Mercher (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Duw Rhufeinig clasurol oedd Mercher (Lladin: Mercurius). Roedd yn cyfateb i'r duw Hermes yn y pantheon Groeg, ond gyda rhai gwahaniaethau pwysig.

Roedd Mercher yn cludo negesau rhwng y duwiau i gyd, ar Fynydd Olympus. Roedd hefyd yn edrych ar ôl gwerthu pethau, a hefyd cyfoeth a heddwch. Daeth ei hanes i Rufain o Wlad Groeg yn y bumed canrif CC. Hermes oedd ei enw yng Ngwlad Groeg.

Mewn sêr-ddewiniaeth, mae Mercher yn blaned sy'n rheoli materion cyfathrebu - ysgrifennu, dysgu, ayb. Mae Mercher yn fod i wneud pethau'n gyflymach ac yn haws. Hi yw'r blaned sy'n bwysicach i arwyddion yr Efeilliaid (Gemini) a'r Forwyn (Virgo).

Mae yna wahaniaethau yn yr hyn a welwn o'r ddaear o batrwm symudiad y planedau. Bydd y rhai sy'n bellach na ni o'r haul yn ei hwylio hi'n braf ar draws yr awyr o un cwr i'r llall. Ond fedr Mercher, na Gwenner, sydd rhyngddom ni a'r haul, ddim gwneud hynny. Byddant hwy yn ymddangos am gyfnodau byrrach – yn gynnar ac yn hwyr yn y nos, a Mercher ddim ond am ryw awr ar y mwyaf cyn y wawr ac wedi'r machlud.

Bydd Mercher i'w gweld yn agos at y gorwel yn y gwyll rhwng dydd a nos, yn hebrwng yr haul tuag at oleuni'r wawr neu yn ei ddilyn i'r tywyllwch gyda'r machlud. Mae fel petae'n ffoi rhag y tywyllwch i'r goleuni neu rhag y goleuni i'r tywyllwch. Dim rhyfedd felly i'r blaned fach hon gael ei hystyried gan sawl gwareiddiad yn negesydd y duwiau; yn symyd rhwng goleuni a thywyllwch a rhwng bydoedd y byw a'r meirw i arwain eneidiau i wlad y meirwon. I'r Groegiaid, Hermes oedd ei enw, i'r Babiloniaid – Nabŵ y Doeth ac i'r Eifftiaid – Thoth.

Roedd yn amlwg hefyd bod Mercher yn symyd yn gyflym iawn o'i gymharu â'r planedau eraill. Ac mae hynny'n hollol gywir oherwydd yr agosaf ydych at yr haul y cyflyma ydych chi. Mae Mercher yn teithio tua dwywaith cyflymach na'r Ddaear ac yn cwblhau ei 'flwyddyn' mewn 88 niwrnod. Dyma sy'n cyfri am ei ddelwedd fel rhedwr, wedi ei bortreadu gydag adenydd ar ei fferau a'i helmed.

Ond roedd Mercher hefyd yn gyflym a sgilgar mewn sawl maes. Ef oedd duw cerdd am iddo ddyfeisio'r delyn, a'i fab, Pan, oedd dyfeisydd y 'Pibau Pan' sy'n dwyn ei enw. Roedd yn dduw masnach (tardda ei enw o'r un gwreiddyn a'r gair Saesneg merchant) ac yn dduw lladron a thwyllwyr – am mai ef fyddai'r duwiau yn ei yrru i ddwyn yr hyn fyddai'n amhosib cael gafael arno. Roedd hefyd yn dduw ffraethineb (am ei fod yn slic iawn ei dafod), cyfrwysdra, direidi, gwybodaeth, lwc dda, ffyrdd, teithwyr, dynion ifanc a bugeiliaid. Yn ogystal, roedd ei ffon adeiniog, gyda dwy sarff wedi eu plethu am ei phen, yn arwydd o ffrwythlondeb, iechyd a doethineb.

Mercher y Celtiaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywed Iŵl Cesar am y Celtiaid: 'O'r holl dduwiau, maent yn addoli Mercher yn fwy na'r un arall a chanddo ef y mae'r nifer fwyaf o ddelweddau; dywedasant mai ef greodd gelfyddyd a'i fod yn dywysydd ar ffyrdd a siwrneiau, a chredasant mai ef sydd fwyaf dylanwadol i wneud arian a masnach'.

Gwaetha'r modd, ni chofnodwyd enw amgenach iddo gan y Rhufeiniaid na: 'Y Mercher Celtaidd', oedd yr un mor amryddawn a'r un Rhufeinig, ond ei fod yn gallu gweithredu fel duw rhyfel yn ogystal. Caiff ei bortreadu ar allorau ac mewn cerfluniau gyda'i anifeiliaid sanctaidd – ceiliog, gafr (neu hwrdd) a chrwban o gwmpas ei draed. Weithiau mae ganddo dri phen neu dri wyneb, sy'n treblu ei ddoethineb, ac ar y cyfandir fe'i ceid yn aml ar gerfluniau yng nghwmni duwies golud.

Ychydig iawn o'r duwiau Celtaidd sydd ag enwau cydnabyddedig iddynt mewn gwirionedd. Mae'n debyg fod eu gwir enwau yn gyfrin, yn cuddio dan sawl enw amgen fyddai'n amrywio dan wahanol amgylchiadau ac o un llwyth neu gwlt i'r llall. Ond os edrychwn ar y chwedlau Cymreig a Gwyddelig fe welwn bod ambell arwr yn cyfateb yn eitha agos i'r Mercher Celtaidd.

Yn yr Iwerddon gwelwn bod Ogma yn un fersiwn ohono – duw sy'n gysylltiedig â ffraethineb, mae'n fardd ac yn ddyfeisydd yr alffabet Ogam yn ogystal a bod yn hebryngydd eneidiau'r meirwon i'r byd arall.

Ond o'r cyfan, Lleu, neu'r 'Lugh' Gwyddelig, sydd agosa. Os disgrifid Mercher gan y Rhufeiniaid fel 'dyfeisydd pob celf', llysenw Gwyddelig Lugh oedd 'galluog ymhob celf'. Disgrifir hynny yn y stori amdano yn ceisio cael mynediad i wledd fawr yn Tara. A'r porthor yn gwrthod mynediad iddo onibai ei fod yn feistr ar gelf – ni chawsai neb fynediad heb hynny.

Dydd Mercher[golygu | golygu cod y dudalen]

Cred rhai bod rhai dyddiau'r wythnos yn fwy lwcus neu anlwcus na'i gilydd, a bod dydd Mercher yn sicr yn dod dan ddylanwad y duw y'i galwyd ar ei ôl. Roedd yn ddydd o lwc gymysg, yn dda i ddechrau triniaeth feddygol, sgwennu llythyr, gofyn am ffafr ac i dorri gwinedd eich traed. Ond roedd yn ddydd sal i briodi (byddai eich plentyn yn siwr o fynd i'r crocbren), neu i gychwyn rhywbeth newydd – yn enwedig busnes am y byddai mwy o ladron a thwyllwyr o gwmpas ar ddydd Mercher. Roedd hefyd yn un o ddydiau'r gwrachod, felly rhaid peidio corddi menyn, clymu'r gwartheg am y gaeaf na chwaith gyrru moch – rhag ofn iddynt fynd ar goll. Ac os oedd hi'n gyfnod y lleuad newydd fe fyddai'r agweddau anlwcus hyn o ddydd Mercher yn saith gwaeth!

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]