Christopher Newport

Oddi ar Wicipedia
Christopher Newport
Ganwyd1561 Edit this on Wikidata
Limehouse Edit this on Wikidata
Bu farw1617 Edit this on Wikidata
Banten Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethmorwr Edit this on Wikidata

Morwr a phreifatîr Seisnig oedd Christopher Newport (Rhagfyr 1561Awst 1617) sy'n nodedig am ei gyrchoedd yn erbyn Ymerodraeth Sbaen yn niwedd Oes Elisabeth ac am ei ymdrechion i wladychu Virginia yn ystod Oes Iago. Ef oedd un o sefydlwyr Jamestown, y wladfa Seisnig gyntaf yn y Byd Newydd.

Bywyd cynnar a phreifatirio (1561–1606)[golygu | golygu cod]

Cafodd Christopher Newport ei fedyddio yn Harwich, Essex, ar 29 Rhagfyr 1561. Aeth yn forwr yn ystod ei fachgendod, a chyrhaeddodd reng pen-forwr yn gynnar yn ei yrfa. Treuliodd Newport nifer o flynyddoedd yn breifatîr ac yn ymosod ar wladfeydd Ymerodraeth Sbaen ac yn dwyn cyrchoedd ar longau trysor Sbaenaidd i'w hysbeilio. Fe'i dyrchafwyd yn gapten yn 1590, a'r llong gyntaf dan ei reolaeth oedd y Little John, dan berchenogaeth marsiandïwr o Lundain. Parhaodd i ymosod ar drefedigaethau'r Sbaenwyr yn y Caribî, ar y Little John ac yn ddiweddarach y Golden Dragon. Mewn un frwydr yn y cyfnod hwn, fe gollodd ei fraich dde. Yn 1592, cipiodd y Madre de Dios, un o longau trysor Ymerodraeth Portiwgal. Yng nghanol y 1590au, Newport oedd un o gyd-berchenogion y llong brefiatirio Neptune.[1]

Trefedigaethu Virginia (1606–12)[golygu | golygu cod]

Dyrchafwyd Newport i reng prif feistr y Llynges Frenhinol yn 1606. Y flwyddyn honno, cafodd ei ddewis gan Gwmni Virginia i arwain menter drefedigaethol i'r Byd Newydd. Hwyliodd o Lundain yn Rhagfyr 1606, yn ben ar longau'r Discovery, Godspeed, a'r Susan Constant. Cyrhaeddodd Fae Chesapeake ar 26 Ebrill 1607, a glaniodd yn Cape Henry. Penodwyd Newport yn aelod o gorff llywodraethol y wladfa. Ar 13 Mai 1607 sefydlwyd hefyd gwladfa fewndirol, ar orynys yn Afon James, a gafodd ei henwi'n Jamestown ar ôl y Brenin Iago. Rhwng 1606 a 1611, arweiniodd Newport bum mordaith rhwng Virginia a Lloegr, gan gludo chyflenwadau a rhagor o setlwyr i'r egin-wladfa. Ar un o'r mordeithiau, yn 1609, gyrrwyd ei long ar rîff ger Bermwda, a bu'n rhaid i'r criw a'r teithwyr adeiladu cychod newydd. Ni chyrhaeddasant Jamestown nes bron i flwyddyn gyfan ar ôl y llongddrylliad.[1]

Ei wasanaeth i Gwmni India'r Dwyrain (1612–17)[golygu | golygu cod]

Yn 1612, gadawodd Newport Gwmni Virginia i weithio dros Gwmni India'r Dwyrain. Aeth i Bersia ar long y Expedition of London yn nechrau 1613, ac i'r India yn 1615. Ar ei drydedd fordaith i'r cwmni, yn is-gapten yr Hope, bu farw ym mhorthladd Bantam ar ynys Jawa yn Awst 1617, yn 55 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Christopher Newport. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Awst 2019.