Ivor Churchill Guest

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ivor Churchill Guest tua 1906

Roedd Ivor Churchill Guest, is-iarll 1af Wimborne (16 Ionawr 187314 Mehefin 1939) yn wleidydd Prydeinig, ac un o Arglwyddi Raglaw olaf yr Iwerddon, gan wasanaethu yn y swydd honno ar adeg Gwrthryfel y Pasg.

Cefndir ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Guest yn fab i Ivor Guest, barwn 1af Wimborne a'r Ledi Cornelia, merch John Spencer-Churchill, 7fed dug Marlborough. Roedd yn frawd hynaf i Frederick Guest, Oscar Guest a Henry Guest ac yn gefnder i Winston Churchill; roedd yn ŵyr i'r meistr haearn John Josiah Guest. Cafodd ei addysg yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt[1]. Gwasanaethodd yn Ail Ryfel y Boer a dyfarnwyd Medal De Affrica'r Frenhines gyda dau glesbyn iddo am ei wasanaeth. Ar ôl dychwelyd i'r Deyrnas Unedig cafodd ei benodi'n Gapten yn y Dorset Imperial Yeomanry ym mis Ionawr 1902[2].

Gyrfa wleidyddol, 1900–1915[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei ethol i'r Senedd gyntaf fel aelod Plymouth ym 1900 (sedd yr oedd eisoes wedi'i hymladd yn aflwyddiannus ym 1898) ar ran y Blaid Geidwadol. Ym 1904 bu dadl fewnol yn y Blaid Geidwadol ar achos diffyndollaeth (codi tollau ar nwyddau tramor er mwyn amddiffyn pris nwyddau cynhenid). Symudodd Winston Churchill i'r Blaid Ryddfrydol i gefnogi egwyddor y farchnad rydd ac ymunodd Guest ag ef. Yn etholiad cyffredinol 1906 safodd fel Rhyddfrydwr yn etholaeth Caerdydd gan ennill y sedd i'w blaid newydd.

Parhaodd yn Aelod Seneddol hyd 1910, pan gafodd ei godi i'r bendefigaeth fel y Barwn Ashby o St Ledgers[3] a chael ei benodi yn Dâl-feistr Cyffredinol yn llywodraeth H. H. Asquith. Gwasanaethodd fel Tâl-feistr Cyffredinol hyd 1912. Cafodd ei benodi yn Arglwydd Breswyl i'r Frenin Siôr V. Ym 1914 olynodd ei dad fel Barwn Wimborne. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf fe'i penodwyd i staff Catrawd y 10fed Isadran Wyddelig[4][5].

Arglwydd Raglaw'r Iwerddon 1915–1918[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Chwefror 1915 penodwyd Wimborne yn Arglwydd Raglaw'r Iwerddon fel olynydd i'r Arglwydd Aberdeen. Ar y pryd roedd swydd yr Arglwydd Raglaw yn un seremonïol yn bennaf; roedd dyletswyddau hanesyddol y swydd yn cael eu cyflawni gan y Brif Ysgrifennydd a'r Is-ysgrifennydd gwladol. Yn benderfynol o gymryd mwy o ran mewn gwneud penderfyniadau, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Recriwtio'r Iwerddon ym mis Hydref 1915, yr oedd hefyd am gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gyflwr y wlad gan fynnu bod yr Is-ysgrifennydd Gwladol, Syr Matthew Nathan, yn danfon iddo fanylion am adroddiadau'r heddlu, manylion am erlyniadau a ffigurau recriwtio[6].

Ar y penwythnos cyn Gwrthryfel y Pasg, yn dilyn cipio'r llong Almaenig Aud ac arestio Syr Roger Casement, anogodd Wimborne bod Nathan yn gorchymyn arestio nifer fawr o arweinwyr y gwrthryfelwyr, ond roedd Nathan yn amharod i wneud hynny heb awdurdod y Brif Ysgrifennydd, Augustine Birrell, a oedd yn Llundain ar y pryd[7]. Cyn i'r caniatâd cael ei dderbyn dechreuodd y Gwrthryfel ar 24 Ebrill 1916. Cyhoeddodd Wimborne ddatganiad o gyfraith ryfel yn Nulyn, gan roi grym cyfreithiol i'r fyddin. Wedi hynny cymerodd y fyddin reolaeth o'r ddinas.

Wedi'r gwrthryfel bu rhai'n beio ymyrraeth yr Arglwydd Wimborne am beidio atal y gwrthryfel a galwyd am ei ymddiswyddiad fel Arglwydd Raglaw. Gwrthododd ymddiswyddo ar y cyfle cyntaf cyn cael ei orfodi i wneud hynny o dan bwysau gan y llywodraeth. Penderfynodd y Comisiwn Brenhinol a ymchwiliodd i achosion y gwrthryfel (Comisiwn Hardinge) nad oedd unrhyw fai ar Wimborne, gan ddatgan bod ei swydd fel Arglwydd Raglaw yn anghyson ar adegau o heddwch a bron yn anymarferol ar adegau o argyfwng a chafodd ei ail-benodi. Parhaodd fel Arglwydd Raglaw am ddwy flynedd arall. Ar ei ymddeoliad ym 1918 cafodd ei greu'n Is-iarll Wimborne, o Canford Magna yn Swydd Dorset.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd yr Arglwydd Wimborne yn Eglwys Sant Pedr, Sgwâr Eaton, Llundain, ar 10 Chwefror 1902 gyda'r Anrhydeddus Alice Grosvenor, merch Robert Grosvenor, 2il farwn Ebury. Bu iddynt un mab a dwy ferch. Erbyn y 1930au yr oeddynt yn byw ar wahân, ond heb ysgaru, gyda'r Arglwyddes Wimborne mewn perthynas â'r cerddor William Walton.

Bu farw Wimborne ym mis Mehefin 1939 yn 66 mlwydd oed, yn Wimborne House, Stryd Arlington, Llundain, y tŷ lle cafodd ei eni. Dilynwyd ef i'r Is-iarllaeth gan ei unig fab, Ivor. Bu farw'r Arglwyddes Wimborne ym mis Ebrill 1948 yn 67 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge [1] adalwyd 16 Ion 2015
  2. London Gazette: no. 27398. p. 389. 17 January 1902.
  3. London Gazette: no. 28349. p. 1953. 18 Mawrth 1910.
  4. Ó Broin, Leon, Dublin Castle & the 1916 Rising, Sidgwick & Jackson, 1970, tud. 31
  5. Townshend, Charles, Easter 1916: The Irish Rebellion, Penguin, 2006, ISBN 978-0-14-101216-2, tud. 147
  6. Ó Broin, Leon, Dublin Castle & the 1916 Rising tud. 68–69
  7. Townshend, Charles, Easter 1916: The Irish Rebellion tud. 149–151
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward James Reed
Aelod Seneddol dros Caerdydd
19061910
Olynydd:
David Alfred Thomas