Pádraig Pearse

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pádraig Pearse

Roedd Pádraig Pearse neu Patrick Henry Pearse, Gwyddeleg: Pádraig Anraí Mac Piarais, 10 Tachwedd, 1879 - 3 Mai, 1916) yn athro ysgol, bardd a chenedlaetholwr Gwyddelig, sy'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng Ngwrthryfel y Pasg yn 1916.

Roedd Pearse yn rhoi pwyslais mawr ar yr iaith Wyddeleg, ac ymunodd a Conradh na Gaeilge ("Cynghrair yr Wyddeleg") yn 16 oed. Daeth yn olygydd papur newydd cyntaf y Cynghrair, An Claidheamh Soluis ("Cleddyf y Goleuni") ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Teimlai mai'r ffordd i achub yr iaith oedd trwy addysg. Dechreuodd ei ysgol ddwyieithog ei hun, Ysgol Sant Enda (Scoil Éanna) yn Ranelagh, Swydd Dulyn, yn 1908, gyda chymorth Thomas MacDonagh a'i frawd Willie Pearse.

Yn 1913 gwahoddwyd ef i gyfarfod cyntaf y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Irish Volunteers), ac yn 1914 daeth yn aelod o'r Irish Republican Brotherhood, mudiad tanddaearol oedd yn anelu ar weriniaeth annibynnol yn Iwerddon. Ar 1 Awst, 1915, traddododd Pearse anerchiad enwog yng nghynhebrwng y Ffeniad Jeremiah O'Donovan Rossa. Gorffennodd yr araith gyda'r geiriau enwog:

The Defenders of this Realm have worked well in secret and in the open. They think that
they have pacified Ireland. They think that they have purchased half of us and intimidated
the other half. They think that they have foreseen everything, think that they have
provided against everything; but, the fools, the fools, the fools! — They have left us
our Fenian dead, and while Ireland holds these graves, Ireland unfree shall never be at peace.

Dechreuodd Gwrthryfel y Pasg ar 24 Ebrill, 1916, gyda Pearse yn un o'r prif arweinyddion. Ef a ddarllenodd y ddogfen oedd yn cyhoeddi ffurfio gweriniaeth Iwerddon Rydd ar risiau Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr gael ei gorfodi i ildio ar ôl dyddiau o frwydro, rhoddwyd ef ar ei brawf gan y fyddin Brydeinig a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham ar 3 Mai gyda Thomas Clarke a Thomas MacDonagh, y cyntaf o'r gwrthryfelwyr i'w dienyddio. Saethwyd ei frawd Willie ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.

Mae ei hen ysgol, Ysgol Sant Enda yn Rathfarnham, yn awr yn amgueddfa. Mae Pearse yn un o arwyr Taoiseach presennol Iwerddon, Bertie Ahern, ac mae ganddo ddarlun o Pearse uwchben y ddesg yn ei swyddfa.

Roedd Pádraig Pearse yn fardd dawnus yn yr iaith Wyddeleg. Mae ei gerdd 'Y Dynged' (neu 'Y Delfryd') yn un o'r enwocaf yn llenyddiaeth ddiweddar yr iaith honno. Yn y gerdd mae'r bardd yn disgrifio ei weledigaeth o Iwerddon yn ei holl ogoniant, fel morwyn ifanc anhraethol hardd, ond mae'n rhaid iddo droi ei gefn arni, er ei mwyn hi, a wynebu'r dynged anorfod a ddaw. Dyma gyfieithiad T. Gwynn Jones o'r bennill gyntaf a'r ddwy olaf:

'Lendid pob glendid,
yn noeth y'th welais di,
a chau fy llygaid
rhag ofn a wneuthum.'
'Fy nghefn a droais
ar fy mreuddwyd gynt,
o'm blaen y syllais
ar yr union hynt.
Gosod fy ngolwg
ar yr yrfa draw,
y gwaith a welwn,
ac yntau'r angeu a ddaw.'
(Awen y Gwyddyl, 1922)