Dadeni Dysg
(Ailgyfeiriad oddi wrth Y Dadeni)
Jump to navigation
Jump to search
Roedd y Dadeni Dysg neu'r Dadeni yn gyfnod chwyldroadol yn hanes gwyddoniaeth a chelf, sydd yn dynodi diwedd yr Oesoedd Canol a dechrau'r cyfnod modern. Yn ystod y cyfnod yma, a ddechreuodd yn y 13g yn yr Eidal a'r 16g yng ngogledd Ewrop, ailddeffröwyd diddordeb yn nysgeidiaeth clasurol.
Celfyddyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwyddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Llinell amser o’r Dadeni[golygu | golygu cod y dudalen]
- 1308–1321: Y bardd Dante Alighieri yn ysgrifennu ei gampwaith La Divina Commedia.
- 1353: Giovanni Boccaccio yn ysgrifennu'r Decamerone.
- 1434: Cromen y Duomo yn Fflorens yn cael ei gwblhau gan Filippo Brunelleschi.
- 1435: Cyhoeddir y traethawd dylanwadol De pictura ('Am beintiadau') gan Leon Battista Alberti, sydd yn cynnwys yr astudiaeth gwyddonol cyntaf o berspectif.
- 1453: Cwymp Caergystennin – trobwynt yn hanes rhyfela oherwydd y defnydd eang o bowdwr gwn.
- Tua 1455: Y Beibl argraffiedig cyntaf yn cael ei gynhyrchu gan Johann Gutenberg.
- 1469: Lorenzo de' Medici, a elwir yn Il Magnifico yn dod i rym yn Fflorens. Llenwa ei lys â deallusion mwyaf y cyfnod, gan gynnwys yr arlunwyr Sandro Botticelli a Michelangelo, y bardd Angelo Poliziano a'r athronwyr Marsilio Ficino a Giovanni Pico della Mirandola.
- 1477: Y llyfr argraffiedig cyntaf yn Lloegr (Dicets and Sayings of the Philosophers) yn cael ei gynhyrchu gan William Caxton. Sandro Botticelli yn peintio Primavera.
- 1485: Harri Tudur yn meddiannu coron Lloegr ym Mrwydr Bosworth.
- tua 1485: Sandro Botticelli yn peintio Genedigaeth Gwener.
- 1492: Christopher Columbus yn glanio yn y Byd Newydd.
- 1495–1498: Leonardo da Vinci yn peintio Y Swper Olaf ym Milan.
- 1501–1504: Michelangelo yn cerflunio ei gampwaith Dafydd.
- tua 1502: Leonardo da Vinci yn peintio Mona Lisa.
- 1508–1512: Michelangelo yn peintio golygfeydd o Genesis ar nenfwd y Cappella Sistina yn Rhufain.
- 1509: Harri VIII yn esgyn i orsedd Lloegr.
- 1516: Utopia gan syr Thomas More yn cael ei gyhoeddi.
- 1517: Damcaniaethau Wittenburg gan Martin Luther yn cael eu cyhoeddi, gan ddechrau’r Diwygiad Protestannaidd.
- 1532: Cyhoeddir Il Principe gan Niccolò Machiavelli.
- 1534: Harri VIII yn torri gyda Rhufain.
- 1536-1543: Deddf Uno Cymru a Lloegr.
- 1545: Dechrau’r Gwrth-Ddiwygiad, ymateb yr eglwys Babyddol i'r Diwygiad Protestannaidd.
- 1577–1580: Syr Francis Drake yn hwylio o amgylch y byd.
- 1588: Beibl William Morgan, y Beibl cyntaf yn y Gymraeg, yn cael ei gyhoeddi.
- 1600–1601: William Shakespeare yn ysgrifennu ei ddrama Hamlet.