydd Maer Corc ar 20 Mawrth 1920 cafodd  Mac Suibhne ei ethol fel olynydd iddo. Ar 12 Awst 1920 cafodd ei arestio am fod mewn meddiant o erthyglau a dogfennau bradwrus, a bod mewn meddiant allwedd i ddogfennau mewn côd. Cafodd ei farnu'n euog gan Lys Milwrol ar 16 Awst a'i ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar yng Ngharchar Brixton.

Streic newyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi cyrraedd carchar Brixton aeth Mac Suibhne ar streic newyn mewn protest yn erbyn ei garchariad a'r ffaith ei fod wedi ei roi ar brawf gan lys milwrol; aeth 11 o garcharorion gweriniaethol yng ngharchar Corc ar streic newyn ar yr un pryd i ddangos eu cefnogaeth. Gwrthod ildio bu ymateb y llywodraeth Brydeinig gan honni "byddai rhyddhau'r Arglwydd Maer yn cael canlyniadau trychinebus yn Iwerddon ac mae'n debyg y byddai'n arwain at fiwtini ymysg milwyr a heddlu yn neheudir yr Iwerddon." Enynnodd y streic newyn sylw byd eang; bu bygwth boicot ar nwyddau Prydeinig gan Americanwyr; danfonwyd deiseb gan bedair gwlad yn Ne America yn apelio ar y Pab i ymyrryd; bu protestiadau yn yr Almaen a Ffrainc hefyd. Cafodd Aelod Seneddol yn Awstralia, Hugh Mahon, ei ddiarddel o senedd Awstralia am yngan "ymadroddion bradwrus ac annheyrngar mewn cyfarfod cyhoeddus" wrth annerch protest yn erbyn gweithredoedd Llywodraeth Prydain. Bythefnos yn ddiweddarach, anfonodd grŵp gweithwyr masnach a diwydiant Catalwnia el Centre Autonomista de Dependents del Comerç i de la Indústria (CADCI) ddeiseb at Brif Weinidog Prydain yn galw am ryddhau a bu papur y mudiad, Acció, yn ymgyrchu o blaid achos Mac Suibhne.[6]

Ceisiodd awdurdodau'r carchar i orfodi bwyd ar y carcharor trwy beipen rwber, twmffat a chyfarpar arall ond heb lwyddiant. Ar Hydref 20fed 1920 syrthiodd Mac Suibhne i mewn i drwmgwsg a bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach ar ôl 74 diwrnod ar streic newyn. Rhoddwyd ei gorff i orwedd yn Eglwys Gadeiriol St George, Southwark, Llundain lle bu 30,000 o bobl yn talu teyrnged iddo cyn i'r corff gael ei ddychwelyd i Corc ar gyfer ei gladdu. Cynhaliwyd yr angladd ar 31 Hydref pan glywodd torfeydd anferth Arthur Griffith yn cyflwyno araith teyrnged ar lan y bedd. Claddwyd Mac Suibhne mewn un o'r plotiau gweriniaethol ym Mynwent Sant Finbarr, Corc.[7]

Gwaddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu bywyd a gwaith Mac Suibhne yn ddylanwadol iawn ar achos annibyniaeth India; dywedodd Jawaharlal Nehru ei fod wedi cael ysbrydoliaeth o esiampl ac ysgrifau Mac Suibhne, ac fe fu Mahatma Gandhi yn ei gyfrif fel un a chafodd ei ddylanwadu ganddo[8]. Cafodd ei lyfr Principals of Freedom ei gyfieithu i amryw o ieithoedd Indiad gynnwys Telugu.

Bu'r arweinydd chwyldroadol o Fietnam, Hồ Chí Minh, yn gweithio mewn gwesty yn Llundain ar adeg carchariad a marwolaeth Mac Suibhne gan ddweud amdano Ni fydd cenedl sy'n magu dinasyddion fel hyn byth yn ildio.

Cyflwynodd y cyfansoddwr Gwyddelig Americanaidd Swan Hennessy (1866-1929) ei bedwarawd llinynnol rhif 2 op. 49 (1920) er cof am MacSwiney (à la Mémoire de Terence McSwiney, Lord Mayor de Cork). Cafodd ei pherfformio gyntaf ym Mharis, 25 Ionawr, 1922, gan bedwarawd Gwyddelig yn cael eu harwain gan Arthur Darley.

Enwyd un o ysgolion uwchradd dinas Corc ar ei ôl, mewn teyrnged iddo.

Mae gan Amgueddfa Cyhoeddus Corc gasgliad er cof amdano ac mae yna bortread ohono a pheintiad o olygfa o'i offeren cynhebrwng gan Syr John Lavery yn cael eu harddangos yn Oriel Gelf Crawford, Corc.

Cyfraniad gwleidyddol y teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi marwolaeth Toirdhealbhach olynwyd ef yn y Dáil gan ei chwaer Mary MacSwiney fel aelod a oedd yn erbyn Cytundeb Eingl-Wyddelig 1922. Bu ei frawd Seán MacSwiney hefyd yn cynrychioli un arall o etholaethau Corc fel aelod a oedd yn gwrthwynebu'r Cytundeb.

Ym 1945 priododd ei unig blentyn, Máire MacSwiney gyda Ruairi Brugha; bu ef yn gwasanaethu fel Teachta Dála (aelod o'r Dáil Éireann), fel Aelod o Senedd Ewrop, ac fel Seneddwr. Cyhoeddodd Máire fywgraffiad ac atgofion o'i thad yn 2006 History's daughter a memoir from the only child of Terence MacSwiney[5]. Bu farw Máire yn 2012[9]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Music of Freedom by 'Cuireadóir'. (Cyfrol o farddoniaeth, The Risen Gaedheal Press, Cork 1907)
  • Fianna Fáil : the Irish army : a journal for militant Ireland papur newyddion - golygydd MacSwiney; Corc, 11 rhifyn, (Medi i Rhagfyr 1914)
  • The Revolutionist; a play in five acts (Dublin, London: Maunsel and Company, 1914). Ar wefan Internet Archive.
  • The Ethics of Revolt: a discussion from a Catholic point of view as to when it becomes lawful to rise in revolt against the Civil Power by Toirdhealbhach Mac Suibhne (llyfryn, 1918)
  • Battle-cries (Cyfrol o farddoniaeth, 1918)
  • Principles of Freedom (Dublin: The Talbot Press, 1921)
  • Despite Fools' Laughter; poems by Terence MacSwiney. Edited by B. G. MacCarthy (Dublin: M. H. Gill and Son, 1944)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]