Culfor Magellan

Oddi ar Wicipedia
Culfor Magellan
Mathculfor Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFernão de Magalhães Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMagellan and the Chilean Antarctic Region Edit this on Wikidata
GwladTsile Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54°S 71°W Edit this on Wikidata
Map
Culfor Magellan
Yr haul yn machlud ar Gulfor Magellan

Culfor yn Tierra del Fuego, yn ne eithaf De America, yw Culfor Magellan. Yn fwy manwl gywir, mae'n gwahanu tir mawr De America a Tierra del Fuego ei hun. Ei hyd yw 600 km (370 milltir) a'i led yn 32 km (20 milltir) ar ei letaf.

Cafodd ei ddarganfod gan Orllewinwr am y tro cyntaf gan y fforwr Portiwgalaidd Ferdinand Magellan yn y flwyddyn 1520 ar fordaith i'r Y Philipinau.

Mae'n llwybr forol pwysig rhwng de'r Cefnfor Iwerydd a de'r Cefnfor Tawel. I'r dwyrain gorwedd Ynysoedd Falkland (Malvinas). Mae'r rhan fwyaf o'r culfor yn rhan o diriogaeth Tsile ac eithrio rimyn o dir yn y dwyrain sy'n perthyn i'r Ariannin ac yn rhan o Batagonia.

Yr unig dref o bwys ar ei lannau yw Punta Arenas yn Tsile. Mae'r tywydd yn gallu bod yn eithafol iawn, yn arbennig yn y gaeaf.