Friedrich Schelling
Friedrich Schelling | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Friedrich Wilhelm Joseph Schelling ![]() 27 Ionawr 1775 ![]() Leonberg ![]() |
Bu farw | 20 Awst 1854 ![]() Bad Ragaz ![]() |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, academydd, ysgrifennwr ![]() |
Swydd | athro prifysgol ![]() |
Cyflogwr |
|
Adnabyddus am | The Ages of the World ![]() |
Prif ddylanwad | Platon, Giordano Bruno, Jakob Böhme, Baruch Spinoza, Gottfried Wilhelm von Leibniz, Immanuel Kant, Jean-Baptiste Robinet, Friedrich Heinrich Jacobi, Johann Gottfried von Herder, Johann Wolfgang von Goethe, Friedrich Hölderlin, Johann Gottlieb Fichte ![]() |
Mudiad | German idealism ![]() |
Priod | Pauline Gotter, Caroline Schelling ![]() |
Plant | Clara Schelling, Hermann Schelling, Julie von Eichhorn ![]() |
Gwobr/au | Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Roedd Friedrich Wilhelm Joseph Schelling (27 Ionawr 1775 – 20 Awst 1854), yn ddiweddarach von Schelling, yn athronydd o'r Almaen.
Mae llyfrau hanes cyffredinol athroniaeth yn gosod Schelling hanner ffordd yn natblygiad delfrydaeth Almaenig, gan ei osod rhwng Johann Gottlieb Fichte, ei fentor cyn 1800, a Friedrich Hegel, ei gyfaill a arferai rannu ystfaell gydag ef yn y brifysgol. Mae dehongli athroniaeth Schelling yn medru bod yn anodd yn aml am fod natur yr athroniaeth yn newid yn gyson. Caiff ei bortreadu gan rai ysgolheigion fel meddyliwr protean a oedd, er yn wych, yn dueddol o neidio o'r naill bwnc i'r llall, am nad oedd ganddo'r pŵer syntheisio i gyrraedd system athronyddol cyflawn. Mae eraill yn herio'r syniad fod meddyliau Schelling yn cael eu nodweddu gan seibiau dwys gan ddadlau fod ei athroniaeth bob amser yn ffocysu ar themâu cyffredin, yn enwedig rhyddid dynol, yr hyn sy'n bendant neu'n absoliwt, a'r berthynas rhwng natur ac ysbryd neu anian.