Richard Lovelace

Oddi ar Wicipedia
Richard Lovelace
Ganwyd9 Rhagfyr 1617 Edit this on Wikidata
Woolwich Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 1658 Edit this on Wikidata
Dinas Llundain, Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadSir William Lovelace, of Woolwich Edit this on Wikidata
MamAnne Barne Edit this on Wikidata

Bardd, dramodydd, milwr, a llyswr o Sais oedd Richard Lovelace (9 Rhagfyr 1617 – Ebrill 1657) sy'n nodedig fel un o'r Cafaliriaid a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g.

Mae'n debyg iddo gael ei eni yn yr Iseldiroedd, ym mha le'r oedd ei dad, Syr William Lovelace o Gaint, yn brwydro dros achos y Gwrthryfel Iseldiraidd yn erbyn y Sbaenwyr. Yno bu farw Syr William, ac aeth ei fab i Loegr. Yn ei fachgendod, ymwelodd â llys Siarl I yn was anrhydeddus i'r brenin. Cafodd ei addysg yn Ysgol Charterhouse ac yn Neuadd Caerloyw, Rhydychen (a oedd ar y pryd yn rhan o Goleg Sant Ioan ac sydd bellach yn Goleg Caerwrangon). Tua oed 16, fe ysgrifennodd The Scholars, drama gomedi a berfformiwyd yn Rhydychen ac yn ddiweddarach yn Theatr Whitefriars, Llundain. Dim ond y prolog a'r epilog sydd yn goroesi o'r gwaith hwn. Yn ystod ei arddegau, enillodd enw iddo'i hunan fel merchetwr, a dywed iddo dderbyn radd meistr yn y celfyddydau ar ôl dwy flynedd yn y brifysgol ar gais un o foneddigesau'r Frenhines.[1]

Aeth i'r Alban yn 1639–40 yn rhan o'r ymgyrch yn erbyn y Cyfamodwyr yn Rhyfeloedd yr Esgobion. Adeg hynny, dywed iddo ysgrifennu trasiedi o'r enw The Soldier, ond nid oes unrhyw ddarn o'r ddrama honno yn goroesi. Dychwelodd Lovelace i'w ystadau yng Nghaint, a chafodd ei ddewis i gyflwyno deiseb y Brenhinwyr i Dŷ'r Cyffredin yn 1642. Am hynny, cafodd ei garcharu gan y Seneddwyr yng Ngatws Abaty Westminster am saith wythnos. Yno, cyfansoddodd y gerdd "To Althea, from Prison", sy'n cynnwys llinellau enwocaf Lovelace: "Stone walls do not a prison make/Nor iron bars a cage".[2]

Ar ddechrau Rhyfeloedd Cartref Lloegr yn 1642, gwerthodd Lovelace y rhan fwyaf o'i dir a threuliodd bedair blynedd yn ymladd yn yr Iseldiroedd. Cafodd ei anafu tra'n brwydro dros y Ffrancod yn erbyn y Sbaenwyr yn Dunkerque yn 1646. Dychwelodd i Gaint yn 1646 a chafodd ei garcharu unwaith eto am ryw hanner blwyddyn gan y Werinlywodraeth. Casglodd ei farddoniaeth orau tra yn y ddalfa, a gyhoeddwyd ar ffurf Lucasta yn 1649. Ni wyddys am fanylion ei flynyddoedd olaf, er i'r hynafiaethydd Anthony à Wood honni iddo farw mewn tlodi. Ni chefnogir hynny gan y galarganeuon a gyfansoddwyd er cof amdano yn 1657.[1][2] Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd y casgliad Lucasta: Posthume Poems of Richard Lovelace, Esq. (1659), golygwyd gan ei frawd Dudley.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Richard Lovelace" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 25 Gorffennaf 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Richard Lovelace. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2019.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Cyril Hughes Hartmann, The Cavalier Spirit and Its Influence on the Life and Work of Richard Lovelace (1618–1658) (Llundain: G. Routledge & Sons, 1925).
  • Manfred Weidhorn, Richard Lovelace (Efrog Newydd: Twayne Publishers, 1970).
  • Cyril Hackett Wilkinson, The Poems of Richard Lovelace (Rhydychen: Clarendon Press, 1925).