Prifysgol Stanford

Oddi ar Wicipedia
Prifysgol Stanford
ArwyddairDie Luft der Freiheit weht Edit this on Wikidata
Mathprifysgol breifat, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw, cyhoeddwr mynediad agored, prifysgol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlLeland Stanford, Jr. Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1885 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirStanford Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau37.4275°N 122.17°W Edit this on Wikidata
Cod post94305 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganLeland Stanford, Jane Stanford Edit this on Wikidata

Prifysgol breifat a leolir yn Stanford, ger dinas Palo Alto yng Nghaliffornia, UDA, yw Prifysgol Stanford (Saesneg: Leland Stanford Junior University neu yn fyr Stanford University). Sefydlwyd ym 1885 gan Leland Stanford a'i wraig Jane er cof am eu mab fu farw. Agorodd ym 1891 ac yn derbyn dynion a menywod.[1] Stanford yw un o brifysgolion uchaf ei bri yn yr Unol Daleithiau, ac ymhlith ei chyn-fyfyrwyr ac academyddion mae 17 o ofodwyr, 20 o enillwyr Gwobr Turing, 60 o enillwyr Gwobr Nobel, saith enillwr Medal Fields, a nifer o aelodau'r Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr. Mynychodd 30 o filiwnyddion byw y brifysgol hon, ac yn ôl un cyfrif mae cyn-fyfyrwyr ac academyddion Stanford wedi sefydlu cwmnïau sy'n cynhyrchu mwy na US$2.7 triliwn o refeniw y flwyddyn, sy'n cyfateb i ddegfed economi fwya'r byd.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Stanford University. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) Jamie Beckett. "Study shows Stanford alumni create nearly $3 trillion in economic impact each year", Stanford Report (24 Hydref 2012). Adalwyd ar 24 Ionawr 2017.
Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.