Tramwyfa'r Gogledd Orllewin

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tramwyfa'r Gogledd Orllewin
Northwest passage.jpg
Math fairway Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Cefnfor yr Arctig Edit this on Wikidata
Gwlad Canada Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 70.6°N 127.5333°W Edit this on Wikidata

Môr-lwybr drwy dyfroedd Arctig Gogledd America yw Tramwyfa'r Gogledd Orllewin sy'n ffordd o deithio o Gefnfor yr Iwerydd i'r Cefnfor Tawel, a hynny drwy Gefnfor yr Arctig. Yn ystod Oes y Darganfod, ymdrechodd nifer o fforwyr Ewropeaidd ganfod llwybrau i fordeithio o Ewrop i'r Dwyrain Pell. Y prif ffyrdd o wneud hyn oedd ym moroedd hemisffer y de, naill ai hwylio o gwmpas pen deheuol yr Amerig, drwy Gulfor Magellan neu rownd yr Horn, neu deithio i'r dwyrain o amgylch Penrhyn Gobaith De yn Ne'r Affrig ac ar draws Cefnfor India. O'r 15g hyd at y 19g, lansiwyd nifer o fordeithiau mewn ymgais i ddarganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin yn ogystal â Thramwyfa'r Gogledd Ddwyrain, i ogledd Llychlyn, Rwsia a Gogledd Asia. Roedd y chwilfa am y tramwyfeydd gogleddol yn anos na fforiadau i'r cefnforoedd deheuol oherwydd caledni'r hinsawdd a pheryglon fordwyo'r dyfroedd rhewedig.

Llwybrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir Tramwyfa'r Gogledd Orllewin o fewn Cylch yr Arctig, llai na 1,930 km o Begwn y Gogledd. O Fae Baffin rhwng Ynys Baffin a'r Ynys Las yn y dwyrain i Fôr Beaufort ar lannau gogleddol Alasga yn y gorllewin, mae'n mesur rhyw 1,450 km. Mae rhan orllewinol y dramwyfa yn llawn mynyddoedd rhew, canol y daith yn ymdrech lafurus i fordwyo drwy Ynysfor yr Arctig, i ogledd Canada, a'r llwybr dwyreiniol fel arfer yn rhewedig o ganlyniad i bwysedd y capan iâ sy'n sianelu rhew i mewn i Gulfor Bering.[1]

Y Chwilfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Pwysigrwydd masnachol[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi darganfyddiad yr Amerig gan Cristoforo Colombo yn 1492, mentrodd nifer o fforwyr Ewropeaidd ddarganfod llwybr masnach drwy ogledd yr Amerig i gysylltu Ewrop â Dwyrain Asia ac India'r Dwyrain. Roedd y chwilfa yn hynod o bwysig yn sgil ehangiad Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y 15g a dirywiad Ffordd y Sidan, y rhwydwaith o ffyrdd a ddefnyddid ers yr Henfyd ar gyfer masnach rhwng y Dwyrain Pell a'r Dwyrain Canol. Yr Ewropead cyntaf i ddilyn Ffordd y Sidan cyn belled a Tsieina, yn ôl pob tebyg, oedd y masnachwr Eidalaidd Marco Polo, yr hwn a gynhyrfodd Ewrop gyda'i hunangofiant am ei daith drwy Ganolbarth Asia i Cathay (Tsieina) a'i gyfnod yng ngwasanaeth y Chan Mawr. Bu teithlyfr Marco Polo, a llenyddiaeth debyg am wledydd y dwyrain megis chwedl y Preutur Siôn, yn ysgogi fforwyr, cenhadon a theithwyr lleyg i chwilota ar draws Asia, gan sefydlu cysylltiadau masnachol rhwng yr Ewropeaid a'r Mongoliaid.

Cymhelliad arall dros wella llwybrau masnachol ag Asia oedd goresgyniadau'r Tyrciaid yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Erbyn diwedd y 14g ymledai tiriogaethau'r Tyrciaid i ddwyrain y Môr Canoldir, a'r cenhedloedd Islamaidd felly oedd yn rheoli llwybrau'r teithfinteioedd o'r Dwyrain Canol i Ewrop. Cwympodd yr Ymerodraeth Fysantaidd yn sgil Brwydr Caergystennin (1453), a daeth Ymerodraeth yr Otomaniaid i dra-arglwyddiaethu dros dde-ddwyrain Ewrop. Yn ogystal, yn 1493 rhennid hawliau tiriogaethol y Ymerodraeth Sbaen ac Ymerodraeth Portiwgal yn y Byd Newydd gan y Llinell Derfyn a dynnwyd gan y Pab Alecsander VI. Penderfynwyd ar Linell Tordesillas gan y ddwy ymerodraeth yn 1494, a daeth y môr-lwybrau yn ne Cefnfor yr Iwerydd, rownd Penrhyn Gobaith Da i dde Affrica dan reolaeth y Portiwgaliaid a'r llwybr drwy Gulfor Magellan yn Ne America ym meddiant y Sbaenwyr.

Caboto a'i fab[golygu | golygu cod y dudalen]

Map o fordaith Giovanni Caboto yn 1497.

Yn 1497 danfonwyd y morlywiwr Eidalaidd Giovanni Caboto (Feniseg: Zuan Chabotto) gan Harri VII, brenin Lloegr, gyda chefnogaeth marsiandwyr Bryste, i fordwyo ffordd drwy'r gogledd orllewin i Asia. Roedd ganddo brofiad o fasnach y Môr Canoldir, ac mae'n debyg iddo deithio i Fecca a chael ei syfrdanu gan y sbeisys, sidan, a gleiniau ac amryw nwyddau eraill oedd ar werth. Dygwyd y rheiny dros y tir, drwy gyfrwng y [deithfintai, ar hyd Ffordd y Sidan, o wledydd yr India a'r Dwyrain Pell. Ysbrydolwyd Caboto i chwilota am lwybr masnach newydd dros y môr, ar draws hemisffer y gorllewin. Aeth i Loegr, gan nad oedd yn medru canfod cefnogaeth ariannol yn yr Eidal. Hwyliodd o Fryste ym Mai 1497 yn y llong Mathew, gyda chriw o ddeunaw o ddynion, â'r nod o gyrraedd Cathay neu Cipangu (Japan). Yn debyg i Colombo, a droediodd sawl ynys yn y Caribî, credodd Caboto ei fod yn sbïo ar gyrion dwyreiniol Asia pan ganfuwyd ynys Newfoundland. Hawliodd y tir hwnnw yn enw'r Brenin Harri VII, a dychwelodd i Loegr am ragor o gyflenwadau. Er iddo ond dystio i ganfod pysgodfeydd enfawr yng ngogledd-orllewin yr Iwerydd, yr ardal a elwir bellach Traethellau'r Tir Newydd, ac heb brofi cyfleoedd masnachol eraill, perswadiodd y Brenin Harri i gefnogi mordaith arall. Ym Mai 1498, cychwynnodd Caboto ar ei ail fordaith i geisio cyrraedd y Dwyrain Pell, gyda phum llong a thri chant o ddynion, a methiant a fu'r ymdrech honno. Yn hanesyddol, credid i'r holl longau ddiflannu, ond mae tystiolaeth sy'n dangos i rai o'r morwyr ddychwelyd i Loegr. Ni wyddys tynged Giovanni Caboto. Rhyw hanner can mlynedd wedi ei farwolaeth, sefydlwyd Cwmni'r Anturiaethwyr Masnachol yn Llundain yn 1551 gan ei fab Sebastiano Caboto a fforwyr eraill. Mentrodd dwy long ganfod y dramwyfa, dan nawdd yr Anturiaethwyr Masnachol, yn 1554 a 1555. Dim ond un ohonynt a ddychwelodd i Loegr.[2]

Methiannau'r fforwyr Elisabethaidd, Iagoaidd a Siarlaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymgeisiodd nifer o forwyr Seisnig amlycaf Oes Elisabeth, gan gynnwys Syr Francis Drake, Syr Martin Frobisher, a Syr Humphrey Gilbert, ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, ond yn ofer. Parhaodd fordeithiau o Loegr i ynysoedd yr Arctig yn ystord y cyfnodau Iagoaidd a Siarlaidd. Methiant fu ymdrechion y rheiny hefyd, gan gynnwys Henry Hudson, mab Gilbert.

Ymdrechion yn y 18g[golygu | golygu cod y dudalen]

O ganlyniad i fethiannau'r 16g a dechrau'r 17g, peidiodd y chwilfa am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin am ryw can mlynedd. Datblygodd gwybodeth yr Ewropeaidd am ddaearyddiaeth yr ardal yn raddol, o ganlyniad i fordeithiau John Davis, William Baffin, Syr John Ross, Syr William Parry, Frederick William Beechey, a Syr George Back, ar y cyd ag arolygon cartograffig o diroedd Gogledd Canada gan Henry Kelsey, Samuel Hearne, a Syr Alexander Mackenzie.

Mordaith Franklin[golygu | golygu cod y dudalen]

Trychineb fwyaf y chwilfa am Dramwyfa'r Gogledd Orllewin oedd mordaith golledig Syr John Franklin. Diflannodd Franklin, ei griw o 128 o ddynion, a'i ddwy long HMS Erebus a HMS Terror yn 1845.

Trawsteithiau llwyddiannus[golygu | golygu cod y dudalen]

Mordaith McClure[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1850, hwyliodd yr HMS Investigator dan Robert McClure i mewn i'r dramwyfa drwy Gulfor Bering i chwilio am longau Franklin. Yng ngafael rhew'r gaeaf bu'r llong am ddwy mlynedd, felly teithiodd McClure a'i griw ar sled i gyrraedd llong achub yn y gorllewin yn 1854. Hon felly oedd y daith gyntaf i groesi Dramwyfa'r Gogledd Orllewin ar y môr a'r tir.

Llwyddiant Amundsen[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni chroesir Tramwyfa'r Gogledd Orllewin ar y môr yn unig nes llwyddiant Roald Amundsen yn 1903–06.

Trawsteithiau arbennig[golygu | golygu cod y dudalen]

Y cyntaf i wneud y daith ar y môr mewn un flwyddyn oedd Henry A. Larsen, sarsiant ym March-Heddlu Brenhinol Canada, yn 1944. Gwnaed y daith danfor gyntaf o ogledd yr Iwerydd i'r Cefnfor Tawel gan yr USS Nautilus, y llong danfor niwclear gyntaf yn y byd, a hynny dan reolaeth yr Is-gapten William Anderson yn 1958.

Y llwybr masnachol modern[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr SS Manhattan, y llong gyntaf i groesi Tramwyfa'r Gogledd Orllewin ar fordaith fasnachol.

Y tancer olew SS Manhattan oedd y llong fasnachol gyntaf i groesi'r Dramwyfa pan gludodd lwyth o olew crai o Alaska i arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau yn 1969. Ar y pryd, y Manhattan oedd y llong dorri rhew fwyaf erioed, a chafodd ei hebrwng ar ei thaith gan longau torri rhew eraill o wylwyr y glannau Canada a'r Unol Daleithiau. Er iddi gyflawni'r daith gasglu a chludo'n llwyddiannus, cafodd ei difrodi'n sylweddol gan y rhew wrth ddychwelyd i'w phorthladd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Northwest Passage. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 17 Chwefror 2019.
  2. Peter D. Jeans, Seafaring Lore and Legend (Camden, Maine: International Marine/McGraw-Hill, 2004), tt. 77–78.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Glyndwr Williams, Voyages of Delusion: The Northwest Passage in the Age of Reason (Llundain: HarperCollins, 2003).
  • Glyndwr Williams, Arctic Labyrinth: The Quest for the Northwest Passage (Llundain: Allen Lane, 2009).