Brodyr Grimm

Oddi ar Wicipedia
Brodyr Grimm
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Blodeuodd19 g Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGrimms' fairy tales Edit this on Wikidata
Wilhelm (chwith) a Jacob Grimm (dde) o baentiad gan Elisabeth Jerichau-Baumann
1000 Deutsche Mark (1992)

Ysgolheigion, ieithwyr ac ymchwilwyr diwylliannol Almaenig a gasglai hen chwedlau ac a gyhoeddodd sawl cyfrol o chwedlau a llên-gwerin oedd y Brodyr Grimm. Cyhoeddasant y gyfrol Grimm's Fairy Tales, a ddaeth yn hynod boblogaidd.[1] Gwnaeth Jakob waith academaidd hefyd ar ieitheg, a oedd yn ymwneud â sut y mae seiniau mewn geiriau'n newid dros amser, (Grimm's law). Roedd hefyd yn gyfreithiwr ac roedd ei waith cyfreithiol "German Legal Antiquities" (Almaeneg: Deutsche Rechtsaltertümer) ym 1828, wedi ei wneud yn flaenllaw ym maes tarddiad ac ystyr nifer o idiomau a symbolau cyfreithiol hanesyddol.[2] Ynghyd â Karl Lachmann a Georg Friedrich Benecke gellir eu hystyried fel sylfaenwyr ieitheg Almaeneg ac Astudiaethau Almaeneg. Dechreuodd y ddau frawd grynhoi'r sef y geiriadaur Almaeneg cyntaf. Bu fawr Jacob a lwyddodd i gwblhau'r llythrennau A, B, C ac E, ar 20 Medi, 1863.

Cyhoeddwyd y casgliad cyntaf o straeon tylwyth teg "Children's and Household Tales" (Almaeneg: Kinder-und Hausmärchen) ym 1812 ac roedd yn cynnwys dros 200 o straeon tylwyth teg. Yn eu ffurfiau gwreiddiol, roedd chwedlau Grimm yn dreisgar a thywyll, mewn gwrthgyferbyniad chwyrn i'r "fersiynnau Disney" o'r un chwedlau a ryddhawyd yn ddiweddarach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]