Henry Hudson
Henry Hudson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
22 Medi 1570 ![]() Lloegr ![]() |
Bu farw |
Mehefin 1611 ![]() James Bay ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Lloegr ![]() |
Galwedigaeth |
fforiwr, morwr ![]() |
Fforiwr a morwr o Sais oedd Henry Hudson (tua 1565 – 1611). Cafodd ei hurio gan Gwmni Mysgofi i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain, a methiant fuont ei ymdrechion yn 1607 a 1608. Aeth ar drydedd fordaith i ganfod llwybr i Asia ar gais Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain yn 1609. Pan gafodd ei atal gan y rhew yn Spitsbergen, penderfynodd Hudson hwylio i'r gorllewin i geisio canfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin. Trwy fforio baeau Chesapeke, Delaware, ac Efrog Newydd, hawliwyd yr ardal honno yng Ngogledd America gan yr Iseldirwyr. Ariannwyd ei bedwaredd fordaith, a hynny i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, gan y Saeson yn 1610. Wedi cyfnod hir o aros yn y rhew, bu miwtini gan ei griw a chafodd Hudson, ei fab, a saith dyn arall eu gadael i farw. Enwir Bae Hudson ac Afon Hudson ar ei ôl.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]
- Richard O'Connell, Hudson's Fourth Voyage (Philadelphia: Atlantis Editions, 1978).
- Douglas Hunter, Half Moon: Henry Hudson and the Voyage that Redrew the Map of the New World (Efrog Newydd: Bloomsbury Press, 2009).
- Peter C. Mancall, Fatal Journey: The Final Expedition of Henry Hudson (Efrog Newydd: Basic Books, 2009).