Francis Drake
Francis Drake | |
---|---|
Ganwyd | c. 1540 Tavistock |
Bu farw | 28 Ionawr 1596 Portobelo |
Man preswyl | Buckland Abbey |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Galwedigaeth | fforiwr, morwr, person milwrol, Herwlongwriaeth, gwleidydd, peiriannydd |
Swydd | Aelod o Senedd 1572-83, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1593 Parliament |
Tad | Edmund Drake |
Mam | Mary Mylwaye |
Priod | Mary Newman, Elizabeth Sydenham |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
llofnod | |
Fforiwr a morwr o Sais oedd Syr Francis Drake (tua 1540 – 28 Ionawr 1596).[1]
Bywyd cynnar a theulu
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Tavistock, Dyfnaint. Ei dad oedd Edmund Drake, ond nid yw unrhyw un yn siwr o enw cyntaf ei fam er tybir mai Mary Mylawye ydoedd. Priododd Mary Newman ym 1569; bu farw Mary ym 1581. Priododd Elizabeth Sydenham ym 1585.
Prynodd Drake ei gartref, Abaty Buckland, ym 1580.
Teithiau i'r Caribî
[golygu | golygu cod]Teithiodd Drake i'r Caribî pedwar gwaith, y tro cyntaf gyda'i gyfyrder John Hawkins yn 1567.
Y fordaith o amgylch y byd (1577–80)
[golygu | golygu cod]Yn 1577 hwyliodd Drake i ynysoedd Cabo Verde oddi ar arfordir Gorllewin Affrica, ac oddi yno i dde'r Iwerydd a thrwy Gulfor Magellan. Fforiodd ar hyd arfordir Califfornia, gan hawlio'r tir i Loegr, a cheisiodd hwilio am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin. Teithiodd i'r gorllewin, ar draws y Cefnfor Tawel, trwy India'r Dwyrain ac ar draws Cefnfor India, o amgylch Penrhyn Gobaith Da ac yn ôl i Loegr. Drake oedd y Sais cyntaf, a'r ail forlywydd o unrhyw wlad, i hwylio o amgylch y byd, a phan dychwelodd i Loegr cafodd ei urddo'n farchog gan y Frenhies Elisabeth ar fwrdd ei long, y Golden Hind.
Cyrchoedd yn erbyn Sbaen
[golygu | golygu cod]Yn ystod y 1580au, arweiniodd Drake sawl cyrch ar longau Sbaen. Yn 1587 ymosododd ar longau Sbaenaidd ym Mae Cádiz, mewn brwydr a elwir "llosgi barf Brenin Sbaen".
Ei fordaith olaf
[golygu | golygu cod]Bu farw o ddysentri ger Puerto Bello, Panama.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ William W. Lace (2009). Sir Francis Drake. Infobase Publishing. t. 100. ISBN 978-1-4381-2888-7.