Oes Siarl

Oddi ar Wicipedia
Oes Siarl
Enghraifft o'r canlynolcyfnod o hanes Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganOes Iago Edit this on Wikidata

Cyfnod yn hanes Lloegr sy'n cyfateb i deyrnasiad y Brenin Siarl I (1625–49) oedd Oes Siarl. Rhagflaenwyd Oes Siarl gan Oes Iago (1603–25), a fe'i olynwyd gan gyfnod y Rhyngdeyrnasiad (1649–60).

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Rhennir barddoniaeth Oes Siarl yn ddau draddodiad: y Beirdd Metaffisegol a'r Beirdd Cafaliraidd. Naws ddeallusol ac ysbrydol sydd i farddoniaeth John Donne (1572–1631), y cyntaf o'r Metaffisegwyr. Delweddaeth anarferol a llinellau arabus sydd yn lliwio'i gerddi, a dyrchefir cynnwys yn hytrach na ffurf. Yn ogystal â'i gerddi serch, fe gyfansoddodd barddoniaeth grefyddol. Ysgrifennwyd cerddi duwiol hefyd gan Fetaffisegwr arall, yr Eingl-Gymro George Herbert (1593–1633), a chyda delweddaeth Gatholig gan Richard Crashaw (1613–49). Ymhlith beirdd eraill y traddodiad Metaffisegol mae Thomas Traherne (1637–74) ac Abraham Cowley (1618–67).

Tarddai'r traddodiad Cafaliraidd o waith Ben Jonson, dramodydd amlycaf Oes Iago wedi marwolaeth Shakespeare, a efelychodd farddoniaeth glasurol. Ei gerddi mwyaf dylanwadol yw ei delynegion a ysgrifennir i ferched. Yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, mabwysiadwyd llinellau cryno ar batrwm Jonson gan Robert Herrick (1591–1674) a'i gyfeillion a alwodd eu hunain yn "Feibion Ben". Brenhinwyr, neu Gafaliriaid, oedd nifer o'r beirdd hyn a gefnogai'r Brenin Siarl I yn y rhyfel. Delfrydau megis serch llys ac aristocratiaeth sydd yn nodweddu barddoniaeth y criw hwn. Neges gyffredin yn eu telynegion bachog, ffraeth sy'n annerch merched yw "cipio'r dydd" (carpe diem), er enghraifft "To His Coy Mistress" gan Andrew Marvell (1621–78), "Go, lovely rose" gan Edmund Waller (1606–87), "Why so pale and wan, fond lover?" gan Syr John Suckling (1609–42), a "To Althea, from Prison" gan Richard Lovelace (1618–57). Ysgrifennodd Marvell awdlau ac ymgomion yn ogystal â thelynegion, ac yn yr arddull Fetaffisegol hefyd.