Herwlongwriaeth
Enghraifft o'r canlynol | galwedigaeth, galwedigaeth forwrol, ambiguous Wikidata item |
---|---|
Math | gwron, morwr, milwyr afreolaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr arfer o ymosod ar longau gwledydd eraill a'u hysbeilio a hynny gydag awdurdod llywodraethol yw herwlongwriaeth neu breifatirio. Rhoddir yr enw preifatîr (o'r Saesneg privateer)[1] neu herwlong[2] ar long a ddefnyddir at y diben hwn, a gelwir capten y fath long hefyd yn breifatîr neu'n herwlongwr.[3] Mae herwlongwriaeth yn wahanol i fôr-ladrad, sef ysbeilio heb ganiatâd unrhyw lywodraeth.
Yn ystod Oes Elisabeth, derbyniodd sawl morwr Seisnig nawddogaeth gudd oddi wrth y Frenhines Elisabeth I i ysbeilio llongau trysor Sbaen ym Môr y Caribî. Ymosodwyd ar lynges Sbaen ym Mae Cádiz gan Syr Francis Drake yn 1587, mewn brwydr a elwir "llosgi barf Brenin Sbaen". Yn y 1590au ymosodwyd ar drefedigaethau Ymerodraeth Sbaen yn y Caribî gan Christopher Newport. a lwyddodd hefyd i gipio sawl llong oddi ar y Sbaenwyr a'r Portiwgaliaid.
Môr-herwyr nodedig
[golygu | golygu cod]- Wiliam Midleton (c. 1550-1596)
- Syr Harri Morgan (tua 1635 - 1688).
- Amaro Pargo (c. 1678-1747)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ preifatîr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2019.
- ↑ herwlong. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2019.
- ↑ herwlongwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Hydref 2019.