William Butler Yeats
| William Butler Yeats | |
|---|---|
| Ganwyd | 13 Mehefin 1865, 13 Mawrth 1865 Dumhach Thrá |
| Bu farw | 28 Ionawr 1939 Menton, Roquebrune-Cap-Martin |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd, dramodydd, ysgrifennwr, gwleidydd, cyfrinydd, astroleg |
| Swydd | Seneddwr Gwyddelig |
| Prif ddylanwad | William Blake, Friedrich Nietzsche, Edmund Spenser, Percy Bysshe Shelley, Oscar Wilde, William Morris, Emanuel Swedenborg, Jakob Böhme, Augusta Gregory, Dante Alighieri |
| Mudiad | Symbolaeth (celf) |
| Tad | John Butler Yeats |
| Mam | Susan Pollexfen |
| Priod | Georgie Hyde-Lees |
| Partner | Maud Gonne, Olivia Shakespear, Margot Ruddock |
| Plant | Anne Yeats, Michael Yeats |
| Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Uwch Ddoethor |
| llofnod | |


Bardd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd William Butler Yeats (13 Mehefin 1865 – 28 Ionawr 1939). Roedd yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y Dadeni Llenyddol yn Iwerddon ar droad yr 20g. Ystyrir ef yn un o'r beirdd pwysicaf i ysgrifennu yn Saesneg yn yr 20g. Dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1923.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Yeats yn Sandymount ger Dulyn, Iwerddon, mab yr arlunydd John Butler Yeats ac yn frawd yr arlunydd Jack B. Yeats. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn Roquebrune-Cap-Martin ger Nice, Monaco. Claddwyd ef ym mynwent Drumcliff, ger Sligo yn Swydd Sligo.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y Wyddeleg a llên gwerin ei wlad. Cyhoeddodd Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry (1888) ac Irish Fairy Tales (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw Easter 1916 sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau Gwrthryfel y Pasg a dienyddio James Connolly, Pádraig Pearse ac eraill gan yr awdurdodau Prydeinig.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- The Wanderings of Oisin and Other Poems (1889)
- The Celtic Twilight (1893)
- The Lake Isle of Innisfree (1893)
- The land of heart's desire (1894)
- The secret rose (1897)
- The Wind Among the Reeds (1899)
- Cathleen ni Houlihan (1902)
- Ideas of Good and Evil (1903)
- In the Seven Woods (1904)
- Discoveries (1907)
- Deirdre (1907)
- The green helmet (1910)
- Responsibilities (1914)
- The Wild Swans at Coole (1917)
- Four Plays for Dancers (1921)
- Four Years (1921)
- The Cat and the Moon (1924)
- A Vision (1925)
- Autobiographies (1926)
- The Tower (1928)
- The Winding Stair and Other Poems (1933)
- Collected Plays (1934)
- Genedigaethau 1865
- Marwolaethau 1939
- Beirdd y 19eg ganrif o Iwerddon
- Beirdd yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Beirdd Saesneg o Iwerddon
- Cenedlaetholwyr Gwyddelig
- Dramodwyr y 19eg ganrif o Iwerddon
- Dramodwyr yr 20fed ganrif o Iwerddon
- Dramodwyr Saesneg o Iwerddon
- Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel
- Pobl o Ddulyn
- Pobl fu farw yn Ffrainc