Jakob Böhme

Oddi ar Wicipedia
Jakob Böhme
Portread o Jakob Böhme gan Christoph Gottlob Glymann (dechrau'r 18g).
FfugenwTeutonicus Philosophus, Desiderius Philadelphus Edit this on Wikidata
Ganwyd24 Ebrill 1575, 1575 Edit this on Wikidata
Stary Zawidów Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 1624 Edit this on Wikidata
Görlitz Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, diwinydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Aurora Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://jacob-boehme.org/ Edit this on Wikidata

Athronydd, cyfrinydd Cristnogol a diwinydd Protestannaidd o Almaenwr oedd Jakob Böhme (24 Ebrill 157517 Tachwedd 1624). Mae ei waith Mysterium Magnum (1623) yn cyfuno cyfriniaeth natur y Dadeni ag athrawiaeth Feiblaidd, a'i draethawd Von der Gnadenwahl (1623) yn ymdrin â rhyddid yng nghyd-destun Calfiniaeth. Cafodd ddylanwad pwysig ar fudiadau diweddarach yn yr Almaen gan gynnwys Delfrydiaeth a Rhamantiaeth.[1]

Ganed ef yn Alt Seidenberg (bellach Stary Zawidów, Gwlad Pwyl), ger Görlitz, Bohemia, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cafodd ei fagu yng nghyfnod diweddar y Diwygiad Protestannaidd, ac yn niwedd ei arddegau aeth i Görlitz ym mha le'r oedd dadleuon ffyrnig rhwng yr amryw sectau a ffynnai yn y dref honno: cudd-Galfiniaid, Ailfedyddwyr, y Schwenckfeldiaid, meddygon Paracelsiaidd, a dyneiddwyr, yn ogystal â Lwtheriaid uniongred. Crydd ydoedd o ran ei alwedigaeth, a chan ei fod o duedd fyfyrgar, ymroddodd yn ei oriau hamddenol i astudio diwinyddiaeth, anianaeth, a sêr-ddewiniaeth. Mae'n debyg i ffydd Böhme gael ei deffro dan ddylanwad Martin Möller, y gweinidog Lwtheraidd yn Görlitz, mewn un o'i gêl-gyfarfodydd crefyddol ym 1600. Yn ôl yr hen chwedl ysbrydol, honnai i Böhme gael ei amgylchu fwy nag unwaith gan oleuni dwyfol, ac iddo, yn nerth y goleuni hwnnw, ddarganfod hanfod, rhin, a defnydd-lysiau y maes. Yr oedd Böhme yn ddyn uniawn a difrifol ym mhob peth. Erlidid ef yn dost gan wŷr eglwysig, ond perchid a mawrygid ef gan bawb arall – hyd yn oed gan bendefigion, meddygon, a marsiandwyr. Bu farw Jakob Böhme yn Görlitz yn 49 oed.

Mae dysgeidiaeth Böhme yn gysegredig yn yr ymgais i brofi angenrheidrwydd pethau trwy olrhain eu tarddiad i briodoliaethau Duw. Oherwydd hyn, cyhuddir ef gan ddarllenwyr arwynebol, a rhagfarnllyd, o goleddu athrawiaeth y Manicheaid. Ond olrhain y gyfatebiaeth y mae sydd rhwng y byd gweledig ac anianol a'r byd anweledig ac uwch-anianol. Er gwaethaf llawer o syniadau gwylltion a gynhwysant, y mae yn ei lyfrau wirioneddau mor ddyfnion, a meddyliau mor odidog, fel y maent wedi derbyn cymeradwyaeth y meddylwyr mwyaf. Ysgrifennodd Böhme tua 30 o lyfrau, gan gynnwys ei gyfrol gyntaf, Aurora ("Y Gwawrddydd", 1612).

Rhennir awduriaeth Böhme yn dri chyfnod, yn cyfateb i ddosbarthiad triphlyg ei weithiau:—(1.) Athroniaeth; sef ymgais i ddyfod o hyd i Dduw fel y mae ynddo ei hun. Gwneir hyn yn ei Aurora. (2.) Bydhaniad; yr amlygiad o'r dwyfol yn y creadur. (3.) Diwinyddiaeth; yr amlygiad o Dduw yn enaid dyn. Y mae ei ddylanwad fel awdur yn gyfyngedig i ddysgedigion. Un o'i brif feddyliau ydyw, mai Duw ydyw gwaelod pob peth, a'i fod yn gorwedd o dan y cyfan. Yr ydym ni, gan hynny, i ddisgyn i lawr at Dduw, ac nid i ymddyrchafu ato. Y mae Duw i'w gael yn y gweithredol, nid yn y drychfeddyliol. Dylem gychwyn gyda Duw, ac nid ceisio cyrraedd ato trwy ymdrech meddyliol.

Yr oedd Böhme yn ddyledus am ymadroddion a drychfeddyliau cynorthwyol i Paracelsus, Valentin Weigel, a Schwenckfeld; ond am y gweddill, nyddodd ei holl gyfundraeth o ddefnyddiau ei feddwl ffrwythlawn ei hun. Ymdaenodd ei syniadau yn brysur, a darllenid ei weithiau yn ddyfal gan wŷr o fath Isaac Newton, Friedrich Schelling, a Georg Hegel. Franz Baader ydyw y mwyaf hynod fel eglurydd ei weithiau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Jakob Böhme. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Mai 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Goronwy Wyn Owen, Rhwng Calfin a Böhme: Golwg ar Syniadaeth Morgan Llwyd (Caerdydd, 2001).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.