Tierra del Fuego

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llun lloeren o Tierra del Fuego (NASA)

Ynysfor yw Tierra del Fuego a wahanir oddi wrth dir mawr cyfandir De America gan dyfroedd oer Culfor Magellan. Mae'n gorwedd rhwng Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel ac yn gorffen ym mhwynt mwyaf deheuol De America, sef Penrhyn Horn.

O ran ei gweinyddiaeth, mae rhan orllewinol Tierra del Fuego yn perthyn i Chile a'r tir dwyreiniol yn rhan o'r Ariannin. Prifddinas y diriogaeth Archentinaidd, Tierra del Fuego, Antarctica ac Ynysoedd y De Iwerydd, yw Ushuaia; Punta Arenas yw prifddinas y diriogaeth Chileaidd.

Mae'r diriogaeth Archentaidd yn cynnwys sawl mynydd, er enghraifft y Monte Olivia gosgeiddig. Mae ynysoedd Malvinas yn gorwedd i'r dwyrain o'r arcipelago.