Leonberg
Gwedd
Sgwâr y Farchnad. | |
| Math | bwrdeistref trefol yr Almaen, tref ardal mawr Baden-Württemberg |
|---|---|
| Poblogaeth | 49,845 |
| Pennaeth llywodraeth | Georg Cohn |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Böblingen district |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 48.73 km² |
| Uwch y môr | 386 metr |
| Cyfesurynnau | 48.8014°N 9.0131°E |
| Cod post | 71229 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Georg Cohn |
![]() | |
Tref yn nhalaith Baden-Württemberg yn ne-orllewin yr Almaen yw Leonberg a saif rhyw ddeng milltir i orllewin Stuttgart.
Mae Leonberg yn denu nifer o dwristiaid am ei phensaernïaeth hanesyddol, gan gynnwys Sgwâr y Farchnad a'i thai ffrâm bren, Castell Leonberg, ac olion mynachlog Urdd Sant Ffransis. Ganwyd yr athronydd Friedrich Schelling yma.
Enwir y brîd o gi Leonberger ar ôl y dref. Cafodd ei fridio yn y 1840au drwy groesi Ci Sant Bernard a Chi Newfoundland, mewn ymgais i greu ôl-groesiad o Gi Mynydd y Pyreneau a oedd yn edrych yn debyg i'r llew a ymddengys ar arfbais Leonberg.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Denise Flaim, "Leonberger History: The “Secret Mascot” of Leonberg", American Kennel Club (10 Mehefin 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Tachwedd 2021.
