John Hawkins

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Hawkins
John Hawkins.JPG
Ganwyd 1532 Edit this on Wikidata
Plymouth Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Tachwedd 1595 Edit this on Wikidata (63 oed)
Achos: Ci Edit this on Wikidata
Puerto Rico Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Teyrnas Lloegr Teyrnas Lloegr
Galwedigaeth Preifatîr, Gwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
Swydd Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1571, Aelod o Senedd 1572-83 Edit this on Wikidata
Tad William Hawkins Edit this on Wikidata
Plant Richard Hawkins Edit this on Wikidata

Fforiwr a morwr o Sais oedd Syr John Hawkins (153212 Tachwedd 1595). Roedd yn un o forwyr amlycaf Teyrnas Lloegr yn ystod Oes Aur Fforio, yn brif gynlluniwr y llynges Elisabethaidd, a'r Sais cyntaf i fasnachu caethweision Affricanaidd yn yr Amerig.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn Plymouth, Dyfnaint, yn fab i William Hawkins, marsiandwr cefnog yn Ne Orllewin Lloegr. Ei gyfyrder oedd Syr Francis Drake. Yn ei ieuenctid, aeth ar sawl taith i'r Ynysoedd Dedwydd a ddysgodd am y fasnach gynyddol o werthu caethweision Affricanaidd yn nhrefedigaethau Sbaen yn yr Amerig. Priododd Katharine Gonson, merch i drysorydd y llynges Benjamin Gonson, yn 1559.[1]

Y fordaith gyntaf (1562–63)[golygu | golygu cod y dudalen]

Trwy gymorth Gonson, rhoddwyd tair llong i Hawkins ar gyfer ei fordaith gyntaf. Teithiodd i'r Caribî yn 1562 ar ran cwmni o farsiandwyr Llundeinig i fuddsoddi yn y fasnach gaethweision. Gwerthodd y caethweision yn y Caribî, gan ennill elw go dda.

Yr ail fordaith (1564–65)[golygu | golygu cod y dudalen]

Mor lwyddiannus oedd mordaith gyntaf Hawkins, fe wnaeth sawl cymwynaswr cefnog, gan gynnwys y Frenhines Elisabeth, cyllido ei ail fordaith. Yn 1564, teithiodd Hawkins i Borburata, Feneswela, fel preifatîr. Cipiodd rhyw 400 o Affricanwyr fel caethweision ar ei daith, a theithiodd i Rio de la Hacha, Colombia, i werthu'r caethweision. Ymdrechodd y Sbaenwyr i'w atal rhag gwerthu'r caethweision, a bygythiodd Hawkins i losgi'r trefi. Aeth Hawkins i drefedigaeth Ffrengig yn Fflorida am seibiant ac yna bu'n dychwelyd i Loegr yn 1566, gydag elw o 60% ar ei fordaith.

Y drydedd fordaith (1567–69)[golygu | golygu cod y dudalen]

Teithiodd Hawkins a Drake ar draws Cefnfor yr Iwerydd yn 1567 gyda rhyw 400 o gaethweision Affricanaidd. Wedi iddo werthu'r caethweision yn y Caribî, hwyliodd Hawkins i San Juan de Ulúa, ger Veracruz, Mecsico, i atgyweirio'i longau ac ail-lenwi'r stoc o ddŵr. Cafodd ei ragodi yn yr harbwr gan longau'r Sbaenwyr. Dim ond y llongau dan reolaeth Hawkins a Drake, dwy long allan o'r chwech a adawodd Lloegr, a lwyddodd i ddianc.[2]

Ei wasanaeth i'r Goron[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan ddychwelodd i Lundain, daeth Hawkins yn gyfeillgar â llysgennad Sbaen, o bosib tra'n gweithio fel asiant i'r Arglwydd Burghley. Dysgodd am fwriad cynllwyn Ridolfi (1571) i ddiorseddu Elisabeth a choroni Mari Stiwart yn frenhines Lloegr. Hysbysodd Hawkins y llywodraeth, ac arestiwyd y Pabyddion Seisnig oedd yn ymwneud â'r cynllwyn. Daeth yn Aelod Seneddol dros Plymouth.

Yn 1577, daeth Hawkins i olynu ei dad-yng-nghyfraith, Benjamin Gonson, yn swydd trysorydd y llynges. Fe'i cyhuddwyd gan ei elynion o ddefnyddio'i swydd er budd ariannol personol, a chafodd ei ryddhau o unrhyw fai gan ymchwiliad brenhinol. Hawkins oedd capten y Victory ac ôl-lyngesydd y lluoedd Seisnig yn erbyn Armada Sbaen (1588), a chafodd ei urddo'n farchog wedi'r frwydr. Yn 1589 fe'i penodwyd yn oruchwyliwr y llynges. Fel un o brif weinyddwyr y llynges Elisabethaidd, Hawkins oedd ar flaen y gad wrth wella'r ffyrdd o adeiladu llongau, arfogaethau, a chynlluniau rigin, ac efe a ddyfeisiai'r strategaeth o godi gwarchae o'r môr ar yr Azores i ragodi llongau trysor oedd ar eu ffordd yn ôl i Sbaen.[2]

Y fordaith olaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Hwyliodd Hawkins a Drake ar gyrch i drefedigaethau Sbaenaidd y Caribî yn 1595 gyda 27 o longau. Bu farw Hawkins ar ei long, y noson cyn iddynt ymosod ar Puerto Rico, a fe'i cleddir yn y môr ger yr ynys honno.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) "Sir John Hawkins", Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 11 Chwefror 2019.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Sir John Hawkins. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Chwefror 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • James Alexander Wiliamson, Hawkins of Plymouth: a new history of Sir John Hawkins and of the other members of his family prominent in Tudor England (Llundain: Black, 1969).