Y Swyddfa Bost Gyffredinol, Dulyn

Oddi ar Wicipedia
Y Swyddfa Bost Gyffredinol
Mathswyddfa bost, adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol6 Ionawr 1818 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 6 Ionawr 1814 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDulyn Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Cyfesurynnau53.3493°N 6.2611°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth yr Adfywiad Groegaidd, pensaernïaeth Sioraidd Edit this on Wikidata
PerchnogaethAn Post Edit this on Wikidata

Pencadlys y Swyddfa Bost Gwyddelig, An Post, a phrif swyddfa bost y ddinas, yw Swyddfa'r Bost Gyffredinol, Dulyn, neu GPO Dulyn (Gwyddeleg: Ard-Oifig yn Phoist). Fe'i lleolir yng nghanol Stryd O'Connell, brif dramwyfa Dulyn, mae'n un o adeiladau enwocaf Iwerddon, ar olaf o'r adeiladau cyhoeddus Sioraidd gwych a godwyd yn y brifddinas.[1]

Pensaernïaeth[golygu | golygu cod]

Lleolwyd y Swyddfa Bost Cyffredinol cyntaf mewn adeilad bychan ar y safle lle bu'r Adeiladau Masnachol yn arfer bod (bellach adeilad y Banc Canolog) oddi ar Dame Street, cafodd ei symud wedyn i dŷ mwy, gyferbyn ag adeiladau Banc Iwerddon ar College Green. Agorwyd y Swyddfa Post newydd ar Sackville Street (O'Connell Street bellach) ar 6 Ionawr 1818. Pensaer yr adeilad newydd oedd Francis Johnston. Gosodwyd y cerrig sylfaen ar 12 Awst 1814 gan Arglwydd Raglaw'r Iwerddon, Charles Whitworth, Iarll 1af Whitworth yng nghwmni'r Postfeistri Cyffredinol Charles O'Neill, Iarll 1af O'Neill a Laurence Parsons, 2il Iarll Rosse. Cafodd yr adeilad ei gwblhau yn y cyfnod byr o dair blynedd ar gost o £50,000.

Mae gan blaen yr adeilad, sy'n ymestyn 67.1 metr (220 troedfedd), portico Ïonig 24.4 metr (80 troedfedd) o led wedi ei ffurfio gan chwe cholofn Ïonig rychiog, 137.16 centimetr (54 modfedd) mewn diamedr. Mae'r ffris y goruwchadail wedi ei addurno'n oludog iawn, yn dympanwm y pediment bu'r arfbais frenhinol hyd ei symud yn dilyn gwaith adfer yn y 1920au. Ar acroteria'r pediment ceir tri cherflun gan John Smyth: Mercher ar y chwith, gyda'i gaduceus a'i bwrs; Ffyddlondeb ar y dde, gyda chi wrth ei thraed ac allwedd yn ei llaw dde; a Hibernia yn y canol yn gorffwys ar ei waywffon ac yn canu'r delyn. Mae balwstrad yn coroni cornis yr adeilad, sydd yn 15.2 metr (50 troedfedd) yn uwch na'r ddaear.

Ac eithrio'r portico, sydd o garreg Portland, mae gweddill yr adeilad wedi ei hadeiladu o wenithfaen.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ystod Gwrthryfel y Pasg 1916, defnyddiwyd y GPO fel pencadlys arweinwyr y gwrthryfel. Dinistriwyd yr adeilad gan dân yn ystod y brwydro ac ni chafodd ei drwsio hyd i Lywodraeth Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ymgymryd â'r dasg rai blynyddoedd yn ddiweddarach.[2] Y ffasâd yw'r cyfan sy'n weddill o'r adeilad gwreiddiol.

Galeri[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The GPO – Two Hundred Years Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 11 Mawrth 2016
  2. N Trueman The Easter Uprising[dolen marw] adalwyd 11 Mawrth 2016