Cafaliriaid (barddoniaeth)

Oddi ar Wicipedia
Cafaliriaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl Edit this on Wikidata

Carfan o feirdd Saesneg oedd y Cafaliriaid a oedd yn ffyddlon i'r Brenin Siarl I ac achos y Brenhinwyr yn ystod Rhyfeloedd Cartref Lloegr (1642–51). Enw a roddwyd ar y Brenhinwyr gan y Seneddwyr oedd Cafaliriaid, a fabwysiadwyd ganddynt. Bu rhai ohonynt yn cyfansoddi telynegion, fel rheol canu serch, a nodid gan arddulliau a themâu cyffredin, a rhoddwyd felly yr enw Cafaliraidd ar y fath farddoniaeth. Yr enwocaf ohonynt oedd Richard Lovelace (1617–57), Thomas Carew (1595–1640), Syr John Suckling (1609–42), ac Edmund Waller (1606–87). Beirdd yn canu ar eu bwyd eu hunain oeddynt, yn wyrda a llyswyr, er cynhwysir yn fynych ambell delynegwr o'r cyfnod nad oedd yn Gafalîr yn yr ystyr wleidyddol, megis y clerigwr Robert Herrick (1591–1674).[1] Cyferbynnir y Cafaliriaid â'r Metaffisegwyr, grŵp arall o feirdd a flodeuai ym marddoniaeth Saesneg Lloegr yn hanner cyntaf yr 17g. Cyfansoddodd Andrew Marvell (1621–78) farddoniaeth sy'n nodweddiadol o'r ddau draddodiad.

Portread o Richard Lovelace, un o'r prif feirdd Cafaliraidd.

Tarddai'r traddodiad Cafaliraidd o waith Ben Jonson, dramodydd amlycaf Oes Iago wedi marwolaeth Shakespeare, a efelychodd farddoniaeth glasurol. Ei gerddi mwyaf dylanwadol yw ei delynegion a ysgrifennir i ferched. Yn ystod teyrnasiad Siarl I a'r rhyfeloedd cartref, mabwysiadwyd llinellau cryno ar batrwm Jonson gan Robert Herrick a'i gyfeillion a alwodd eu hunain yn "Feibion Ben". Delfrydau megis serch llys ac aristocratiaeth sydd yn nodweddu barddoniaeth y criw hwn. Neges gyffredin yn eu telynegion bachog, ffraeth sy'n annerch merched yw "cipio'r dydd" (carpe diem), er enghraifft "To His Coy Mistress" gan Marvell, "Go, lovely rose" gan Waller, "Why so pale and wan, fond lover?" gan Suckling, a "To Althea, from Prison" gan Lovelace.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), t. 181.