Constance Markievicz

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Constance Markievicz
Countess Markiewicz.jpg
Ganwyd 4 Chwefror 1868 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw 15 Gorffennaf 1927 Edit this on Wikidata (59 oed)
Dulyn Edit this on Wikidata
Alma mater Académie Julian, Ysgol Gelfyddyd Gain Slade Edit this on Wikidata
Gwaith Gwleidydd Edit this on Wikidata
Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, 5th Dáil, 4th Dáil, 2nd Dáil, 1st Dáil, Fianna Éireann, Cumann na mBan, Byddin Dinasyddion Iwerddon Edit this on Wikidata
Priod Casimir Markievicz Edit this on Wikidata
Teulu Eva Gore-Booth Edit this on Wikidata

Roedd Constance Georgine Markievicz, iarlles Markievicz née Gore-Booth (4 Chwefror, 1868 - 15 Gorffennaf, 1927) yn wleidydd Gwyddelig, yn genedlaetholwraig chwyldroadol, yn swffragét ac yn sosialaidd. Ym mis Rhagfyr 1918 hi oedd y fenyw gyntaf i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin, er na chymerodd ei sedd. Roedd hi'n aelod o'r Dáil Éireann cyntaf. Fel Gweinidog Llafur Gweriniaeth Iwerddon, 1919-1922 roedd hi'n un o'r merched cyntaf yn y byd i ddal swydd cabinet.[1]

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Markievicz ei geni fel Constance Georgine Gore-Booth yn Buckingham Gate, yn Llundain, yn ferch hynaf i'r anturiaethwr Syr Henry Gore-Booth, 5ed barwnig a Georgina, Ledi Gore-Booth née Hill ei wraig. Roedd Syr Henry yn landlord Eingl-Wyddelig gydag ystâd 100 km2 (39 milltir sgwar), Lissadell House, ger Sligeach.[2] Yn ystod Newyn Mawr Iwerddon 1879-1880, darparodd Syr Henry fwyd rhad ac am ddim ar gyfer tenantiaid ei stâd, yn ôl rhai, ond dywed eraill iddo daflu lawer o denantiaid newynog allan o'u cartrefi gan eu rhoi ar longau (coffin ships) a'u hymfudo i wledydd pell.[3]

Iarlles Markievicz, ei merch a'i llysfab

Addysgwyd Constance yn Ysgol Gelf Slade, Llundain[4] ac Académie Julian, Paris. Tra'n fyfyrwraig yn Llundain ymunodd ag Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod (NUWSS). Ym Mharis cyfarfu â'i darpar ŵr, Iarll Casimir Markievicz. (Pwyleg: Kazimierz Dunin-Markiewicz), artist o deulu Pwylaidd cefnog. Roedd yr Iarll yn briod ar y pryd ond bu farw ei wraig y 1899, priododd Constance yn Llundain 29 Medi 1900[5]. Roedd gan yr Iarll mab o'i briodas gyntaf a bu un ferch o'r ail briodas.

Bywyd artistig a llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi symud i Ddulyn i fyw ym 1903 bu'r teulu Markievicz yn troi mewn cylchoedd artistig a llenyddol, gyda Constance yn ennill enw da iddi ei hun fel peintiwr tirlun. Cyfaill y teulu oedd y bardd W. B. Yeats a chredir i'w syniadau ddylanwadu ar Constance; sgwennodd amdani mewn cerdd, "In Memory of Eva Gore-Booth and Con Markiewicz" disgrifiodd hi fel 'carw ifanc'.

Gyda'r artistiaid Sarah Purser, Nathaniel Hone, Walter Osborne a John Butler Yeats bu'r Iarlles yn allweddol wrth sefydlu'r United Arts Club ym 1905, roedd y clwb yn ymgais i ddod â phawb yn Nulyn a oedd yn ymwneud a'r byd artistig a llenyddol ynghyd. Bu'r clwb yn cynnwys pobl flaenllaw o'r Gynghrair y Wyddeleg (Conradh na Gaeilge) a sefydlwyd gan Douglas Hyde. Er ei fod yn grŵp anwleidyddol mewn enw, yn ymwneud â chadwraeth yr iaith a'r diwylliant Gwyddeleg, ymunodd nifer o wladgarwyr ac arweinwyr gwleidyddol â'r Gynghrair.

Ym 1882 comisiynwyd yr arlunydd Sarah Purser i beintio portread o Constance a'i chwaer Eva, a daeth yn gyfaill i'r chwiorydd. Bu Sarah yn cynnal salon rheolaidd lle bu artistiaid, awduron a deallusion o ddwy ochr y rhaniad cenedlaetholgar yn ymgasglu. Yn nhŷ Purser, cafodd Markievicz ei chyflwyno i'r gwladgarwyr chwyldroadol Michael Davitt, John O'Leary a Maud Gonne. Ym 1906 bu i'r Markievicz rhentu bwthyn yng nghefn gwlad ger Dulyn; y tenant blaenorol oedd y bardd Padraic Colum ac roedd wedi gadael copïau o'r cyfnodolion chwyldroadol The Peasant a Sinn Féin ar ôl yn y bwthyn wrth ymadael. Darllenodd Markievicz y cylchgronau gan gael ei hysbrydoli gan eu neges o ryddid rhag rheolaeth Prydain a gan gael ei chymell i ymuno a'r achos.

Cyfnod gwleidyddol cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1908 dechreuodd Markievicz weithredu yng ngwleidyddiaeth genedlaetholgar Iwerddon. Ymunodd â Sinn Féin a Inghinidhe na hÉireann ('Merched Iwerddon'), mudiad chwyldroadol i fenywod a sefydlwyd gan yr actores a'r ymgyrchydd Maud Gonne. Perfformiodd gyda Maud Gonne mewn nifer o ddramâu yn yr 'Abbey Theater' a oedd newydd ei sefydlu, sefydliad y bu'n chwarae rhan bwysig yn y cynnydd mewn cenedlaetholdeb diwylliannol.

Yn ogystal â bod yn weithgar yn y mudiad cenedlaethol parhaodd yr Iarlles gyda'r ymgyrch dros y bleidlais i fenywod. Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n rhaid i Aelod Seneddol oedd wedi ei godi i swydd yn y Llywodraeth sefyll isetholiad i weld a oedd ei etholwyr yn fodlon iddo dreulio amser yn y swydd yn hytrach na rhoi ei holl egni i mewn i'w cynrychioli nhw. Roedd Winston Churchill yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Gogledd Orllewin Manceinion; ym 1908 cafodd ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach a bu'n rhaid iddo sefyll isetholiad i gadarnhau ei benodiad. Gan fod Churchill yn groch yn erbyn caniatáu'r bleidlais i ferched bu'r swffragetiaid yn tarfu ar ei ymgyrch etholiadol. Roedd yr Iarlles Markievicz yn ei ddilyn o amgylch yr etholaeth mewn cerbyd hen ffasiwn ysblennydd yn cael ei dynnu gan bedwar ceffyl.[6] Collodd Churchill ei sedd.

Aelodau Fianna Éireann yn dysgu sut i drin clwyfau maes y gad

Ym 1909 sefydlodd Markievicz Na Fianna Éireann, sefydliad sgowtiaid cenedlaetholgar para-filwrol a oedd yn dysgu bechgyn a merched yn eu harddegau sut i ddefnyddio arfau. Dywedodd Pádraig Pearse bod creu Fianna Éireann cyn bwysiced â chreu'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig ym 1913.[7]

Ym 1911 cafodd Markievicz ei charcharu am y tro cyntaf am annerch protest a drefnwyd gan Y Frawdoliaeth Wyddelig Weriniaethol ac a fynychwyd gan 30,000 o bobl. Pwrpas y brotest oedd mynegi gwrthwynebiad i ymweliad Brenin Siôr V ag Iwerddon.

Ymunodd Markievicz a Byddin Dinasyddion Iwerddon (ICA) byddin sosialaidd a ffurfiwyd gan James Connolly mewn ymateb i weithwyr yn cael eu troi o'u gwaith yn Nulyn ym 1913 am geisio ymuno ag Undebau Llafur ac er mwyn amddiffyn streicwyr rhag yr heddlu oedd wastad yn ochri gyda'r cyflogwyr. Bu Markievicz yn gyfrifol am recriwtio gwirfoddolwyr i ddosbarthu'r bwyd i'r streicwyr. Cynlluniodd Markievicz iwnifform i'r Fyddin a chyfansoddodd anthem A Battle Hymn, yn seiliedig ar dôn Pwylaidd[8].

Gwrthryfel y Pasg[golygu | golygu cod y dudalen]

Markievicz mewn arfwisg, c.1915

Fel aelod o'r ICA, cymerodd Markievicz ran yng Ngwrthryfel y Pasg 1916. Cafodd ei phenodi'n is-gapten a bu'n ymladd ar faes St Stephen's Green gan oruchwylio codi gwrthgloddiau ac adeiladu ffosydd ger mynedfa'r grîn, llwyddodd i saethu ac anafu cêl-saethwr Prydeinig. Pan ddechreuodd lluoedd Prydain defnyddio gynau peiriant a saethu at y gwrthryfelwyr o ben adeiladau uchel yn ardal ogleddol y grîn, gan gynnwys gwesty'r Shelbourn, ymneilltuodd y gweriniaethwyr i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ar ochr orllewinol y grîn.[9]

Llwyddodd cyd-filwyr Markievicz i amddiffyn eu safle am chwe diwrnod gan roi'r gorau i'r brwydro wedi iddynt dderbyn copi o orchymyn ildio Pearse[10]. Roedd y swyddog Saesnig a dderbyniodd eu hildiant, Capten Wheeler, yn briod â chyfnither Markievicz.

Castell Dulyn

Cawsant eu cludo i Gastell Dulyn ac oddi yno cludwyd Markievicz i Garchar Kilmainham. Ymddangosodd o flaen llys milwrol ar 4 Mai 1916 gan bledio'n ddieuog i gyhuddiad o "gymryd rhan mewn gwrthryfel arfog ... at y diben o gynorthwyo'r gelyn" ond yn euog o fod wedi ceisio "i achosi anfodlonrwydd ymhlith poblogaeth sifil Ei Mawrhydi", fel lliniariad am y drosedd dywedodd wrth y llys, "gwnes yr hyn roeddwn i'n meddwl oedd yn gyfiawn ac yr wyf yn sefyll wrth y peth". Cafodd ei dedfrydu i farwolaeth[11] ond cafodd y ddedfryd ei gymudo i garchar am oes gan ei bod hi'n fenyw; trugaredd nad oedd hi'n gwerthfawrogi gan ei bod yn casáu gwahaniaethu ar sail rhyw[12].

Cafodd Markievicz ei throsglwyddo i Garchar Mountjoy ac yna i Garchar Aylesbury yn Lloegr ym mis Gorffennaf 1916. Cafodd ei rhyddhau o'r carchar ym 1917 o ganlyniad i amnest cyffredinol i'r sawl fu'n rhan o'r gwrthryfel. Tra yn y carchar daeth yr Iarlles, a fagwyd yn Brotestant, yn aelod o'r Eglwys Gatholig. Wedi ei rhyddau rhoddwyd Rhyddfraint Dinas Cill Chainnigh iddi fel arwydd o werthfawrogiad am ei safiad.[13]

AS a TD benywaidd cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1918 roedd Llywodraeth Prydain yn ofni byddai gwrthryfel arall yn codi yn Iwerddon, penderfynasant arestio'r holl arweinwyr cenedlaetholgar o dan Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas, gan gynnwys yr Iarlles Markievicz[14], cafodd ei ddanfon i garchar Holloway, Llundain. Yn ystod ei arhosiad yn Holloway cafodd ei henwebu i fod yn ymgeisydd Sinn Féin ar gyfer etholaeth Dublin Saint Patrick. Yn yr etholiad enillodd yr Iarlles dros 65% o'r bleidlais gan guro deiliad y sedd, William Field o'r Irish Parliamentary Party gan ddod y fenyw gyntaf erioed i gael ei hethol i Senedd y Deyrnas Unedig. Yn unol â pholisi Sinn Féin gwrthododd gymryd ei sedd.

Defnyddiodd Sinn Féin Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918 fel mwys am etholiad i Senedd Gweriniaeth yr Iwerddon Rhydd, trwy hynny daeth y 73 o'i aelodau a etholwyd yn Aelodau Seneddol Prydeinig yn aelodau cyntaf Dáil Éireann, gan hynny daeth yr Iarlles y Teachta Dála benywaidd cyntaf hefyd.

Roedd Markievicz yng Ngharchar Holloway pan ymgynullodd y Dáil cyntaf, pan alwyd ei henw i gofrestru, cafodd ei ddisgrifio, fel llawer o'r rhai eraill a etholwyd, yn un oedd wedi carcharu gan y gelyn tramor (fe glas ag Gallaibh). Cafodd ei hailethol i'r Ail Dáil yn etholiadau 1921[15].

Bu Markievicz yn gwasanaethu fel Gweinidog Llafur Iwerddon o fis Ebrill 1919 hyd Ionawr 1922 yn Ail a Thrydedd Weinidogaeth y Dáil; y Gweinidog Cabinet benywaidd Gwyddelig cyntaf a'r ail weinidog benywaidd yn Ewrop. Hi oedd yr unig weinidog cabinet benywaidd yn hanes yr Iwerddon hyd benodi Máire Geoghegan-Quinn yn Weinidog y Gaeltacht ym 1979!

Y Rhyfel Cartref a Fianna Fail[golygu | golygu cod y dudalen]

Gadawodd Markievicz y llywodraeth ym mis Ionawr 1922, fel gwnaeth Éamon de Valera, ac eraill, mewn gwrthwynebiad i'r Cytundeb Eingl-Wyddelig. Bu hi'n ymladd ar yr achos Weriniaethol yn Rhyfel Cartref Iwerddon gan helpu i amddiffyn Gwesty Moran yn Nulyn. Ar ôl y Rhyfel aeth hi ar daith i'r Unol Daleithiau. Ni chafodd ei hethol yn etholiad cyffredinol Iwerddon 1922 ond fe'i dychwelwyd yn etholiad cyffredinol 1923 ar gyfer etholaeth De Dulyn. Megis yr ymgeiswyr Weriniaethol eraill, ni chymerodd ei sedd.

Bu i'w barn weriniaethol bybyr ei harwain at gael ei charcharu eto. Yn y carchar, aeth hi a 92 o garcharorion benywaidd eraill ar streic newyn. O fewn mis, cafodd ei ryddhau.

Ymunodd a Fianna Fail ar ei sefydlu ym 1926, gan gadeirio cyfarfod cyntaf y blaid newydd yn Theatr La Scala. Yn etholiad cyffredinol Mehefin 1927 cafodd ei hailethol i'r 5ed Dáil fel ymgeisydd Fianna Fail, ond bu farw o fewn mis, cyn cael cyfle i gymryd ei sedd.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1913 symudodd yr Iarll Markievicz yn ôl i wlad Pwyl, ac ni ddychwelodd i fyw i'r Iwerddon. Fodd bynnag, cadwodd y ddau mewn cysylltiad â bu wrth ei hochr pan fu farw'r Iarlles.

Bu farw Iarlles Markievicz yn 59 mlwydd oed ar 15 Gorffennaf 1927 o gymhlethdodau yn gysylltiedig â llid y coluddyn crog. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Glasnevin, Dulyn, rhoddodd de Valera teyrnged iddi gerllaw'r bedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. S. Pašeta, ‘Markievicz , Constance Georgine, Countess Markievicz in the Polish nobility (1868–1927)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Medi 2013 accessed 19 Mawrth 2016
  2. Lissadell House and Gardens Countess Markievicz [1] adalwyd 20 Mawrth 2016
  3. "The Gore-Booth and Warwick Families". Rootsweb Gore-Booth. http://homepages.rootsweb.com/~truax/gorebooth.html. Adalwyd 29 Mehefin 2007.
  4. "Countess Markievicz (Constance Markievicz)". Centre for Advancement of Women in Politics. http://www.qub.ac.uk/cawp/Irish%20bios/TDs_2.htm#markievicz. Adalwyd 19 Mawrth 2016.
  5. "WOMAN MPs ARREST - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1919-06-14. http://hdl.handle.net/10107/4427230. Adalwyd 2016-03-19.
  6. "Day Before Election - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-04-23. http://hdl.handle.net/10107/4188785. Adalwyd 2016-03-19.
  7. “I Remember The Countess” gan Ina Connolly Heron (daughter of James Connolly) – The Irish Press, 4 Chwefror 1953 [2] adalwyd 19 Mawrth 2016
  8. Markievicz, Constance (c. 1917). A Battle Hymn. Irish Traditional Music Archive. Adalwyd 19 Mawrth 2016.  Check date values in: |access-date= (help)
  9. BBC Easter Rising Profiles Countess Constance Markievicz 1868-1927[3] adalwyd 20 Mawrth 2016
  10. "Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd - Y Llan". J. Morris. 1916-05-05. http://hdl.handle.net/10107/3688240. Adalwyd 2016-03-20.
  11. "MrLloyd George yn Scotland - Y Darian". W. Pugh and J. L. Rowlands. 1918-05-30. http://hdl.handle.net/10107/4021118. Adalwyd 2016-03-20.
  12. Cork City Gaol Countess Constance Markievicz[4] adalwyd 20 Mawrth 2016
  13. "Y GWYDDELOD AR COUNTFSS MARKIEVICZ - Y Dinesydd Cymreig". s.t.. 1917-06-27. http://hdl.handle.net/10107/4016120. Adalwyd 2016-03-20.
  14. "ARREST OF DEVALERA - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1918-05-18. http://hdl.handle.net/10107/4105061. Adalwyd 2016-03-20.
  15. "Countess Constance de Markievicz". ElectionsIreland.org. http://electionsireland.org/candidate.cfm?id=994. Adalwyd 20 Mawrth 2016.