Johann Gottfried von Herder

Oddi ar Wicipedia
Johann Gottfried von Herder
Ganwyd25 Awst 1744 Edit this on Wikidata
Morąg Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1803 Edit this on Wikidata
Weimar Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Königsberg Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, diwinydd, bardd, cyfieithydd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, ysgolhaig llenyddol, gohebydd gyda'i farn annibynnol, esthetegydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSculpture, Stimmen der Völker in Liedern, Treatise on the Origin of Language Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadImmanuel Kant, Baruch Spinoza, Giordano Bruno, Gottfried Wilhelm Leibniz, Johann Georg Hamann Edit this on Wikidata
MudiadYr Oleuedigaeth, cenedlaetholdeb rhamantaidd Edit this on Wikidata
PriodCaroline Herder Edit this on Wikidata
PlantSiegmund August Wolfgang von Herder, Carl Adelbert von Herder, Luise Stichling, Emil Gottfried von Herder Edit this on Wikidata

Athronydd, diwinydd, a beirniad Almaenig oedd Johann Gottfried von Herder (25 Awst 174418 Rhagfyr 1803) a oedd yn brif feddyliwr y mudiad Sturm und Drang ac yn ffigur blaenllaw yn yr Oleuedigaeth yn y gwledydd Almaeneg. Cafodd ddylanwad pwysig ar ddechrau'r cyfnod Rhamantaidd, a fe'i ystyrir yn gyfrifol am hebrwng damcaniaethau esthetaidd a llenyddol Johann Wolfgang von Goethe, y brodyr Schlegel, a'r brodyr Grimm, athroniaeth iaith Wilhelm von Humboldt, athroniaeth hanes G. W. F. Hegel, epistemoleg Wilhelm Dilthey, anthropoleg Arnold Gehlen, a syniadaeth wleidyddol y cenedlaetholwyr Slafaidd.

Bywyd cynnar ac addysg (1744–64)[golygu | golygu cod]

Ganed Johann Gottfried Herder ar 25 Awst 1744 ym Mohrungen, Dwyrain Prwsia (bellach Morąg, Gwlad Pwyl), i deulu tlawd. Mynychodd yr ysgolion lleol cyn iddo gychwyn astudio diwinyddiaeth, athroniaeth, a llenyddiaeth ym Mhrifysgol Königsberg yn haf 1762. Yno, bu'n gyfeillgar ag Immanuel Kant, yr un a sefydlai athroniaeth feirniadol, a'r afresymolwr Johann Georg Hamann, un o brif feirniaid yr Oleuedigaeth.[1]

Teithiau (1764–70)[golygu | golygu cod]

Aeth Herder i Riga, Ymerodraeth Rwsia, yn Nhachwedd 1764 i addysgu ac i bregethu. Yno cyhoeddodd ei weithiau cynharaf, gan gynnwys dau gasgliad o ddernynnau, yr un ar bwnc llenyddiaeth Almaeneg (Über die neuere deutsche Literatur: Fragmente; 1767) a'r llall, yn ddienw, am athroniaeth iaith (Kritische Wälder, oder Betrachtungen die Wissenschaft und Kunst des Schönen betreffend; 1769 a 1846). Yn haf 1769 ymddiswyddodd Herder ac aeth ar fordaith o Riga i Nantes, ac mae ei gofiant o'i brofiad, Journal meiner Reise im Jahr 1769, a gyhoeddwyd ym Mharis yn Rhagfyr 1769, yn destun i bwysigrwydd y cyfnod hwn yn natblygiad ei feddwl.[1]

Teithiodd i Strasbwrg ym Medi 1770 yng nghwmni 'r Tywysog Peter Friedrich Ludwig von Holstein, ac yno cyfarfu â sgolor ifanc o'r enw Johann Wolfgang Goethe, a gafodd ei ysbrydoli i astudio llenyddiaeth gan sylwadau Herder ar waith Homeros, Pindar, Shakespeare, a barddoniaeth y werin.[1] Erbyn hyn roedd Herder yn ennill enw iddo'i hun ymhlith deallusion yr Almaen, a derbyniodd wobr oddi ar Academi Berlin ym 1771 am ei draethawd Abhandlung über den Ursprung der Sprache.[2]

Bückeburg (1771–76)[golygu | golygu cod]

Ymsefydlodd Herder yn Bückeburg yn Ebrill 1771, yn bregethwr y llys yng ngwasanaeth Iarllaeth Schaumburg-Lippe.

Weimar (1776–1803)[golygu | golygu cod]

Penodwyd Herder ym 1776 yn Uwcharolygydd Cyffredinol yr Eglwys Lwtheraidd yn Weimar, Saxe-Weimar, a bu'n dal y swydd honno am weddill ei oes.[2]

Rhoddwyd y teitl von iddo ym 1802. Bu farw Johann Gottfried von Herder ar 18 Rhagfyr 1803 yn 59 oed yn Weimar.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Johann Gottfried von Herder. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Hydref 2020.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Michael Forster, "Johann Gottfried von Herder" yn Stanford Encyclopedia of Philosophy (Prifysgol Stanford, 2017). Adalwyd ar 14 Hydref 2020.