William Butler Yeats
William Butler Yeats | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
13 Mehefin 1865 ![]() Dumhach Thrá, Dublino ![]() |
Bu farw |
28 Ionawr 1939 ![]() Menton, Roquebrune-Cap-Martin ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
bardd, dramodydd, ysgrifennwr, gwleidydd, cyfrinydd, astroleg ![]() |
Swydd |
Seneddwr Gwyddelig ![]() |
Prif ddylanwad |
William Blake, Friedrich Nietzsche, Edmund Spenser, Percy Bysshe Shelley, Oscar Wilde, William Morris, Emanuel Swedenborg, Jakob Böhme, Augusta, Lady Gregory ![]() |
Mudiad |
Symbolaeth ![]() |
Tad |
John Butler Yeats ![]() |
Mam |
Susan Pollexfen ![]() |
Priod |
Georgie Hyde-Lees ![]() |
Partner |
Maud Gonne, Olivia Shakespear ![]() |
Plant |
Anne Yeats, Michael Yeats ![]() |
Gwobr/au |
Gwobr Lenyddol Nobel, Plac Goethe Dinas Frankfurt am Main, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Uwch Ddoethor ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Bardd a dramodydd Gwyddelig yn ysgrifennu yn Saesneg oedd William Butler Yeats (13 Mehefin 1865 – 28 Ionawr 1939). Roedd yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y Dadeni Llenyddol yn Iwerddon ar droad yr 20g. Ystyrir ef yn un o'r beirdd pwysicaf i ysgrifennu yn Saesneg yn yr 20g. Dyfarnwyd Gwobr Lenyddol Nobel iddo yn 1923.
Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]
Ganed Yeats yn Sandymount ger Dulyn, Iwerddon, mab yr arlunydd John Butler Yeats ac yn frawd yr arlunydd Jack B. Yeats. Bu farw ar 28 Ionawr 1939 yn Roquebrune-Cap-Martin ger Nice, Monaco. Claddwyd ef ym mynwent Drumcliff, ger Sligo yn Swydd Sligo.
Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]
Er iddo ysgrifennu yn Saesneg roedd gan Yeats ddiddordeb mawr yn y Wyddeleg a llên gwerin ei wlad. Cyhoeddodd Fairy and Folk Tales of the Irish Peasantry (1888) ac Irish Fairy Tales (1892), dwy gyfrol a ystyrir yn glasuron ar y pwnc. Roedd mytholeg, hanes a thraddodiadau Iwerddon yn ysbrydoli llawer o'i gerddi hefyd, a hynny mewn ysbryd gwlatgar. Amlygwyd ei wladgarwch yn fwy uniongyrchol mewn cerddi sy'n ymwneud â'r ymgyrch dros annibyniaeth Iwerddon: un o'r enwocaf o'r cerddi hynny yw Easter 1916 sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau Gwrthryfel y Pasg a dienyddio James Connolly, Pádraig Pearse ac eraill gan yr awdurdodau Prydeinig.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- The Wanderings of Oisin and Other Poems (1889)
- The Celtic Twilight (1893)
- The Lake Isle of Innisfree (1893)
- The land of heart's desire (1894)
- The secret rose (1897)
- The Wind Among the Reeds (1899)
- Cathleen ni Houlihan (1902)
- Ideas of Good and Evil (1903)
- In the Seven Woods (1904)
- Discoveries (1907)
- Deirdre (1907)
- The green helmet (1910)
- Responsibilities (1914)
- The Wild Swans at Coole (1917)
- Four Plays for Dancers (1921)
- Four Years (1921)
- The Cat and the Moon (1924)
- A Vision (1925)
- Autobiographies (1926)
- The Tower (1928)
- The Winding Stair and Other Poems (1933)
- Collected Plays (1934)