Natur

Oddi ar Wicipedia
Y Bydysawd

Natur, yn yr ystyr ehangaf, yw'r byd neu'r bydysawd naturiol, corfforol neu faterol. Gall "Natur" gyfeirio at ffenomena'r byd ffisegol, ac felly at fywyd yn gyffredinol. Mae astudio natur yn rhan fawr, os nad yr unig un, o wyddoniaeth. Er bod bodau dynol yn rhan o natur, mae gweithgarwch dynol yn aml yn cael ei ddeall fel categori ar wahân i ffenomenau naturiol eraill. O fewn gwahanol yr ystyron o'r gair, heddiw, mae “natur” yn aml yn cyfeirio at ddaeareg a bywyd gwyllt.

Mae'r gair natur yn tarddu o'r gair Lladin natura, neu "hanfodion". Mae'n golgu 'genedigaeth'.[1]

Mae Natura yn gyfieithiad Lladin o'r gair Groeg physis (φύσις), a oedd yn ymwneud yn wreiddiol â nodweddion cynhenid planhigion, anifeiliaid a nodweddion eraill y Ddaear. Datblygiad o hyn yw'r cysyniad o natur yn ei gyfanrwydd, y bydysawd corfforol; dechreuodd gyda rhai cymwysiadau craidd o'r gair φύσις gan athronwyr cyn-Socratig, ac mae wedi ennill ei blwyf yn gyson ers hynny. Parhaodd y defnydd hwn o fewn y dull gwyddonol modern dros y canrifoedd diwethaf.[2]

Chwiliwch am natur
yn Wiciadur.
  1. Harper, Douglas. "nature". Online Etymology Dictionary. Cyrchwyd 2006-09-23.
  2. The etymology of the word "physical" shows its use as a synonym for "natural" in about the mid-15th century: Harper, Douglas. "physical". Online Etymology Dictionary. Cyrchwyd September 20, 2006.