Datganiad Annibyniaeth Iwerddon

Oddi ar Wicipedia
Datganiad Annibyniaeth Iwerddon, a gyhoeddwyd gan arweinwyr Gwrthryfel y Pasg

Roedd Datganiad Cyhoeddi Annibyniaeth y Weriniaeth (Saesneg: Proclamation of the Republic Gwyddeleg: Forógra na Poblachta), a elwir hefyd yn Ddatganiad Cyhoeddi 1916 neu’n Ddatganiad Cyhoeddi y Pasg, yn ddogfen a gyhoeddwyd gan y Gwirfoddolwyr Gwyddelig a Byddin Dinasyddion Iwerddon yn ystod Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, a ddechreuodd ar 24 Ebrill 1916. Yn y ddogfen, datganodd Cyngor Milwrol y Frawdolaeth Wyddeig, a oedd yn ystyried ei hun yn "Lywodraeth Dros Dro Gweriniaeth Iwerddon", annibyniaeth Iwerddon o'r Deyrnas Unedig. Darlleniad y datganiad gan Patrick Pearse y tu allan i'r Swyddfa Post Gyffredinol (GPO) ar Stryd y Sackville (a elwir bellach yn O'Connell Street), prif dramwyfa Dulyn, wnaeth nodi dechrau’r Gwrthryfel. Cafodd y datganiad ei fodelu ar gyhoeddiad annibyniaeth tebyg a gyhoeddwyd yn ystod gwrthryfel 1803 gan Robert Emmet.

Egwyddorion y datganiad[golygu | golygu cod]

Er i’r Gwrthryfel fethu yn nhermau milwrol, dylanwadodd egwyddorion y Datganiad i raddau amrywiol ar ffordd o feddwl cenedlaethau diweddarach o wleidyddion Gwyddelig. Mae'r ddogfen yn cynnwys nifer o hawliadau:

  • bod arweinwyr y gwrthryfel yn siarad ar ran Iwerddon (hawliad a wnaed yn hanesyddol gan fudiadau gwrthryfelgar Gwyddelig);
  • bod y Gwrthryfel yn nodi ton arall o ymdrechion i gyflawni annibyniaeth drwy rym arfau;
  • bod y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol, y Gwirfoddolwyr Gwyddelig a Byddin Dinesydd Gwyddelig yn ganolog i'r Gwrthryfel;
  • "hawl pobl Iwerddon i fod â pherchnogaeth dros Iwerddon"
  • mai gweriniaeth oedd y math o lywodraeth a oedd i fod;
  • gwarant o "ryddid crefyddol a sifil, hawliau cyfartal a chyfle cyfartal i'w holl ddinasyddion", y cyfeiriad cyntaf at gydraddoldeb rhyw, o ystyried nad oedd gan merched Gwyddelig, o dan gyfraith Prydain, yr hawl i bleidleisio;
  • ymrwymiad i bleidlais gyffredinol, ffenomen a oedd wedi’i gyfyngu ar y pryd i ddim ond llond dwrn o wledydd, heb gynnwys Prydain;
  • addewid i "ofalu am holl blant y genedl yn gyfartal". Er bod y geiriau hyn wedi cael eu dyfynnu ers y 1990au gan eiriolwyr hawliau plant, mae "plant y genedl" yn cyfeirio at holl bobl Iwerddon;
  • priodolir anghydfodau rhwng cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr i "wahaniaethau a gafodd eu meithrin yn ofalus gan lywodraeth estron", sef gwrthodiad o'r hyn a elwir yn ddiweddarach yn theori ddwy-genedl.

Argraffu a dosbarthu’r testun[golygu | golygu cod]

Argraffyd y datganiad yn y dirgel cyn y Gwrthryfel ar wasg argraffu Cylinder stop Wharfedale. Oherwydd ei fod yn cael ei argraffu yn y dirgel, cododd problemau a oedd yn effeithio ar ei osodiad a’i ddyluniad. Yn arbennig, oherwydd prinder teip, cafodd y ddogfen ei hargraffu mewn dwy hanner, argraffwyd y rhan uchaf yn gyntaf, ac yna’r rhan isaf ar yr un darn o bapur. Y cysodwyr oedd Willie O'Brien, Michael Molloy a Christopher Brady.[1] Roeddynt yn brin o deip o’r un maint a’r un ffont, ac o ganlyniad mewn rhai rhannau o'r ddogfen, defnyddiwyd llythyren ‘e’ mewn ffont gwahanol, a oedd yn llai ac nid oedd yn cyd-fynd â’r gweddill.

Awgryma’r iaith bod y copi gwreiddiol o’r datganiad wedi'i lofnodi gan arweinwyr y Gwrthryfel. Ond, nid oes tystiolaeth nac unrhyw gofnodion cyfoes yn crybwyll bodolaeth copi a oedd wedi'i lofnodi mewn gwirionedd. Er, petai copi o'r fath yn bodoli, gallai fod yn hawdd wedi cael ei ddinistrio yn dilyn y Gwrthryfel gan rywun (o luoedd arfog Prydain, aelod o'r cyhoedd neu’r rhai a gymerodd ran yn y Gwrthryfel mewn ymgais i ddinistrio tystiolaeth cyhuddol o bosibl) nad oedd yn gwerthfawrogi ei bwysigrwydd hanesyddol. Honnodd Molloy yn ddiweddarach iddo osod y ddogfen o gopi wedi'i ysgrifennu â llaw, gyda llofnodion ar ddarn o bapur ar wahân y gwaneth ef ei ddinistrio drwy ei gnoi tra yn y carchar, ond mae eraill yn gwrthddweud hyn.[2] Roedd Molloy hefyd yn cofio bod Connolly wedi gofyn i’r ddogfen gael ei dylunio ar ffurf tebyg i hysbysiad arwerthiant. Mae tua 30 copi gwreiddiol wedi goroesi, ac mae un o'r rhain i'w weld yn yr Amgueddfa Argraffu Cenedlaethol.

Y llofnodwyr[golygu | golygu cod]

Dyma'r restr o'r llofnodwyr fel y mae eu henwau yn ymddangos ar y Datganiad:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Irish Transport and General Workers' Union (1959). Fifty years of Liberty Hall: the golden jubilee of the Irish Transport and General Workers' Union 1909–1959. Dublin: Three Candles. t. 69. Cyrchwyd 11 May 2011.
  2. "Witness statement WS 716 (Michael J. Molloy)" (PDF). Bureau of Military History. t. 5. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-02-09. Cyrchwyd 3 November 2015.