Éilís Ní Fhearghail

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Éilís Ní Fhearghail
Ganwyd 5 Tachwedd 1884 Edit this on Wikidata
Bu farw 25 Mehefin 1957 Edit this on Wikidata (72 oed)
Gwaith nyrs, Bydwreigiaeth Edit this on Wikidata

Roedd Éilís Ní Fhearghail (Saesneg: Elizabeth O'Farrell) (5 Tachwedd 188425 Mehefin 1957) yn nyrs Gwyddelig ac aelod o Cumann na mBan, sydd fwyaf adnabyddus am gyflwyno'r ddogfen ildio wedi Gwrthryfel y Pasg 1916.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Elizabeth O'Farrell yn 33 Quay City, Dulyn ar 5 Tachwedd 1884 [2]. Roedd yn ferch i Christopher O'Farrell a Margaret neé Kenneth.

Bu farw ei thad pan oedd hi'n ifanc a bu'n rhaid iddi ymadael a'r ysgol i ganfod gwaith; cymerodd swydd yng nghwmni argraffu Armstrong yn Stryd Amiens, Dulyn. Ymunodd a Inghinidhe na hEireann ym 1906. Gweithiodd fel bydwraig yn Ysbyty Holles Street yn Nulyn [3].

Y Gwrthryfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Éilís Ní Fhearghail yn gweithredu fel negesydd cyn ac yn ystod Gwrthryfel y Pasg, yn danfon bwletinau a chyfarwyddiadau i ganolfannau'r gwrthryfelwyr o gwmpas Dulyn. Roedd hin un o'r tair menyw a arhosodd yn Swyddfa Bost Gyffredinol Dulyn hyd ddiwedd y gwrthryfel; y ddwy arall oedd Winifred Carney a Julia Grenan. Gyda'i chyfaill a'i chyd-nyrs, Julia Grenan, bu hi'n gofalu am y rhai a chlwyfwyd yn y gwarchae ar y GPO, gan gynnwys James Connolly.

Am 12.45 pm ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill rhoddwyd arwyddlun y Groes Goch a baner wen i Ní Fhearghail a gofynnwyd iddi gyflwyno dogfen ildio i'r fyddin Brydeinig. Aeth a'r ddogfen ildio i'r Brigadydd Cyffredinol William Lowe, gwrthododd ef y telerau ildio gan anfon Éilís yn ôl at Pádraig Pearse yn rhif 16 Stryd Moore gan fynnu bod rhaid i'r gweriniaethwyr ildio yn gwbl ddiamod. Cytunodd Pearse ac, yng nghwmni Ní Fhearghail aeth at y Brigadydd gan ildio'n bersonol i Lowe. Mewn lluniau a ymddangosodd yn y wasg ar y pryd mae Ní Fhearghail i'w gweld wedi ei chuddio'n rhannol gan Pearse, ar adeg yr ildio ond yn yr unig ddelwedd sydd wedi goroesi o'r ildiad mae presenoldeb Éilís wedi ei ddileu er siom i'r sawl sydd am ddathlu cyfraniad merched mewn digwyddiadau o bwysigrwydd hanesyddol [4].

Yng nghwmni offeiriad a thri milwr aeth Éilís i ddosbarthu'r gorchymyn i ildio i safleoedd y gweriniaethwyr ar draws Dulyn.

Er gwaethaf sicrwydd Lowe na fyddai'n cael ei chymryd yn garcharor, cafodd ei arestio a'i chadw dan glo ym Marics Ship Street wedi'r ildio. Pan glywodd Lowe am yr arestio gorchymynnodd ei bod i'w rhyddhau ac fe ymddiheurodd iddi hi.[5]

Arhosodd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth Weriniaethol hyd ei marwolaeth

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn Fatima House yn Bray, Swydd Wicklow 25 Mehefin 1957 a chael ei chladdu yn y Plot Weriniaethol ym Mynwent Glasnevin ochr yn ochr â Julia Grenan.

Coffadwriaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1967 sefydlwyd Sefydliad Nyrs Elizabeth O'Farrell, sefydliad sydd yn cefnogi astudiaethau ôl-raddedig ym maes nyrsio, a dadorchuddwyd plac coffa iddi yn Ysbyty Holles Street yn yr un flwyddyn. Yn 2003 cafodd plac arall ei ddadorchuddio ym Mharc Quay City .

Mae hi wedi cael ei phortreadu mewn nifer o ddramâu a dramâu teledu, gan gynnwys Revoloution RTE; fodd bynnag cafodd ei hepgor o ffilm Neil Jordan Michael Collins lle mae'r ildio yn cael ei gyflwyno gan ddyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Frances Clarke & James Quinn; O'Farrell, Elizabeth [1] adalwyd 11 Mawrth 2016
  2. S. McCoole, "No Ordinary Women", t.193.
  3. National Library of Ireland Research Guide Women in Irish History t 13 adalwyd 11 Mawrth 2016
  4. The woman airbrushed from history [2] adalwyd 11 Mawrth 2016
  5. Clarke, Frances; Quinn, James (2013). "O'Farrell, Elizabeth". In McGuire, James; Quinn, James. Dictionary of Irish Biography. Cambridge: Cambridge University Press. Adalwyd 9 Ionawr 2016. (subscription required (help)).  Check date values in: |access-date= (help)