Ludwig Tieck

Oddi ar Wicipedia
Ludwig Tieck
Portread o Ludwig Tieck.
FfugenwPeter Lebrecht, Gottlieb Färber, Peter Leberecht Edit this on Wikidata
GanwydJohann Ludwig Tieck Edit this on Wikidata
31 Mai 1773 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ebrill 1853 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, cyfieithydd, dramodydd, beirniad llenyddol, nofelydd, casglwr straeon, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDer gestiefelte Kater Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth, German Romanticism, Romantic literature Edit this on Wikidata
TadJohann Ludwig Tieck Edit this on Wikidata
PriodAmalie Tieck Edit this on Wikidata
PerthnasauJulius Gustav Alberti, Jacob Nicolai Møller Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Chevalier de la Légion d'Honneur Edit this on Wikidata
llofnod

Beirniad llenyddol a theatr, bardd, nofelydd, dramodydd, a chyfieithydd Almaenig oedd Ludwig Tieck (31 Mai 177328 Ebrill 1853) a fu'n un o hoelion wyth y mudiad Rhamantaidd yn yr Almaen.

Ganed ef ym Merlin, Teyrnas Prwsia, yn fab i grefftwr. Mynychodd y gymnasiwm ym Berlin o 1782 i 1792 cyn iddo astudio ym mhrifysgolion Halle, Göttingen, ac Erlangen o 1792 i 1794. Gydag un o'i gyfeillion agos, W. H. Wackenroder, astudiodd gweithiau William Shakespeare a dramodwyr Saesneg eraill Oes Elisabeth, llenyddiaeth yr Uchel Almaeneg Ganol (o'r 11g i'r 14g), a phensaernïaeth ddinesig yr Oesoedd Canol.

Ymhlith ei weithiau cynnar mae'r nofel epistolaidd Die Geschichte des Herrn William Lovell (tair cyfrol, 1795–96), y drasiedi ddramataidd Karl von Berneck (1797), a'r nofel Franz Sternbalds Wanderungen (dwy gyfrol, 1798). Ysgrifennodd sawl drama yn seiliedig ar straeon gwerin, gan gynnwys Ritter Blaubart (Barflas) a Der gestiefelte Kater (Pws Esgid Uchel), a gesglid, gyda'i nofel fer Der blonde Eckbert, yn y gyfrol Volksmärchen (1797) dan y ffugenw Peter Leberecht. Ym 1799 cyhoeddodd ei gyfieithiad o The Tempest gan Shakespeare, a chychwynnodd ar drosi Don Quixote gan Miguel de Cervantes i'r Almaeneg, a chyhoeddwyd yr hynny mewn rhannau o ym 1799 i 1801. Ar ddiwedd ei gyfnod boreuol, cynhyrchodd y dramâu grotésg Leben und Tod der heiligen Genoveva (1800) a Kaiser Octavianus (1804).

Tua throad y ganrif, rhoddai Tieck y gorau i ysgrifennu gweithiau creadigol am ryw chwarter canrif. Treuliodd ei amser yn astudio'r iaith Uchel Almaeneg Ganol, yn casglu a chyfieithu dramâu'r theatr Elisabethaidd, ac yn cyhoeddi argraffiadau newydd o ddramâu Almaeneg o'r 16g a'r 17g. Bu hefyd yn cynghori August Schlegel ar ei gyfieithiad efe o Shakespeare. Cafodd Tieck hefyd ran mewn cyhoeddi gweithiau newydd gan lenorion megis Novalis a Heinrich von Kleist.

Gweithiodd Tieck yn gynghorwr a beirniad i Theatr Dresden o 1825 i 1842, a daeth yn enwog fel beirniad llenyddol gwychaf yr Almaen ers Goethe. Ysgrifennodd ryw 40 o nofelau byrion yn y cyfnod hwn, ac ynddynt gwelir Tieck yn troi yn erbyn y Rhamantwyr ifainc a llenorion y grŵp Junges Deutschland. Cyhoeddodd hefyd fywgraffiad o Shakespeare, Dichterleben (dwy gyfrol, 1826 a 1831), a'r nofel hanesyddol Vittoria Accorombona (1840). Derbyniodd wahoddiad y Brenin Ffredrig Wiliam IV i ddychwelyd i'w ddinas enedigol, Berlin, ym 1842, ac yno y bu hyd at ei farwolaeth yn 79 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Ludwig Tieck. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2021.