Cyfamodwyr (yr Alban)

Oddi ar Wicipedia
Cyfamodwyr
Enghraifft o'r canlynolmudiad crefyddol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y mudiad Albanaidd hanesyddol yw hon. Am fudiad y Cyfamodwyr yng Nghymru gweler Cymdeithas Cyfamod y Cymry Rhydd.
'Cyfamodwyr yn y Glyn' paentiad gan Alexander Carse.

Plaid grefyddol a gwleidyddol yn yr Alban yn yr 17g oedd Y Cyfamodwyr. Yn grefyddol, roeddynt yn gysylltiedig â Presbyteriaeth ac â gwrthwynebiad i esgobaethau. Gwrthwynebent ymdrechion i hyrwyddo Anglicaniaeth yn yr Alban.

Daw'r enw'r o'r cyfeiriadau at "gyfamod" rhwng Duw a Dyn yn y Beibl. Arwyddwyd y Cyfamod Cenedlaethol yn 1638, a dilynwyd ef gan un arall, y Solemn League and Covenant, yn 1643. Bu gan y Cyfamodwyr ran amlwg yn Rhyfel Cartref yr Alban (1644 - 1645), rhan o Ryfeloedd y Tair Teyrnas.

Erbyn y 1680au, yn enwedig dan Iago VII, bu ymladd rhwng y llywodraeth a'r Cyfamodwyr, oedd yn blaid bur fechan erbyn hynny. Lladdwyd llawer o'r Cyfamodwyr, a rhoddwyd diwedd ar y mudiad fel grym gwleidyddol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Baner yr AlbanEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.