Leon Battista Alberti

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Leon Battista Alberti
Leone Batista Alberti.jpg
Paentiad olew o Leon Battista Alberti o'r 17g.
GanwydLeon Battista degli Alberti Edit this on Wikidata
14 Chwefror 1404 Edit this on Wikidata
Genova Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1472 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Genoa Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethathronydd, ieithydd, cryptograffwr, bardd, pensaer, architectural theoretician, damcaniaethwr cerddoriaeth, cerddolegydd, cerflunydd, ysgrifennwr, cynllunydd medalau, arlunydd, mathemategydd, dramodydd, organydd, gwyddonydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBasilica of Sant'Andrea, San Sebastiano, De pictura, Apologi centum Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Eidalaidd Edit this on Wikidata

Dyneiddiwr a phensaer Eidalaidd oedd Leon Battista Alberti (14 Chwefror 140425 Ebrill 1472) sydd yn nodedig am ei ddamcaniaethu celfyddydol. Fe'i ystyrir yn esiampl o homo universalis y Dadeni.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed yn Genoa, Gweriniaeth Genoa, yn fab anghyfreithlon i fanciwr o Fflorens. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Bologna, ond tynnwyd ei sylw yn fwyfwy gan y clasuron.

Ysgolheictod a llenydda[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith ei ysgrifeniadau, sydd yn nodweddiadol o ddyneiddiaeth yr oes, mae comedi yn yr iaith Ladin, a chasgliad o ymgomion ac ysgrifau ar bynciau moesol o'r enw Intercenales. Ysgrifennodd hefyd draethawd o'r enw Della famiglia sydd yn ymwneud â chadw tŷ, rheoli ystadau, priodas, a magu plant. O ganlyniad i'w ddoniau llenyddol, cafodd Alberti waith yn Llys y Pab.[1]

Pensaernïaeth a chelf[golygu | golygu cod y dudalen]

Aeth Alberti gyda Llys y Pab i Weriniaeth Fflorens ym 1432. Yno, cyfarfu â dyneiddwyr ac arlunwyr amlwg y ddinas. Er nad oedd yn medru Tysganeg fel ei iaith gyntaf, cyflawnodd Grammatica della lingua toscana, y gramadeg cyntaf o'r iaith honno.

Prif arbenigedd Alberti, mae'n debyg, oedd pensaernïaeth, a châi ddylanwad mawr ar ddamcaniaeth bensaernïol y Dadeni. Ysgrifennodd y traethawd Lladin De re aedificatoria (1452) ar sail syniadaeth y pensaer Rhufeinig Vitruvius. Cynlluniodd Alberti nifer o adeiladau, gan gynnwys y Palazzo Rucellai yn Fflorens a Basilica Sant'Andrea ym Mantova. Ail-fodelodd hefyd, yn yr arddull clasurol, y tu allan i Tempio Malatestiano yn Rimini.

Bu hefyd yn arlunydd ac yn gerflunydd o nod. Mae ei draethawd Elementa picturae (1435) yn disgrifio egwyddorion y persbectif llinellog a gyflwynwyd gan y cerflunydd Donatello a'r paentiwr Masaccio.

Diwedd ei oes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Leon Barrista Alberti yn Rhufain yn 68 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 7.
  2. (Saesneg) Leon Barrista Alberti. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Medi 2021.