Wilhelm Dilthey

Oddi ar Wicipedia
Wilhelm Dilthey
GanwydWilhelm Christian Ludwig Dilthey Edit this on Wikidata
19 Tachwedd 1833 Edit this on Wikidata
Biebrich Edit this on Wikidata
Bu farw1 Hydref 1911 Edit this on Wikidata
Seis am Schlern Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Sciences Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, hanesydd, seicolegydd, diwinydd, addysgwr, cymdeithasegydd, academydd, beirniad llenyddol, athro Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Prif ddylanwadImmanuel Kant, Friedrich Schleiermacher, Georg Hegel, John Stuart Mill Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth y Gorllewin Edit this on Wikidata
PriodKatharina Dilthey Edit this on Wikidata
PlantClara Misch Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf Edit this on Wikidata

Athronydd Almaenig oedd Wilhelm Dilthey (19 Tachwedd 18331 Hydref 1911) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau pwysig at fethodoleg y dyniaethau a'r gwyddorau dynol eraill.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Wilhelm Dilthey ar 19 Tachwedd 1833 yn Biebrich, ger Wiesbaden, Nassau, yng Nghydffederasiwn yr Almaen. Diwinydd yn yr Eglwys Ddiwygiedig oedd ei dad. Mynychodd yr ysgol ramadeg yn Wiesbaden cyn iddo astudio diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Heidelberg. Symudodd i Brifysgol Berlin a newidiodd ei gwrs i athroniaeth. Gweithiodd am gyfnod fel athro mewn ysgolion uwchradd Berlin, ond ymhen fawr o dro rhoes y gorau i hynny a chanolbwyntiodd yn gyfan gwbl ar ei astudiaethau. Trodd ei sylw at sawl gwahanol bwnc, gan gynnwys Cristnogaeth foreol, hanes athroniaeth, llenyddiaeth, a cherddoriaeth, a dilynodd y newyddion diweddaraf o ddatblygiadau a darganfyddiadau'r gwyddorau dynol empiraidd: cymdeithaseg, ethnoleg, seicoleg, a ffisioleg. Ysgrifennodd Dilthey gannoedd o adolygiadau a thraethodau yn ystod ei ugeiniau, sydd yn dystiolaeth o'i ddiddordebau eang a'i gynhyrchiant egnïol. Wedi iddo dderbyn ei ddoethuriaeth a'i gymhwyster ddarlithio o Brifysgol Berlin ym 1864.[1]

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Penodwyd yn athro gan Brifysgol Basel ym 1866, gan Brifysgol Kiel ym 1868, a chan Brifysgol Breslau ym 1871. Fe olynodd R. H. Lotze ym Mhrifysgol Berlin, a bu yn y swydd honno am weddill ei oes.[1]

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod]

Bu farw Wilhelm Dilthey yn 77 oed ar 1 Hydref 1911 yn Seis am Schlern, De Tyrol, Awstria-Hwngari (bellach yn nhalaith Bolzano, yr Eidal).[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Einleitung in die Geisteswissenschaften (1883).
  • Ideen über eine beschreibende und zergliedernde Psychologie (1894).
  • Der Aufbau der geschichtlichen Welt in den Geisteswissenschaften (1910).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Wilhelm Dilthey. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2020.